Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddiogelu gwybodaeth bersonol. Mae'n drosedd datgelu gwybodaeth a gedwir gennym yn amhriodol lle mae hynny'n golygu y gellir adnabod unigolyn neu fusnes.
Y mesurau rydym yn eu rhoi ar waith i gadw eich data yn ddiogel
Rydym yn trin yr holl wybodaeth bersonol a gedwir gennym â pharch, gan ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Dim ond ymchwilwyr cymeradwy a hyfforddedig all gael gafael ar y data, a hynny mewn mannau diogel yn unig. Nid ydym yn caniatáu i unrhyw un dynnu'r data hyn o'n systemau diogel ac nid ydym yn cael budd ariannol o brynu neu werthu unrhyw ddata.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i ddiogelu gwybodaeth bersonol o ddifrif ac rydym yn adolygu ac yn adnewyddu ein gweithdrefnau yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn ac yn effeithiol.
Dysgwch fwy am ein polisi diogelu data (yn Saesneg).
Sicrhau na all neb gael eu hadnabod yn yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi
Rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy'n gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Ystyr gwybodaeth bersonol yw unrhyw wybodaeth y gallai rhywun ei defnyddio i'ch adnabod. Er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad neu'ch dyddiad geni.
Ar gyfer yr holl ystadegau a gaiff eu cyhoeddi gennym, byddwn yn defnyddio prosesau a gaiff eu galw'n ddulliau rheoli datgelu ystadegol. Mae'r rhain yn atal y posibilrwydd y gellir adnabod unigolyn, cartref neu fusnes, neu nodweddion sy'n ymwneud ag ef. Mae hyn yn ddyletswydd gyfreithiol a moesegol ac yn un o ofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (yn Saesneg). Mae hefyd yn egwyddor ryngwladol o arfer ystadegol da rydym yn ei dilyn bob amser.
Dysgwch fwy am ein dulliau rheoli datgelu ystadegol (yn Saesneg).
Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i greu ystadegau
Rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Daw rhywfaint o'r wybodaeth hon o'n harolygon ein hunain a daw rhywfaint o ffynonellau eraill, ond ni ellir adnabod unrhyw unigolyn yn yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.
Er mwyn troi'r holl wybodaeth bersonol hon yn ystadegau, mae angen dilyn camau penodol er mwyn sicrhau bod yr ystadegau yn ddibynadwy, yn gyflawn ac yn gyfrinachol.
Yn gyntaf, byddwn yn casglu'r data o ymatebion ar-lein, copïau papur caled neu gymysgedd o'r ddau. Yna gallwn lanhau'r data, gan chwilio am unrhyw achosion o ddyblygu neu wallau eraill. Nesaf, byddwn yn defnyddio dulliau ystadegol cydnabyddedig a gynlluniwyd yn ofalus i lenwi unrhyw fylchau yn y data. Yna byddwn yn trawswirio ein data i wneud yn siŵr bod gennym ystadegau o ansawdd uchel. Byddwn hefyd yn sicrhau bod data yn ddad-adnabyddedig neu wedi'u hanonymeiddio ar y cam cynharaf posibl. Mae hyn yn golygu tynnu'r holl wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolyn.
Drwy gydol y broses, diogelwch a chyfrinachedd eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth.
Cysylltu data mewn ffordd foesegol a diogel
Rydym wedi datblygu gwasanaeth sy'n galluogi dadansoddwyr i gysylltu data yn hawdd mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol. Mae'r Fframwaith Rheoli Data Cyfeirio yn cynnwys pum mynegai sy'n cysylltu ac yn paru data am gyfeiriadau, busnesau, dosbarthiadau, demograffeg a lleoliad. Mae hyn yn ein galluogi i ddiogelu preifatrwydd unigolion ac mae'n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio setiau data.
Bod yn agored ac yn onest am y wybodaeth rydym yn ei defnyddio
Er mwyn ein gwneud yn fwy tryloyw ac atebol, rydym yn gweithio tuag at gyhoeddi rhagor o wybodaeth am beth rydym yn ei wneud (yn Saesneg) a sut rydym yn gweithio yn y SYG.
Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am o ble rydym yn cael ein data. Er enghraifft, rydym yn defnyddio "data gweinyddol", sef gwybodaeth y bydd pob un ohonom yn ei darparu pan fyddwn yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fel y systemau treth a budd-daliadau. Rydym hefyd yn cael data gan gyrff cyhoeddus eraill ac o ffynonellau data amgen, fel archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill.
Dysgwch fwy am ein ffynonellau data (yn Saesneg).
Gallwch ofyn am y wybodaeth sydd gennym am unrhyw bwnc o'ch dewis. Gallwch wneud hyn drwy gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth.
Dysgwch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth (yn Saesneg).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cynhyrchion neu'r wybodaeth rydym yn ei chadw, cysylltwch â ni (yn Saesneg).
Rydym hefyd yn rhannu'r hyn rydym yn ei wybod am agweddau pobl at ddata ac yn ceisio barn pobl am y ffordd rydym yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau swyddogol.