A ydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg y SYG ac yn meddwl tybed beth mae hynny’n ei olygu? Bydd ein fideo yn egluro beth sy’n digwydd, pam mae angen y wybodaeth arnom a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel ac yn saff.

Pwy yw’r SYG a beth yw arolwg y SYG?

Y SYG yw prif gynhyrchydd ystadegau swyddogol y DU. Drwy ein harolygon, rydym yn casglu data sy’n helpu unigolion a sefydliadau i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU. Rydym yn cyfweld â phobl fel chi ac yn gofyn cwestiynau sy’n cwmpasu ystod o bynciau, gan gynnwys:

  • iechyd
  • tai
  • cyflogaeth
  • addysg
  • costau byw
  • teithio

Pam ddylech chi gymryd rhan?

Bydd eich gwybodaeth yn sicrhau bod ein hystadegau’n gywir, yn gyfredol ac yn adlewyrchu’r boblogaeth, sy’n ein helpu i ddeall bywyd yn y DU. Mae’r llywodraeth, busnesau ac unigolion yn defnyddio ein hystadegau i wneud penderfyniadau ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd yr atebion a roddwch yn eich cynrychioli chi a’ch ardal, a dyna pam ei bod mor bwysig eich bod yn manteisio ar y cyfle hwn i leisio’ch barn.

Sut allwch chi gadarnhau bod arolwg gan y SYG yn ddilys?

Byddwch yn derbyn llythyr gennym sy’n eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolygon, a byddwn bob amser yn nodi mai’r SYG ydym ni pan fyddwn yn cysylltu â chi. Bydd ein cyfwelwyr yn cario cerdyn adnabod pan fyddant yn cyrraedd eich cartref. Os hoffech gadarnhau mai cyfwelydd go iawn ar ran y SYG ydynt, gallwch ofyn am eu rhif awdurdod a ffonio 0800 298 5313 i wirio.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y SYG neu am gymryd rhan yn un o’n harolygon, darllenwch ein tudalen “yr hyn sydd angen i chi ei wybod” ar wefan y SYG. Gallwch hefyd wylio ein fideos canllaw'r SYG ar YouTube.