Pa fath o ddata y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn eu casglu?

Er mwyn cynhyrchu ein hystadegau, rydym yn casglu data am amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys oedran, rhyw, cyflog a llesiant. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am bethau fel statws cyflogaeth, yn ogystal â digwyddiadau pwysig mewn bywyd fel genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddiogelu data personol. Mae'n drosedd datgelu gwybodaeth a gedwir gennym yn amhriodol lle mae hynny'n golygu y gellir adnabod unigolyn neu fusnes.

Byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth a allai adnabod rhywun o'r data rydym yn eu defnyddio, ac mae mesurau diogelu trwyadl ar waith i sicrhau y caiff preifatrwydd pawb ei ddiogelu.

Sut ydych chi'n storio data ac yn cadw data'n ddiogel?

Diogelwch eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth, ac mae gennym hanes hir o ddiogelu data'r cyhoedd yn llwyddiannus.

Rydym yn cadw data yn ddiogel, yn unol â'n polisi diogelu data (yn Saesneg). Rydym yn defnyddio mesurau diogelu gwybodaeth o'r radd flaenaf a gaiff eu profi'n rheolaidd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Dim ond ymchwilwyr cymeradwy a hyfforddedig all gael gafael ar y data, a hynny mewn mannau diogel yn unig. Nid ydym yn caniatáu i unrhyw un dynnu'r data hyn o'n systemau diogel.

Dysgwch fwy am sut rydym yn cadw data yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

Am ba hyd ydych chi'n storio data?

Mae cyfraith diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i beidio â chadw data personol am fwy nag sydd angen, yn dibynnu ar sut y byddwn yn defnyddio'r data. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn caniatáu i wybodaeth sy'n cael ei chadw at ddibenion ystadegol gael ei chadw am ychydig yn hirach.

Byddwn ond yn parhau i gadw data personol tra byddwn yn dal i ddefnyddio'r data i gynhyrchu ystadegau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod data yn ddad-adnabyddedig neu wedi'u hanonymeiddio ar y cam cynharaf posibl. Mae hyn yn golygu tynnu'r holl wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolyn.

A yw data yn cael eu rhannu â sefydliadau eraill?

Er nad yw'r rhan fwyaf o feysydd gwaith yn y SYG yn rhannu data ag unrhyw drydydd partïon, rydym yn gweithredu Gwasanaeth Ymchwil Diogel (yn Saesneg). Mae'r Gwasanaeth hwn yn rhoi mynediad diogel i ymchwilwyr achrededig at ddata dad-adnabyddedig nad ydynt wedi'u cyhoeddi.

Heb y Gwasanaeth Ymchwil Diogel, ni allai cyrff y llywodraeth a chynghorau lleol, elusennau, busnesau ac unigolion gael gafael ar ffeithiau a ffigurau dibynadwy i'w helpu i wneud penderfyniadau pwysig.

Rydym wedi cael ein hachredu gan Awdurdod Ystadegau'r DU ar gyfer paratoi a darparu data at ddibenion ymchwil. Rydym hefyd yn cyrraedd y safonau a nodir yng Nghod Ymarfer Ymchwil a Datganiad o Egwyddorion Meini Prawf Achredu Deddf yr Economi Ddigidol (yn Saesneg), sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Senedd y DU.

O ble ydych chi'n cael data?

Rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Daw rhai o'r data hyn o'n harolygon ein hunain. Rydym yn cynnal yr arolygon hyn ar lein, drwy holiaduron a gaiff eu hanfon drwy'r post, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Rydym hefyd yn cynnal y cyfrifiad bob 10 mlynedd. Mae hyn yn rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu yn y cyfrifiad yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol.

Rydym yn defnyddio data o ffynonellau eraill hefyd. Mae hyn yn cynnwys “data gweinyddol”, sef gwybodaeth y bydd pob un ohonom yn ei darparu pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth, budd-daliadau, iechyd ac addysg.

Rydym yn cael data gan adrannau'r llywodraeth ganolog, gan gynnwys:

  • yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • y Swyddfa Gartref
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi

Rydym hefyd yn cael data gan gyrff cyhoeddus eraill, fel:

  • NHS England
  • awdurdodau lleol
  • yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch

Ac rydym yn cael data gan sefydliadau masnachol. Gallwch weld rhai o'r ffynonellau data amgen hyn yn ein cynlluniau i drawsnewid ystadegau am brisiau defnyddwyr yn y DU (yn Saesneg). Yn eu plith mae'r canlynol:

  • Auto Trader
  • y Rail Delivery Group
  • data sganwyr ar y cam gwerthu gan rai o fanwerthwyr mwyaf y DU, gan gynnwys Co-op

Gallwch weld casgliad o'n ffynonellau data (yn Saesneg), gan gynnwys ffynonellau gweinyddol a masnachol, a gwybodaeth bellach am ffynonellau iechyd.

Rydym am drawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau yn y SYG drwy ddefnyddio ffynonellau data newydd ac arloesol. Drwy wneud hyn, gallwn gadw i fyny ag anghenion newidiol cymdeithas.

Beth mae trawsnewid y ffordd rydych yn cynhyrchu ystadegau yn ei olygu?

Mae'r byd yn newid yn gyflym, ac mae angen i ni olrhain y newidiadau hyn ac addasu ein dulliau. Bydd hyn yn sicrhau bod ein hystadegau yn gyfredol ac mor gywir ag y gallant fod. Dyna pam ein bod ni am drawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau yn y SYG.

Fel rhan o'r broses drawsnewid hon, byddwn yn newid ac yn diweddaru'r ffordd rydym yn cael mynediad at ddata, a sut rydym yn eu defnyddio, eu prosesu a'u darparu.

Drwy ddefnyddio ffynonellau data newydd ac arloesol, fel data gweinyddol a data cysylltiol, gallwn wneud ein hystadegau yn fwy manwl, rheolaidd, perthnasol a chywir.

Bydd trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau hefyd yn ein galluogi i ymateb yn gyflymach i anghenion newidiol y bobl a'r sefydliadau sy'n defnyddio ein data.

Gallwch ddysgu mwy am sut rydym yn trawsnewid ein hystadegau a dweud eich dweud drwy ymateb i'n hymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.

Gwyliwch ein fideo wedi'i animeiddio i ddysgu mwy am pam rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ystadegau poblogaeth a mudo [yn agor chwaraewr fideo YouTube mewn ffenestr newydd].

Beth yw ystadegau poblogaeth a mudo?

Rydym yn cyhoeddi ystadegau poblogaeth a mudo sy'n disgrifio nifer y bobl sy'n byw mewn rhannau gwahanol o'r wlad. Maent hefyd yn dangos sut mae nifer y bobl yn newid dros amser.

Mae angen y wybodaeth ddiweddaraf ar sefydliadau am faint y boblogaeth ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol, a'r bobl wahanol sy'n rhan ohoni. Hefyd, mae angen dealltwriaeth arnynt o'r ffordd y mae symudiadau pobl yn newid dros ddiwrnodau, misoedd a thymhorau. Mae hyn yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion newidiol cymunedau gwahanol, o gasglu gwastraff i argaeledd mannau gwyrdd.

Mae adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, busnesau, elusennau a llawer mwy o sefydliadau yn defnyddio ystadegau am y boblogaeth a mudo i lywio penderfyniadau a pholisïau sy'n effeithio ar bawb. Er enghraifft, gallant helpu i benderfynu faint o dai sydd eu hangen arnom a nifer y lleoedd sydd eu hangen mewn ysgolion ac ysbytai.

Beth yw'r Model Poblogaeth Dynamig?

Er mwyn creu amcangyfrifon o'r boblogaeth, rydym yn defnyddio data o'r cyfrifiad a gaiff eu casglu gennym bob 10 mlynedd. Bob blwyddyn, byddwn yn ychwanegu genedigaethau a phobl sy'n symud i mewn i'r wlad neu'r ardal leol ac yn tynnu pobl sydd wedi marw neu sydd wedi symud i ffwrdd.

Ond bydd cywirdeb yr amcangyfrifon hyn yn dirywio wrth i ni symud oddi wrth flwyddyn y cyfrifiad ac, oherwydd bod ein poblogaeth yn newid yn gyflymach nag erioed, mae angen y wybodaeth hon yn gyflymach ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Er mwyn diwallu'r angen hwn, ac fel rhan o'n cynlluniau trawsnewid, rydym wedi datblygu'r Model Poblogaeth Dynamig (yn Saesneg).

Mae'r Model Poblogaeth Dynamig yn dal i ddefnyddio gwybodaeth am enedigaethau, marwolaethau a mudo mewnol a rhyngwladol, ond mae hefyd yn defnyddio gwybodaeth newydd, ac mae'n defnyddio mwy ohoni mewn ffyrdd gwahanol er mwyn cael y gorau o'r holl ffynonellau data sydd ar gael.

Rydym wedi creu'r Model Poblogaeth Dynamig i gynhyrchu ystadegau sy'n:

  • hyblyg a chadarn
  • cywir ac amserol
  • ymatebol a chlyfar
  • dibynadwy ac o ansawdd uchel

Gwyliwch ein fideo wedi'i animeiddio am y Model Poblogaeth Dynamig [yn agor chwaraewr fideo YouTube mewn ffenestr newydd] i ddysgu mwy.

Beth yw'r Fframwaith Rheoli Data Cyfeirio?

Gwasanaeth sydd wedi cael ei ddatblygu a'i greu gennym ni yn y SYG yw'r Fframwaith Rheoli Data Cyfeirio. Mae'n galluogi dadansoddwyr i gysylltu data yn rhwydd mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol, gan gefnogi gwaith ymchwil a dadansoddi mwy effeithiol. Yn y dyfodol, bydd ar gael i weddill y llywodraeth er mwyn prosesu, cysylltu a chyfoethogi data.

Mae'r fframwaith yn cynnwys pum mynegai sy'n cysylltu ac yn paru data am:

  • gyfeiriadau
  • busnesau
  • dosbarthiadau
  • demograffeg
  • lleoliad

Bydd y Fframwaith yn galluogi dadansoddwyr i gael gafael ar ddata sydd wedi'u cysylltu mewn ffordd safonedig. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i ddiogelu preifatrwydd unigolion ac mae'n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio setiau data mewn ffordd foesegol a diogel.

Beth yw'r Gwasanaeth Data Integredig?

Llwyfan digidol canolog diogel yw'r Gwasanaeth Data Integredig (yn Saesneg) sy'n rhoi mynediad at adnoddau data, dadansoddi a delweddu uwch. Mae'n galluogi ymchwilwyr achrededig i gynhyrchu gwybodaeth am y prif faterion sy'n wynebu cymdeithas yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae'r Gwasanaeth Data Integredig yn wasanaeth trawslywodraethol. Mae datblygu'r gwasanaeth hwn yn gam pwysig yn y broses o gyflawni nodau Strategaeth Ddata Genedlaethol y llywodraeth.

Mae cydweithio yn bwysig i lwyddiant y Gwasanaeth Data Integredig. Yn y SYG, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ym mhob rhan o'r llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig a'r gymuned ymchwil allanol i arwain y gwaith o'i gyflawni.