Yn y SYG, rydym yn casglu ac yn prosesu data er mwyn creu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU. Mae pobl yn defnyddio'r ystadegau hyn i wneud penderfyniadau pwysig am bethau sy'n effeithio ar bob un ohonom, fel faint o dai sydd eu hangen arnom a nifer y lleoedd sydd eu hangen mewn ysgolion a cholegau.  

Mewn rhai achosion, gofynnir i ni ddarparu ystadegau mewn ymateb i faterion pwysig. Mae hyn yn helpu i lywio penderfyniadau pwysig, fel yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). 

Pwysigrwydd ystadegau annibynnol 

Ni yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y DU ac mae ein hystadegau yn ddiduedd ac nid oes unrhyw reolaeth wleidyddol drostynt. Rydym yn rhan o Awdurdod Ystadegau'r DU, sef un o adrannau anweinidogol y llywodraeth sy'n atebol yn uniongyrchol i Senedd y DU.  

Cyhoeddi ystadegau er budd y cyhoedd 

Ym mis Gorffennaf 2020, lansiodd yr Awdurdod ei strategaeth bum mlynedd ar gyfer system ystadegol swyddogol y DU: Statistics for the public good (yn Saesneg). Nododd y strategaeth hon genhadaeth yr Awdurdod i gynhyrchu data a dadansoddiadau o ansawdd uchel er mwyn llywio'r DU, gwella bywydau ac adeiladu'r dyfodol. 

Mae ein gwaith yn chwarae rôl bwysig yn y strategaeth hon. Pan fyddwn yn dweud bod ein hystadegau "er budd y cyhoedd", rydym yn golygu bod y wybodaeth sy'n deillio ohonynt yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy hyddysg. Gall y penderfyniadau hyn fod o fudd i gymdeithas.  

O ble rydym yn cael ein data 

Rydym yn gofyn i bobl am y data sydd eu hangen arnom drwy arolygon a'r cyfrifiad a gaiff ei gynnal yng Nghymru a Lloegr bob 10 mlynedd. Ni fyddai'n effeithlon arolygu'r boblogaeth gyfan yn rheolaidd. Felly, rydym yn cymryd croestoriad o'r boblogaeth ac yn gwneud amcangyfrifon dibynadwy sy'n dangos tueddiadau yn ein cymdeithas. 

Ar ben hyn, rydym hefyd yn defnyddio data sydd eisoes yn bodoli a gaiff eu casglu gan sefydliadau eraill. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth y bydd pobl yn ei rhoi pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, fel y systemau treth a budd-daliadau. "Data gweinyddol" yw'r enw ar hyn. 

Byddwn hefyd yn defnyddio rhai ffynonellau data amgen gan sefydliadau masnachol, fel manwerthwyr a chwmnïau trafnidiaeth. 

Gall gwybodaeth am ddata ac ystadegau fod yn ddryslyd ac yn gymhleth. Dysgwch fwy a chael atebion i rai o'r cwestiynau a allai fod gennych am ddata.    

Beth bynnag fo'r data, diogelu eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth. Dysgwch fwy am sut rydym yn cadw data yn ddiogel ac yn gyfrinachol

Cynnal ymddiriedaeth drwy ein strategaeth ddata 

Caiff ein holl waith ei arwain gan ein Strategaeth Ddata.  

Mae gan y strategaeth wyth cenhadaeth a fydd yn helpu i gyflawni ein nod o fod y sefydliad mwyaf dibynadwy a chydgysylltiedig a gaiff ei ysgogi gan ddata yn y sector cyhoeddus. Y rhain yw: 

  • integreiddio data a saernïaeth 

  • cyflawni strategol ac ymgysylltu 

  • ymddiriedaeth y cyhoedd mewn data 

  • taith ddata lyfn o'r dechrau i'r diwedd 

  • caffael a mynediad at ddata 

  • ansawdd data 

  • diogelu data a moeseg 

  • galluogrwydd data 

Darllenwch fwy am ein Strategaeth Ddata (yn Saesneg)

Trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau 

Rydym yn trawsnewid y ffyrdd rydym yn casglu ac yn defnyddio data er mwyn cynhyrchu ystadegau mwy rheolaidd, perthnasol a chyfredol. 

Mae'r byd yn newid yn gyflym. Er mwyn cadw i fyny â'r newidiadau hyn, mae angen i ni eu holrhain ac addasu'r ffordd rydym yn gweithio gyda data. Drwy wneud hyn, gallwn gynhyrchu ystadegau sy'n diwallu anghenion pawb yn well. 

Dysgwch fwy am ein cynlluniau trawsnewid penodol ar gyfer ystadegau am y boblogaeth a mudo

Gwyliwch ein fideo wedi'i animeiddio i ddysgu am pam rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau poblogaeth [yn agor chwaraewr fideo YouTube mewn ffenestr newydd]. 

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'n fideo wedi'i animeiddio i ddysgu am pam rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau poblogaeth [yn agor chwaraewr fideo YouTube mewn ffenestr newydd]. 

Rhannu'r hyn rydym yn ei wybod am agweddau pobl at ddata 

Rydym yn gwybod bod rhai pobl yn ddigon bodlon rhannu eu data â ni, oherwydd dyna y maent wedi'i ddweud wrthym. Maent yn ymddiried ynom i gadw eu gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gwybod y bydd eu data yn helpu i lywio penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom. 

Rydym am gael gwybod mwy am farn pobl am rannu eu data a sut y caiff data eu defnyddio. I'n helpu ni i ddeall agweddau pobl at ddata, byddwn yn mynd ati'n rheolaidd i edrych ar waith ymchwil: 

  • rydym yn ei wneud ein hunain 

  • rydym yn gofyn i sefydliadau eraill ei wneud ar ein rhan 

  • y mae sefydliadau eraill yn ei wneud 

Byddwn yn parhau i gyfathrebu a cheisio barn pobl am y ffordd rydym yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau swyddogol. 

Dysgwch fwy am agweddau pobl at ddata

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: