Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn cyfuniad o grefyddau yn y cartref dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad cyfuniad o grefyddau yn y cartref

Cofair: hh_multi_religion_combination

Cyfanswm nifer y categorïau: 15

Cod Enw
1 Neb yn y cartref wedi ateb y cwestiwn am grefydd
2 Dim crefydd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd)
3 Crefydd Gristnogol yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
4 Crefydd Fwdhaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
5 Crefydd Hindŵaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
6 Crefydd Iddewig yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
7 Crefydd Fwslimaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
8 Crefydd Sicaidd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
9 Yr un grefydd Arall yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
10 Dim crefydd a Christnogaeth yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
11 Dim crefydd ac unrhyw grefydd arall (heb gynnwys Cristnogaeth, gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
12 Cristnogaeth ac unrhyw grefydd arall (heb gynnwys 'Dim crefydd', gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
13 Unrhyw gyfuniad arall o ddwy grefydd (heb gynnwys Cristnogaeth a 'Dim crefydd', gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
14 Unrhyw gyfuniad o dair crefydd neu fwy yn y cartref (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad 6a cyfuniad o grefyddau yn y cartref

Cofair: hh_multi_religion_combination_6a

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Neb yn y cartref wedi ateb y cwestiwn am grefydd
2 Dim crefydd yn unig (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd)
3 Un grefydd wedi'i nodi yn y cartref (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
4 Dwy grefydd wedi'u nodi yn y cartref (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
5 Unrhyw gyfuniad o dair crefydd neu fwy yn y cartref (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.