1. Cyflwyniad

Mae'r Arolwg Iechyd a Ffordd o Fyw yn arolwg cenedlaethol sy'n gallu darparu tystiolaeth ddibynadwy am iechyd a llesiant y boblogaeth, yn ogystal â phynciau eraill sydd o ddiddordeb, fel y defnydd o wasanaethau gofal plant.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Caiff yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym yn yr astudiaeth hon ei ddefnyddio i greu darlun o'n cymdeithas. Bydd y canlyniadau'n helpu i gynllunio polisïau a gwasanaethau, gan sicrhau bod adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau elusennol yn seilio eu penderfyniadau ar y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon.

Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o iechyd pobl a'u safbwyntiau ar amrywiaeth o faterion.

Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw a bydd yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Yn ystod y cyfweliad, bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau am iechyd cyffredinol yr oedolion yn eich cartref. Efallai y bydd yn gofyn cwestiynau ychwanegol i aelod o'ch cartref am bynciau fel a oes gennych fynediad at gar, a ydych yn defnyddio gofal plant, a'ch safbwyntiau ar bynciau fel e-sigaréts.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a ble y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus.

Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Caiff yr Arolwg Iechyd a Ffordd o Fyw ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y llywodraeth.

Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig, sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf.

Mae'r cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr a gynhelir bob deng mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua 500,000 o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd. Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Yn ddiweddar, gwnaeth eich cartref gymryd rhan yn yr Arolwg o'r Llafurlu a chytuno i ni fod mewn cysylltiad ar gyfer gwaith ymchwil yn y dyfodol. Ar ôl i'ch cartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r sampl. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth hon o ran sicrhau bod pob grŵp yn cael ei gynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, ffoniwch ni ar +44 (0)800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

O ddydd Llun i ddydd Iau 9am i 9pm
Dydd Gwener 9am i 8pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm
Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys