Cofair: legal_partnership_status
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu person yn ôl ei statws priodasol cyfreithiol neu statws partneriaeth sifil gofrestredig ar Diwrnod y Cyfrifiad 21 Mawrth 2021.

Mae'r un peth â'r newidyn "Statws priodasol" yng Nghyfrifiad 2011 ond mae wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer Cyfrifiad 2021 er mwyn adlewyrchu'r Ddeddf Partneriaeth Sifil ddiwygiedig a ddaeth i rym yn 2019.

Yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021, mae "sengl" yn cyfeirio at rywun nad yw erioed wedi bod yn briod nac mewn partneriaeth sifil gofrestredig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 12

Cod Enw
1 Erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil
2 Priod: Rhyw arall
3 Priod: Yr un rhyw
4 Mewn partneriaeth sifil gofrestredig: Rhyw arall
5 Mewn partneriaeth sifil gofrestredig: Yr un rhyw
6 Wedi gwahanu, ond yn dal i fod yn briod
7 Wedi gwahanu, ond yn dal i fod mewn partneriaeth sifil gofrestredig
8 Wedi ysgaru
9 Wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol
10 Person gweddw
11 Wedi colli partner sifil drwy farwolaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad statws partneriaeth gyfreithiol.

Ansawdd gwybodaeth

Nid oes amcangyfrifon ar wahân gan bartneriaethau o'r naill ryw ac o'r un rhyw ar gyfer y categorïau statws priodasol “Wedi gwahanu”, “Wedi ysgaru/diddymu” ac “Yn weddw/wedi colli partner” ar gael. Mae hyn am fod prosesau sicrhau ansawdd wedi dangos nad oedd y ffigurau ar gyfer rhai o'r categorïau yn ddibynadwy.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu’r categori statws priodasol cyplau o’r un rhyw a’r categori statws partneriaeth sifil cyplau o’r rhyw arall sydd bellach yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol ers 2011. Felly, mae categorïau o’r un rhyw ac o’r rhyw arall ar gyfer y rhai mewn partneriaeth. Fodd bynnag, mae’r categorïau o’r un rhyw ac o’r rhyw arall ar gyfer statws partneriaeth gyfreithiol y tu allan i bartneriaeth (pobl sydd naill ai wedi gwahanu, yn weddw, wedi colli partner drwy farwolaeth, wedi ysgaru neu y mae eu partneriaeth wedi’i diddymu’n gyfreithiol) wedi’u cyfuno gyda’i gilydd oherwydd materion ansawdd data.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn gwahaniaethu rhwng priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw ac o'r naill ryw.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn