Pwysigrwydd ystadegau poblogaeth a mudo
Mae ystadegau poblogaeth a mudo yn sail i benderfyniadau a pholisïau ledled ein cymdeithas a'n heconomi ar lefel genedlaethol a lleol ac ar gyfer cymunedau gwahanol. Er enghraifft, maent yn hollbwysig wrth bennu:
faint o dai sydd eu hangen arnom
nifer y lleoedd addysg
gofynion seilwaith eraill
Mae'r ystadegau rydym yn eu cynhyrchu yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ffynhonnell ddibynadwy o ddata swyddogol am y boblogaeth a mudo. Cânt eu defnyddio gan adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, busnesau, elusennau a llawer mwy i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb.
Pam ein bod yn trawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo?
Ers dros 200 mlynedd, y cyfrifiad fu'r brif ffordd o gasglu data ar gyfer ystadegau poblogaeth ac maent yn rhoi darlun cyfoethog o'n cymdeithas ar lefel genedlaethol a lleol. Ond dim ond unwaith bob deng mlynedd y mae'n digwydd. Caiff data'r cyfrifiad eu diweddaru bob blwyddyn gan ddefnyddio data gweinyddol ac o arolygon. Fodd bynnag, bydd yr ystadegau hyn yn mynd yn llai cywir dros y degawd ac nid oes manylion lleol ar bynciau pwysig ar gael rhwng blynyddoedd y cyfrifiad.
Mae'r rhai sy'n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau wedi dweud wrthym yn aml y byddent yn cael budd o ystadegau mwy rheolaidd ac amserol. Bydd gwneud mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol yn ein helpu i ddiwallu'r anghenion hyn.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau o bob rhan o'r llywodraeth a'r sector cyhoeddus, mae'r gallu gennym i gynhyrchu ystadegau mwy amserol a rheolaidd am ardaloedd lleol mewn perthynas â maint a strwythur y boblogaeth a'i ei nodweddion. Am ragor o wybodaeth am ddynameg newid yn y boblogaeth, gweler ein herthygl Model dynameg y boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr: Gorffennaf 2022 (Saesneg yn unig).
Mae'r system ystadegol ar ei newydd wedd a gynigir yn ymatebol i anghenion newidiol defnyddwyr a bydd yn rhoi ystadegau mwy rheolaidd i ddefnyddwyr am y boblogaeth, a hynny o ansawdd uchel cyson bob blwyddyn.
Gwyliwch ein fideo wedi'i animeiddio i ddysgu mwy am pam rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau.
Data gweinyddol
Data a gaiff eu casglu at ddibenion gweinyddol neu weithredol yn bennaf yw data gweinyddol. Maent yn cynnwys gwybodaeth y bydd pob un ohonom yn ei darparu pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth, budd-daliadau, iechyd ac addysg. Er enghraifft, rydym yn defnyddio nifer y genedigaethau a'r marwolaethau cofrestredig ynghyd â data am iechyd a data o'r cyfrifiad i greu ystadegau am anghydraddoldebau iechyd mewn dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol, yn seiliedig ar alwedigaeth person.
Data cysylltiol
Mae "data cysylltiol" yn golygu cysylltu â ffynonellau data eraill. Rydym yn gwneud hyn er mwyn nodi patrymau a gwybodaeth newydd.
Gwnaethom ddefnyddio data cysylltiol, fel data trafnidiaeth gyhoeddus, wedi'i gyfuno â gwybodaeth o'n Harolwg Heintiadau COVID-19 ein hun, i'n helpu i ddeall cyfraddau heintio ymhlith grwpiau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Sut rydym yn diogelu cyfrinachedd data
Mae SYG yn hen law ar ddiogelu data sensitif. Rydym wedi meithrin y gallu hwn dros sawl degawd o gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ac arolygon rheolaidd mwyaf y DU o gartrefi. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen Ffynonellau data a pholisïau (Saesneg yn unig).
Mae SYG yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn golygu, pan fyddwn yn ystyried ffyrdd newydd o ddefnyddio data personol, gallwn sicrhau bod y defnydd yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn dryloyw cyn parhau. Pan fyddwn yn nodi risgiau posibl, byddwn yn cynhyrchu Asesiadau o'r Effaith ar Ddiogelu Data hefyd. Mae'r rhain yn angenrheidiol er mwyn deall risgiau i ddiogelwch data a'u lliniaru.
