Cofair: hh_multi_religion_combination
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau’r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd, a oedd yn wirfoddol. Mae’r cyfuniadau hyn yn nodi:

  • cartrefi lle cafodd yr un hunaniaeth grefyddol ei nodi (ar gyfer pob un o'r 8 opsiwn ymateb)

  • pa gyfuniadau o grefyddau lluosog sydd yn y cartref

  • aelodau o'r cartref na wnaethant ateb y cwestiwn

  • cartrefi heb ddim crefydd

  • cartrefi â chrefyddau gwahanol

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac yn ystyried y rheini a atebodd y cwestiwn ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio â'i ateb.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 15

Cod Enw
1 Neb yn y cartref wedi ateb y cwestiwn am grefydd
2 Dim crefydd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd)
3 Crefydd Gristnogol yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
4 Crefydd Fwdhaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
5 Crefydd Hindŵaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
6 Crefydd Iddewig yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
7 Crefydd Fwslimaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
8 Crefydd Sicaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
9 Yr un grefydd Arall yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
10 Dim crefydd a Christnogaeth yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
11 Dim crefydd ac unrhyw grefydd arall (heb gynnwys Cristnogaeth, gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
12 Cristnogaeth ac unrhyw grefydd arall (heb gynnwys 'Dim crefydd', gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
13 Unrhyw gyfuniad arall o ddwy grefydd (heb gynnwys Cristnogaeth a 'Dim crefydd', gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
14 Unrhyw gyfuniad o dair crefydd neu fwy yn y cartref (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad cyfuniad o grefyddau yn y cartref.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Gwlad-benodol

Beth yw ystyr gwlad-benodol?

Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).