Cofair: hh_away_student
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae hyn yn mesur cartrefi lle mae myfyrwyr neu blant ysgol preswyl yn byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor.

Ni all plentyn ysgol na myfyriwr fod o dan 5 oed.

Caiff myfyrwyr neu blant ysgol sy'n aros yn eu hysgol yn llawn amser eu cyfrif fel preswylwyr yng nghyfeiriad eu hysgol. Os ydynt yn aros yno am 3 diwrnod yr wythnos neu lai, cânt eu cyfrif fel preswylwyr yn eu cyfeiriad cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Nid oes gan y cartref unrhyw fyfyrwyr neu nid oes ganddo unrhyw fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Yn 4 oed neu'n iau
2 Mae gan y cartref un myfyriwr sydd i ffwrdd: Yn 5 i 17 oed
3 Mae gan y cartref un myfyriwr sydd i ffwrdd: Yn 18 oed a throsodd
4 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae'r ddau yn 5 i 17 oed
5 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae un yn 5 i 17 oed ac mae un yn 18 oed a throsodd
6 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae'r ddau yn 18 oed a throsodd
7 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Mae pob un yn 5 i 17 oed
8 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Yn gyfuniad o 5 i 17 oed a 18 oed a throsodd
9 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Mae pob un yn 18 oed a throsodd

Gweld pob dosbarthiad cartrefi â myfyrwyr neu blant ysgol sy’n byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi cynyddu'r oedran ieuengaf y gellir dosbarthu person yn fyfyriwr o 4 i 5 oed.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).