Rydym yn diogelu data gweinyddol i'r un safonau uchel â data'r cyfrifiad. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol i gynnal cyfrinachedd o dan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 a Deddf Diogelu Data 2018. Mae cosbau cryf ar waith i atal unrhyw un rhag datgelu neu geisio datgelu data personol.
Dim ond nifer bach o weithwyr SYG all gael gafael ar ddynodwyr personol, fel enw a chyfeiriad manwl. Unwaith y caiff data eu cysylltu, caiff dynodwyr personol eu tynnu o'r data a ddefnyddir ar gyfer gwaith dadansoddi ystadegol ehangach.
Mae ein holl weithdrefnau, systemau a staff yn diogelu'r data a'ch cyfrinachedd yn unol â'r gyfraith, felly ni ellir adnabod neb yn yr ystadegau a gaiff eu cyhoeddi gennym.
Gweddill y Deyrnas Unedig
Mae'r SYG yn gyfrifol am y cyfrifiad ac ystadegau am y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr ac felly bydd yr ymgynghoriad ac argymhelliad dilynol yr Ystadegydd Gwladol yn ymwneud â Chymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru.
Mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn datblygu eu cynlluniau ar yr un pryd; y gweinyddiaethau datganoledig perthnasol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y dull gweithredu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer y dyfodol.
Llofnododd yr Ystadegydd Gwladol, y Cofrestrwyr Cyffredinol a'r Prif Ystadegwyr gytundeb i gydweithredu ar ystadegau am y boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol yn y dyfodol ym mis Tachwedd 2022 a fydd yn cefnogi'r gwaith o gynhyrchu ystadegau cydlynol am y DU, y gellir eu cymharu rhwng gwledydd y DU.
Mae'r broses o roi'r cytundeb ar waith yn cael ei hadolygu'n flynyddol gan y llofnodwyr ac mae'r pedair gwlad yn parhau i ymgysylltu â'i gilydd.
Adroddiad Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Mae'r Swyddfa ystadegau Gwladol (SYG) wedi ymrwymo i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd ei holl benderfyniadau. Er mwyn helpu i gyflawni'r nod hwn, mae'r SYG wedi cynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb: Dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr -- asesiad effaith cydraddoldeb (saesneg yn unig) yn ymwneud â'i chynigion ar gyfer trawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo.
Ein proses drawsnewid
Mae gan y Llywodraeth uchelgais y caiff ffynonellau data eraill eu defnyddio i gynnal cyfrifiadau ar ôl 2021 ac y bydd cyfrifiadau yn darparu gwybodaeth ystadegol fwy amserol." Ym Mhapur Gwyn Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021, sydd ar gael ar wefan GOV.UK, gwnaethom ymrwymo i ddarparu argymhellion ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.
Ers hynny, rydym wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil helaeth er mwyn cael tystiolaeth ar gyfer ein hargymhellion. Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi ystyried defnyddio ffynonellau gweinyddol yn bennaf i gynhyrchu amcangyfrifon am y boblogaeth a'i nodweddion.
Mae ein tudalen diweddariadau cynnydd yn nodi sut rydym yn datblygu'r gwaith hwn.
Yr ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr
Wrth i'n proses drawsnewid fynd rhagddi, byddwn yn parhau i ymgysylltu â defnyddwyr o bob rhan o'r llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector a'r byd academaidd.
Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu hwn, gwnaethom gynnal ymgynghoriad a ddechreuodd ar 29 Mehefin 2023 ac a ddaeth i ben ar 26 Hydref 2023.
I gefnogi'r ymgynghoriad, gwnaethom gynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron, gweminarau a chyfarfodydd ag amrywiaeth eang o ddefnyddwyr o'r sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal ag elusennau a grwpiau cymunedol. Gwnaethom ofyn am eu barn am sut y gallai ein cynigion ar gyfer dull newydd o gynhyrchu ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr ddiwallu eu hanghenion o gymharu â'r dull presennol.
Bydd yr ymatebion sydd wedi dod i law yn llywio argymhelliad i'r Llywodraeth gan Awdurdod Ystadegau'r DU, yn unol â chyngor yr Ystadegydd Gwladol.
Mae rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am yr ymgynghoriad ar gael ar dudalen Diweddariadau a chyhoeddiadau’r Ymgynghoriad