O ble gawsoch chi fy manylion cyswllt?

Cafwyd eich cyfeiriad o ffynhonnell fasnachol sydd ar gael a elwir AddressBase, y Mae Arolwg Ordnans yn gyfrifol amdano. Mae’n cynnwys manylion ar gyfer 40 miliwn o gyfeiriadau preswyl a busnes yn y DU. Dewiswyd eich cyfeiriad ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Gellir cael manylion llawn am ffynhonnell eich manylion cyswllt drwy ffonio 0800 085 7376 yn rhad ac am ddim, neu drwy e-bostio surveyfeedback@ons.gov.uk.

Pa wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r astudiaeth hon yn gofyn cwestiynau am bob aelod o’ch cartref, ac yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwaith, ymddeoliad, addysg uwch, diweithdra a gofalu am eich teulu neu eich cartref.

A fydd hi’n bosib fy adnabod i o'r canlyniadau?

Na fydd, trinnir ywybodaeth rydych yn ei chyflwyno fel cyfrinachol yn ôl cyfarwyddyd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ni fydd unrhyw ystadegau neu ganlyniadau a gynhyrchir yn eich adnabod chi neu unrhyw un yn eich cartref.

A fydd unrhyw un arall yn gweld fy atebion?

Mae’r cod mynediad cartref yn unigryw i’ch cartref, a’r bobl hynny’n unig gyda’r cod hwnnw fydd yn gallu gweld unrhyw atebion. Cadwch eich cod mynediad yn ddiogel, a’i rannu’n unig gyda phobl yn eich cartref. Unwaith i chi gyflwyno astudiaeth cartref wedi’i chwblhau, ni ellir cael mynediad i’r atebion wedi hyn gan ddefnyddio eich cod mynediad.

Sut y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi inni?

Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd SYG yn defnyddio eich atebion i'r astudiaeth, a byddant yn cael eu cadw ar wahân i'r wybodaeth bersonol a ddefnyddiwyd i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil hon. Bydd SYG ac Ipsos MORI yn cadw eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon, ynghyd â’ch atebion unigol i’r cwestiynau, yn gwbl gyfrinachol. Bydd canlyniadau'r ymchwil hon yn ddienw, ac yn cael eu defnyddio fel gwybodaeth ystadegol yn unig, a gallwn eich sicrhau NA FYDD modd eich adnabod o unrhyw ganlyniadau a gaiff eu cyhoeddi.

Gallwn eich sicrhau NA FYDD unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn ystod yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn chwaith yn gwerthu neu’n trosglwyddo eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon, cysylltwch â thîm prosiectau ymchwil SYG. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0800 085 7376 am ddim neu drwy anfon e-bost i surveyfeedback@ons.gov.uk.

Am ba hyd y byddwch chi'n cadw’r wybodaeth rydw i'n ei rhoi?

Ni fydd y wybodaeth a ddarperir gennych gallu adnabod chi nac unrhyw un yn eich cartref a bydd yn cael ei ddileu ar ôl cwblhau'r prosiect yn 2024.

Pa ragofalon a gymerwyd o ran cyfrinachedd a diogelu data?

Mae Ipsos MORI, y cwmni sy’n gweinyddu'r astudiaeth, yn glynu’n gaeth wrth God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwilio i Farchnadoedd a’r Ddeddf Diogelu Data, ac yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol mewn modd cyfrifol a diogel.

Cymerwyd camau llym i sicrhau y cedwir data personol yn ddiogel ac na fydd neb ond y personél sy’n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect yn gallu gweld y data hynny. Cyn gynted ag y bydd yr astudiaeth wedi’i chwblhau, bydd Ipsos MORI yn distrywio'r holl ddata personol mewn modd diogel.

Sut rydyn ni’n sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel?

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Felly, rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw eich gwybodaeth yn cael ei cholli, ei dwyn na’i chamddefnyddio. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, rheoli mynediad at systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau rhyngrwyd diogel wedi’u hamgryptio wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Fel y nodwyd uchod, mae Ipsos MORI yn gweithredu’n unol â’n cyfarwyddiadau ni yn gyfan gwbl yng nghyswllt yr astudiaeth hon, maent yn cynnal archwiliadau mewnol ac allanol o ddiogelwch ei gwybodaeth yn rheolaidd, ac mae'r asiantaeth wedi'i hachredu yn unol â’r Safon Ryngwladol ar gyfer Diogelwch Gwybodaeth, sef ISO 27001.

Cwcis

Mae rhai astudiaethau ar-lein yn casglu gwybodaeth drwy ddefnyddio “cwcis”. Ffeiliau bach sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur yw’r rhain. Rydym yn defnyddio cyn lleied â phosib o'r ffeiliau hyn ac nid ydym ond yn eu defnyddio ar gyfer rheoli ansawdd, dilysu ac, yn anad dim, i’n rhwystro ni rhag anfon negeseuon atoch i'ch atgoffa o astudiaeth ar-lein rydych eisoes wedi’i chwblhau. Gallwch ddileu'r “cwcis” hyn neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy newid gosodiadau eich porwr ar eich cyfrifiadur.

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth yn awtomatig am eich system weithredu, eich gosodiadau arddangos a'r math o borwr sydd gennych i sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n addas ar gyfer y feddalwedd y mae eich cyfrifiadur yn ei defnyddio. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth arall o'ch cyfrifiadur.