Cofair: hh_family_composition
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Cartrefi yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau.

Caiff cartrefi un teulu eu dosbarthu yn ôl:

  • nifer y plant dibynnol
  • y math o deulu (teulu pâr priod, cwpwl partneriaeth sifil neu gwpwl sy'n cyd-fyw, neu deulu un rhiant)

Caiff cartrefi eraill eu dosbarthu yn ôl:

  • nifer y bobl
  • nifer y plant dibynnol
  • p'un a yw'r cartref yn cynnwys myfyrwyr yn unig neu bobl 66 oed a throsodd yn unig

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 15

Cod Enw
1 Cartref un person: Yn 66 oed a throsodd
2 Cartref un person: Arall
3 Cartref un teulu: Pob un yn 66 oed a throsodd
4 Cartref un teulu: Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Dim plant
5 Cartref un teulu: Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Plant dibynnol
6 Cartref un teulu: Pâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
7 Cartref un teulu: Teulu cwpwl sy'n cyd-fyw: Dim plant
8 Cartref un teulu: Teulu cwpwl sy'n cyd-fyw: Â phlant dibynnol
9 Cartref un teulu: Teulu cwpwl sy'n cyd-fyw: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
10 Cartref un teulu: Teulu un rhiant: Â phlant dibynnol
11 Cartref un teulu: Teulu un rhiant: Yr holl blant heb fod yn ddibynnol
12 Mathau eraill o gartrefi: Cartrefi eraill sy’n perthyn: Cyfansoddiad teuluol arall
13 Mathau eraill o gartrefi: Â phlant dibynnol
14 Mathau eraill o gartrefi: Arall, gan gynnwys pob un yn fyfyrwyr amser llawn a phob un yn 66 oed a throsodd
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad cyfansoddiad y cartref.

Ansawdd gwybodaeth

Mae ystyriaethau ansawdd yn ymwneud â chysondeb data’r cyfrifiad ar gyfansoddiad y cartref a’r teulu a statws partneriaeth gyfreithiol, a newidiadau yn y diffiniad o "fathau eraill o gartrefi" ers 2011.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Mae hyn yn deillio o'r newidyn statws partneriaeth gyfreithiol. Rydym wedi gwneud newidiadau er mwyn adlewyrchu'r ffaith y gall pobl bellach briodi rhywun o'r un rhyw ac y gall cyplau o'r naill ryw fod mewn partneriaeth sifil.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn caniatáu gwahaniaethu rhwng cyplau mewn perthnasoedd o'r un rhyw ac o'r naill ryw, ond nid yw'n gwahaniaethu rhwng unig rieni gwrywaidd a benywaidd. Mae hyn yn golygu y gall y categorïau allbwn a gynhyrchwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr fod yn wahanol i'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn