1. Sut i gymryd rhan

Dechrau nawr

I gychwyn yr astudiaeth, cliciwch “Cychwyn nawr” yna nodwch eich cod mynediad i'ch cartref.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Gallwch gwblhau'r astudiaeth hon ar fwrdd gwaith, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar. Os oes angen, gallwch roi gorau iddi a dod yn ôl i'r astudiaeth wedyn.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Gair am yr astudiaeth

Am beth mae'r astudiaeth hon?

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal yr astudiaeth ar-lein hon, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith, ymddeoliad, diweithdra a gofalu am y teulu neu'r cartref.

Pam y ddylwn gymryd rhan?

Dyma'ch cyfle unigryw i ddweud wrthym am eich profiadau. Wrth gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau ynghylch materion sy'n effeithio ar y gymuned gyfan, gan gynnwys gwaith, diweithdra, hyfforddiant, ymddeol a gofalu am y teulu neu'r cartref.

Mae adrannau'r Llywodraeth, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio casgliadau’r astudiaeth hon i wneud cynlluniau ac i fynd i’r afael ag anghenion newidiol y wlad. Mae'r rhain yn amrywio o bolisïau cenedlaethol, fel y rhai hynny sydd wedi'u hanelu at leihau diweithdra, at gyfleusterau a gwasanaethau lleol i chi.

Er mwyn helpu i lywio penderfyniadau, mae'n rhaid i ni greu darlun cywir o'n poblogaeth amrywiol a newidiol. Mae gofyn cwestiynau i chi yn ein galluogi i gasglu'r amrywiaeth o wybodaeth i gynhyrchu'r ystadegau sydd eu hangen i helpu i lunio'r dyfodol.

Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael gan unrhyw ffynonellau eraill. Peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud.

Beth nesaf?

Dylech fod wedi derbyn llythyr yn gwahodd eich cartref i gymryd rhan ac yn cyflwyno'r astudiaeth.

Bydd eich llythyr yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau a'r manylion mewngofnodi y bydd eu hangen arnoch - mae'r astudiaeth hon ar gael i chi ei llenwi unrhyw bryd tan y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Rydym yn cynllunio ein hastudiaethau gyda chi mewn golwg ac yn eu cadw mor fyr â phosibl. Rydym ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall ein cymdeithas yn well. Mae eich ymateb yn bwysig iawn i ni.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r astudiaeth, byddwn yn cyfuno'r atebion rydych chi'n eu rhoi i ni gyda phawb arall. Byddwn yna’n defnyddio'r data hyn i gynhyrchu ystadegau.

Pwy ydy'r SYG?

Cynhelir yr astudiaeth hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd mwyaf y wlad o ran ystadegau.

Ni: - yn annibynnol, yn ddi-duedd ac yn deg
Rydym ar wahân i sefydliadau eraill ac nid ydym yn caniatáu i unrhyw beth ddylanwadu ar yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.

  • yw’r unig sefydliad sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol fel rhan o’n prif rôl
    Nid oes gennym unrhyw ddiddordeb ychwanegol yn y wybodaeth rydym yn ei chasglu.

  • â diddordeb yn y gymdeithas yn ei chyfanrwydd yn unig, ac nid chi fel unigolyn
    Mae ystadegau'n cynrychioli grwpiau o bobl. Rydym yn dileu eich manylion personol gan nad oes gennym ddiddordeb eich defnyddio fel enghraifft penodol.

Nid ydym: - yn sefydliad ymchwil masnachol neu i’r farchnad
Nid ydym yn gweithio i wneud elw ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi.

  • yn gysylltiedig ag unrhyw bleidiau gwleidyddol
    Rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, serch pwy yw'r prif weinidog neu blaid wleidyddol mewn llywodraeth.

  • yn gwerthu eich data o dan unrhyw amgylchiadau
    Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad yn ein hastudiaethau ac nid ydym yn elwa o'ch data. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw “bost sothach” o ganlyniad i gymryd rhan.

  • yn eich monitro, mae’r data rydych yn ei roi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ystadegau’n unig
    Ni fyddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i gysylltu â chi ynghylch materion eraill fel eich treth, incwm neu fudd-daliadau, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall iddynt wneud hynny chwaith.

Darllenwch fwy am yr hyn a wnawn yn ONS.

Pam y gofynnwyd i’m cartref gymryd rhan?

I greu darlun o'n cymdeithas gyfan, mae angen i ni siarad â phob math o bobl.

Rydym yn cynnal y cyfrifiad pob 10 mlynedd i gasglu gwybodaeth am y boblogaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr. Rhwng pob cyfrifiad, rydym yn dibynnu ar astudiaethau parhaus, fel yr un hwn, i ddarparu gwybodaeth gyfredol ynghylch newidiadau i gymdeithas.

