Cofair: hh_adults_and_children
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn diffinio cartrefi yn ôl oedran y bobl ynddynt. Yn y dosbarthiad hwn, mae “oedolyn” yn cyfeirio at unrhyw berson 16 oed a throsodd ac mae “plentyn” yn cyfeirio at unrhyw berson dan 16 oed. Nid yw'n ystyried y cydberthnasau rhwng pobl mewn cartrefi.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 13

Cod Enw
1 Cartref un person: Un oedolyn 66 oed neu drosodd
2 Cartref un person: Un oedolyn 65 oed neu drosodd
3 Cartref un person: Un plentyn
4 Dim oedolion
5 Un oedolyn: Un neu fwy o blant
6 Dau oedolyn: Un oedolyn 65 oed neu'n iau ac un oedolyn 66 oed neu drosodd: Dim plant
7 Dau oedolyn: Mae'r ddau oedolyn yn 66 oed neu drosodd: Dim plant
8 Dau oedolyn: Mae'r ddau oedolyn yn 65 oed neu'n iau: Dim plant
9 Dau oedolyn: Un neu ddau o blant
10 Dau oedolyn: Tri neu fwy o blant
11 Tri neu fwy o oedolion: Un neu fwy o blant
12 Tri neu fwy o oedolion: Dim plant
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad oedolion a phlant yn y cartref.

Ansawdd gwybodaeth

Rydym wedi gwneud addasiadau methedolegol i’r data ar gyfer plant 0 i 2 oed. Mae hyn oherwydd bod pobl yn aml yn anghofio ychwanegu eu babanod at eu cyfrifiad. Mewn rhai mannau mae’r data’ndangos nifer uwch na’r disgwyl o gartrefi plant yn unig.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu categori newydd, “Dau oedolyn o unrhyw oedran ac un neu ddau o blant”, at y newidyn deilliedig hwn. Rydym hefyd wedi cynyddu'r terfyn oedran uchaf i 66 oed a throsodd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn allbynnu rhai categorïau gwahanol i'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).