Cofair: ethnic_group_tb
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.

Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 20

Cod Enw
1 Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd
2 Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd
3 Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd
4 Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd
5 Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Asiaidd Arall
6 Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd
7 Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Caribïaidd
8 Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Du Arall
9 Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd
10 Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Affricanaidd
11 Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd
12 Grwpiau ethnig Cymysg neu Amlethnig: Grwpiau ethnig cymysg neu amlethnig eraill
13 Gwyn: Cymreig, Seisneg, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
14 Gwyn: Gwyddelig
15 Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
16 Gwyn: Roma
17 Gwyn: Gwyn Arall
18 Grŵp ethnig arall: Arabaidd
19 Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad grŵp ethnig.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Mae'r cwestiwn ynghylch y grŵp ethnig y mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn iddo yn un hunangofnodedig ac yn oddrychol ystyrlon i'r person sy'n ateb y cwestiwn. Mae hyn yn golygu y gall sut mae person yn dewis disgrifio ei hun newid dros amser.

Rydym wedi cynnwys categori Roma newydd wrth ymyl y blwch ticio ar gyfer Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig o fewn y categori Gwyn. Rydym hefyd wedi ychwanegu opsiwn i ysgrifennu ateb ar gyfer y rheini sy'n dewis Affricanaidd o fewn y Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd. Mae hyn yn golygu y gellid cofnodi cefndir ethnig mwy penodol.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn rhoi amcangyfrifon ar gyfer rhai grwpiau ethnig gwahanol, felly mae'n bosibl na ellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn