Cofair: highest_qualification
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Daw'r lefel uchaf o gymhwyster o'r cwestiwn sy'n gofyn i bobl nodi pob cymhwyster sydd ganddynt, neu eu cymwysterau mwyaf cyfatebol.

Gall hyn gynnwys cymwysterau tramor lle cawsant eu paru â'r cymwysterau cyfatebol agosaf yn y Deyrnas Unedig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
0 Dim cymwysterau
1 Cymwysterau lefel 1 a lefel mynediad: 1 i 4 TGAU, gradd A* i C, Unrhyw TGAU graddau eraill, lefel O neu TAU (unrhyw radd), 1 lefel AS, NVQ lefel 1, GNVQ Sylfaen, Sgiliau Sylfaenol neu Hanfodol
2 Cymwysterau lefel 2: 5 neu fwy TGAU (A* i C neu 9 i 4), lefel O (llwyddo), TAU (gradd 1), Tystysgrif Ysgol, 1 lefel A, 2 i 3 lefel AS, VCE, Diploma Canolradd neu Uwch, Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru, NVQ lefel 2, GNVQ Canolradd, Crefft City and Guilds, Diploma Cyntaf neu Gyffredinol BTEC, Diploma RSA
3 Prentisiaeth
4 Cymwysterau lefel 3: 2 neu fwy lefel A neu VCE, 4 neu fwy lefel AS, Tystysgrif Ysgol Uwch, Diploma Estynedig neu Uwch, Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru, NVQ lefel 3; GNVQ Uwch, Crefft Uwch City and Guilds, ONC, OND, BTEC Cenedlaethol, Diploma Uwch RSA
5 Cymwysterau lefel 4 neu uwch: gradd (BA, BSc), gradd uwch (MA, PhD, TAR), NVQ lefel 4 i 5, HNC, HND, Diploma Uwch RSA, BTEC lefel uwch, cymwysterau proffesiynol (er enghraifft addysgu, nyrsio, cyfrifyddiaeth)
6 Arall: cymwysterau galwedigaethol neu gymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith, cymwysterau eraill a enillwyd yng Nghymru neu Loegr, cymwysterau a enillwyd y tu allan i Gymru neu Lloegr (cymwysterau cyfatebol heb eu nodi neu ddim yn hysbys)
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad lefel uchaf o gymhwyster.

Ansawdd gwybodaeth

Mae ystyriaethau ansawdd ynghylch cymwysterau addysg uwch, gan gynnwys y rheini ar lefel 4+, ymatebion gan bobl hŷn a mudwyr rhyngwladol a chymaroldeb â data Cyfrifiad 2011.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am addysg o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Mae'r categorïau ar gyfer y newidyn hwn yr un peth â'r rhai ar gyfer Cyfrifiad 2011. Fodd bynnag, yng Nghyfrifiad 2021, cafodd y cwestiwn ei ddiwygio a'i rannu er mwyn grwpio cymwysterau gwahanol gyda'i gilydd. Mae hyn yn golygu nad yw'n bosibl cymharu'r bobl a atebodd y cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 yn llawn â'r atebion o Gyfrifiad 2011. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd rhai pobl sydd â chymhwyster hŷn neu gymhwyster heb fod o'r Deyrnas Unedig wedi dewis lefel cymhwyster uwch wrth ateb y cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 nag y gwnaethant yng Nghyfrifiad 2011, er bod ganddynt yr un cymwysterau.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn casglu data gwahanol ar y mathau o gymwysterau sydd gan berson, felly gellir ei gymharu'n fras â'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn