Cofair: main_language
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Iaith gyntaf neu ddewis iaith person.

Mae hyn yn dadansoddi'r ymatebion a roddwyd yn yr opsiwn ysgrifenedig ‘Arall, nodwch (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain)’.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 23

Cod Enw
1 Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru)
2 Cymraeg (yn Lloegr yn unig)
3 Unrhyw ieithoedd eraill y Deyrnas Unedig
4 Ffrangeg
5 Portiwgaleg
6 Sbaeneg
7 Ieithoedd Ewropeaidd arall (yn yr UE ac nid yn yr UE): Serbeg, Croateg neu Fosnieg
8 Unrhyw ieithoedd Ewropeaidd arall (UE)
9 Unrhyw ieithoedd Ewropeaidd arall (nad yw o'r UE)
10 Romani neu Iddew-Almaeneg
11 Rwsiaidd
12 Tyrceg
13 Arabeg
14 Ieithoedd Gorllewin neu Ganol Asia
15 Ieithoedd De Asia
16 Ieithoedd Dwyrain Asia
17 Ieithoedd Ynysoedd y De/Awstralia
18 Ieithoedd Gogledd/De America
19 Ieithoedd Creoliaith Caribïaidd
20 Ieithoedd Affricanaidd
21 Ieithoedd arwyddion ac â chymorth
22 Unrhyw ieithoedd eraill
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 2 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad prif iaith.

Cwestiwn a ofynnwyd

Beth yw eich prif iaith?

  • Cymraeg neu Saesneg
  • Arall, nodwch (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain)

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy ddangos i ddarparwyr gwasanaethau lleol ble mae angen gwasanaethau iaith. Mae'r gwasanaethau hyn i bobl yn eu hardal nad Cymraeg na Saesneg yw eu prif iaith. Er enghraifft:

  • gall fod angen i'r GIG ddarparu gwasanaethau cyfieithu a dehongli
  • gallai fod angen i awdurdod lleol wella argaeledd gwersi Saesneg
  • mae angen i bob corff cyhoeddus benderfynu sut mae'n gwneud gwybodaeth yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr yn ei ardal

Mae gwybodaeth am nifer y defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn helpu awdurdodau lleol. Mae'n ei helpu i gynllunio gwasanaethau a datblygu polisïau i ddiwallu anghenion pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2011.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu a dileu rhai categorïau o'r newidyn hwn, er enghraifft, nid yw rhai ieithoedd Affricanaidd ac Iaith Arwyddion Prydain wedi'u cyfuno yn newidyn 2021. Mae rhai ieithoedd wedi cael eu dileu o'r codio hefyd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r prif ieithoedd sydd wedi'u cynnwys yn y newidyn ar gyfer Cymru a Lloegr yn wahanol i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).