Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn cartrefi â myfyrwyr neu blant ysgol sy’n byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad cartrefi â myfyrwyr neu blant ysgol sy’n byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor

Cofair: hh_away_student

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Nid oes gan y cartref unrhyw fyfyrwyr neu nid oes ganddo unrhyw fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Yn 4 oed neu'n iau
2 Mae gan y cartref un myfyriwr sydd i ffwrdd: Yn 5 i 17 oed
3 Mae gan y cartref un myfyriwr sydd i ffwrdd: Yn 18 oed a throsodd
4 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae'r ddau yn 5 i 17 oed
5 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae un yn 5 i 17 oed ac mae un yn 18 oed a throsodd
6 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd: Mae'r ddau yn 18 oed a throsodd
7 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Mae pob un yn 5 i 17 oed
8 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Yn gyfuniad o 5 i 17 oed a 18 oed a throsodd
9 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd: Mae pob un yn 18 oed a throsodd

Dosbarthiad 4a cartrefi â myfyrwyr neu blant ysgol sy’n byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor

Cofair: hh_away_student_4a

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Nid oes gan y cartref unrhyw fyfyrwyr sydd i ffwrdd
2 Mae gan y cartref un myfyriwr sydd i ffwrdd
3 Mae gan y cartref ddau fyfyriwr sydd i ffwrdd
4 Mae gan y cartref dri neu fwy o fyfyrwyr sydd i ffwrdd