Beth ydy'r astudiaeth?

Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal yr astudiaeth ar-lein hon, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith, ymddeoliad, diweithdra a gofalu am y teulu neu'r cartref.

Casglu data o gynifer o gartrefi â phosibl yw’r unig ffordd y gallwn gael llun cyflawn o statws cyflogaeth y genedl ac amgylchiadau eraill.

Wrth gymryd rhan, rydych yn sicrhau y cynhwysir eich profiadau a’ch amgylchiadau. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn helpu i ddangos y darlun mawr o fywyd yn y DU heddiw. Mae hefyd yn helpu i ffurfio polisïau, sy’n effeithio ar bawb. Mae angen eich help i sicrhau bod yr astudiaeth hon yn un llwyddiannus.

Pwy ydy SYG?

SYG yw cynhyrchydd annibynnol mwyaf y DU o ystadegau swyddogol, a’i cydnabyddir fel sefydliad ystadegau cenedlaethol y DU. Prif gyfrifoldebau SYG yw casglu, dadansoddi a chyhoeddi ystadegau am economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU.

Mae rhagor o wybodaeth amdanom ni ar ein gwefan

Pwy sy’n cynnal yr astudiaeth?

Mae SYG wedi comisiynu trydydd parti, Ipsos MORI, i fod yn gyfrifol am gasglu a phrosesu data ar gyfer yr astudiaeth ar-lein hon a fydd yn cwmpasu'r DU gyfan, ond SYG fydd yn gyfrifol am dderbyn a rheoli’r holl ymatebion a geir gan y rheini sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Pwy gynlluniodd yr astudiaeth?

Cynlluniwyd yr holiadur gan SYG, mewn cysylltiad â’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos MORI.

Pwy ydy Ipsos MORI?

Mae Ipsos MORI yn sefydliad astudiaethau annibynnol cofrestredig sy’n glynu’n gaeth wrth god ymddygiad moesegol y Gymdeithas Ymchwilio i Farchnadoedd.

Efallai eich bod wedi clywed am Ipsos UK a MORI fel sefydliadau ar wahân, ond ym mis Hydref 2005 roedd y ddau sefydliad wedi cyfuno i ffurfio’r sefydliad ymchwil mwyaf ond un yn y DU.

Dyfarnodd yr MQA (Marketing Quality Assurance), y corff asesu achrededig, y Safon ISO 20252, sef y Safon Ryngwladol newydd ar gyfer proses a’r Safon ISO 27001, sef y Safon Ryngwladol ar gyfer Diogelwch Gwybodaeth, i Ipsos MORI. Dyma'r asiantaeth astudiaethau gyntaf yn y byd i ennill y ddwy safon.

I gael rhagor o wybodaeth am Ipsos MORI ewch i: Ipsos MORI.

Cymryd rhan yn yr astudiaeth

I gynrychioli ein cymdeithas gyfan, mae angen i ni siarad â phob math o bobl.

Yn lle gofyn i bawb gymryd rhan yn ein hastudiaethau, rydym yn gwahodd sampl o unigolion neu gartrefi i gynrychioli grwpiau gwahanol o bobl.

Pwy bynnag yr ydych chi, beth bynnag a wnewch, yr ydym am glywed gennych.

A ydy’n bosib i mi gymryd egwyl rhan o'r ffordd drwy'r holiadur?

Ydy, mae eich cynnydd yn cadw’n awtomatig wrth gwblhau’r astudiaeth. Gallwch gau’r porwr sy’n cynnwys yr astudiaeth pryd bynnag yr hoffech – cedwir eich cynnydd.

Pan fyddwch yn barod i barhau i lenwi’r astudiaeth, ewch yn ôl i dudalen mewngofnodi’r astudiaeth (www.ons.gov.uk/takepart). Mewngofnodwch gyda’r un cod mynediad a byddwch yn dychwelyd i’r man lle gadawoch. Os byddwch yn mewngofnodi gan ddefnyddio cod gwahanol, bydd angen i chi ddechrau eto.

Erbyn pryd mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?

Dylai eich cartref geisio cwblhau’r astudiaeth erbyn y dyddiad a nodir ar eich llythyr gwahoddiad.

A fydd yr astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am/gan blant?

Mae’r astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am bob aelod o’ch cartref. Cynhwyswch bawb sy’n byw yn eich cartref. Bydd llai o gwestiynau ar gyfer y rhai hynny sy’n 15 oed neu’n iau. Dylai oedolyn gwblhau’r cwestiynau ar ran unrhyw un sy’n 15 oed neu’n iau.

A oes yn rhaid i mi ateb bob cwestiwn?

Dylai cwblhau’r holl gwestiynau gymryd tua 15 munud. Mae pob cwestiwn am ffeithiau, nid barn. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch i sicrhau y cynhwysir eich profiadau a’ch amgylchiadau.

Mae ateb y cwestiynau’n wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno ateb rhai neu unrhyw rai o’r cwestiynau, nid oes yn rhaid i chi.

Fi ydy'r unig unigolyn sy’n byw yn fy nghartref i, a ddylwn i gwblhau'r astudiaeth?

Dylech. Dewisir cartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac ni all cartref arall yn agos atoch gymryd rhan yn eich lle. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan os teimlwch eich bod yn gallu.

Mae mwy nag un unigolyn yn byw yn fy nghartref i ond un cod mynediad yn unig sydd gennym

Dylai pawb yn eich cartref gymryd rhan yn yr astudiaeth gan ddefnyddio’r un cod mynediad. Gofynnir rhai cwestiynau i’r unigolyn cyntaf a nodwyd am y bobl sy’n byw yn y cartref. Bydd adran wedyn o gwestiynau ar eu cyfer nhw’n unig. Yn dilyn hyn, gall aelodau eraill y cartref sy’n 16 oed neu’n hŷn gael mynediad gan ddefnyddio’r un ddolen gwe a chod mynediad. Byddant wedyn yn dewis eu henw i gwblhau eu hadran.

A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg?

Ydych, mae’r astudiaeth ar gael yn y Gymraeg. Byddwch yn gallu dewis ei chwblhau yn y Gymraeg ar unrhyw bwynt yn yr astudiaeth.

A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth mewn iaith arall?

Ar hyn o bryd, mae’r astudiaeth ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg yn unig.

A ydw i’n gallu cwblhau’r astudiaeth ar ran rhywun yn fy nghartref?

Lle y bo’n bosibl, dylai pob aelod o’r cartref gwblhau eu hadran eu hun o’r astudiaeth. Y rheswm am hyn yw bod rhai cwestiynau manwl am eu hamgylchiadau.

Os ydynt i ffwrdd neu y byddent yn hoffi i chi gwblhau eu hadran ar eu rhan, gallwch wneud hynny. Felly mae’n bwysig fod pawb yn eich aelwyd yn gweld y llythyrau a’r taflenni fyddwn ni'n eu hanfon atoch.

Cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig. Os yw unrhyw aelod o’r cartref yn 15 mlwydd oed neu’n iau, dylai oedolyn gwblhau’r astudiaeth ar eu rhan.

A ydw i’n gallu helpu unrhyw un i lenwi eu hastudiaeth?

Mae’n iawn helpu rhywun yn eich cartref i ateb eu cwestiynau, ond cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig.

Sut allai ddweud a ydy fy atebion wedi’u cyflwyno yn llwyddiannus?

Mynnwch fynediad i’r astudiaeth eto gan ddefnyddio’r cod mynediad cartref y cyflwynoch eich atebion ag ef. Os yw pawb yn eich cartref wedi cyflwyno’u cwestiynau’n llwyddiannus byddwch yn gweld tudalen sy’n dweud bod yr astudiaeth yn gyflawn.

Os yw’r astudiaeth yn anghyflawn byddwch yn gweld tudalen gydag enwau pawb yn eich cartref. Byddwch yn gallu gweld pwy sydd wedi cwblhau’u cwestiynau, a phwy sydd angen gorffen. Mae botwm cyflwyno ar y diwedd y mae angen ei ddewis unwaith y cwblheir y cwestiynau i gyd.

Fel arall, gallwch ffonio 0800 085 7376 yn rhad ac am ddim i wirio statws eich astudiaeth.