Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn statws partneriaeth gyfreithiol pedwar o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad statws partneriaeth gyfreithiol

Cofair: legal_partnership_status

Cyfanswm nifer y categorïau: 12

Cod Enw
1 Erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil
2 Priod: Rhyw arall
3 Priod: Yr un rhyw
4 Mewn partneriaeth sifil gofrestredig: Rhyw arall
5 Mewn partneriaeth sifil gofrestredig: Yr un rhyw
6 Wedi gwahanu, ond yn dal i fod yn briod
7 Wedi gwahanu, ond yn dal i fod mewn partneriaeth sifil gofrestredig
8 Wedi ysgaru
9 Wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol
10 Person gweddw
11 Wedi colli partner sifil drwy farwolaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 7a statws partneriaeth gyfreithiol

Cofair: legal_partnership_status_7a

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil
2 Priod
3 Mewn partneriaeth sifil gofrestredig
4 Wedi gwahanu, ond yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol
5 Wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol
6 Gweddw neu wedi colli partner sifil trwy farwolaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 6a statws partneriaeth gyfreithiol

Cofair: legal_partnership_status_6a

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil
2 Yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig
3 Wedi gwahanu, ond yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol
4 Wedi ysgaru neu'r bartneriaeth sifil wedi'i diddymu
5 Yn weddw neu wedi colli partner sifil trwy farwolaeth
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 3a statws partneriaeth gyfreithiol

Cofair: legal_partnership_status_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig
2 Statws priodasol neu statws partneriaeth sifil arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.