Nid yw'n bosibl gofyn i bawb gymryd rhan yn ein hastudiaethau parhaus - yn hytrach, rydym yn gwahodd sampl o unigolion neu gartrefi, sy'n sicrhau ein bod yn cynrychioli pawb.

Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag ydych chi'n ei wneud, rydym eisiau clywed gennych chi.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut i gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Sut rwyf/rydym yn cymryd rhan yn yr astudiaeth?

Os ydych wedi derbyn llythyr sy’n eich gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ewch i gyfeiriad y wefan yn y llythyr (www.ons.gov.uk/mystudy). Pan ofynnir i chi, nodwch god mynediad y cartref sy’n ymddangos ar eich llythyr.

Noder: os nad yw eich llythyr yn cynnwys dolen gwe neu god mynediad cartref, byddwch yn eu derbyn yn y post cyn bo hir.

A ydy’n bosib i mi gymryd egwyl rhan o'r ffordd drwy'r holiadur?

Ydy, mae eich cynnydd yn cadw’n awtomatig wrth gwblhau’r astudiaeth. Gallwch gau’r porwr sy’n cynnwys yr astudiaeth pryd bynnag yr hoffech – cedwir eich cynnydd.

Pan fyddwch yn barod i barhau i lenwi’r astudiaeth, ewch yn ôl i dudalen mewngofnodi’r astudiaeth (www.ons.gov.uk/mystudy). Mewngofnodwch gyda’r un cod mynediad a byddwch yn dychwelyd i’r man lle gadawoch.

Erbyn pryd mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?

Dylai eich cartref geisio cwblhau’r astudiaeth erbyn y dyddiad a nodir ar eich llythyr gwahoddiad.

Beth a ofynnir i mi?

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  • gwaith
  • ymddeoliad
  • diweithdra
  • hyfforddiant
  • gofalu am y teulu neu'r cartref

Fodd bynnag, efallai y byddwn ond yn gofyn i chi am rai o'r rhain.

Mae'r cwestiynau yn yr astudiaeth hon yn seiliedig ar ffeithiau, nid barn. Nid oes unrhyw gwestiynau anodd ac rydym wedi sicrhau nad oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan.

Dylai cwblhau'r holl gwestiynau gymryd tua 15 munud. Mae'r cwestiynau'n seiliedig ar ffeithiau, nid barn.

Nid oes atebion cywir neu anghywir - mae eich ymatebion gonest yn hanfodol er mwyn i ni gynhyrchu ystadegau dibynadwy ynghylch ein cymdeithas gyfan.

Rydym yn parchu eich hawl i fywyd preifat - ni fydd y wybodaeth rydych yn ei darparu yn yr astudiaeth hon yn cael ei defnyddio i'ch uniaethu mewn unrhyw ffordd. Os ydych chi'n anghyfforddus gydag unrhyw un o'r cwestiynau a ofynnir i chi, gallwch bob amser eu hepgor.

A fydd yr astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am/gan blant?

Mae’r astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am bob aelod o’ch cartref, gan gynnwys plant. Bydd llai o gwestiynau ar gyfer y rhai hynny sy’n 15 oed neu’n iau. Dylai oedolyn gwblhau’r cwestiynau ar ran unrhyw un sy’n 15 oed neu’n iau.

A oes rhaid i mi ateb pob cwestiwn?

Mae ateb y cwestiynau’n wirfoddol. Os na fyddwch yn dymuno ateb rhai neu unrhyw rai o’r cwestiynau, nid oes rhaid i chi. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch i sicrhau y cynhwysir eich profiadau a’ch amgylchiadau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pwy sy’n cynnal yr astudiaeth?

Mae'r SYG wedi comisiynu trydydd parti, Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), i gyflawni'r agweddau o gasglu data ynghylch yr astudiaeth ar-lein hon ledled y DU, fodd bynnag, bydd yr ONS yn derbyn yr holl ddata a gesglir ac yn parhau i reoli'r holl ymatebion a roddir gan holl gyfranogwyr yr astudiaeth.

Pwy gynlluniodd yr astudiaeth?

Cynlluniwyd yr holiadur gan y SYG.

Pwy ydy NISRA?

Mae NISRA yn asiantaeth o'r Adran Gyllid yng Ngogledd Iwerddon. NISRA yw prif ffynhonnell yr ystadegau swyddogol ac ymchwil gymdeithasol ynghylch Gogledd Iwerddon. Mae'r ystadegau a'r ymchwil hyn yn sail i bolisi cyhoeddus a dadl gysylltiedig yn y gymdeithas ehangach.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch NISRA ar gael ar wefan NISRA: https://www.nisra.gov.uk/

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cwestiynau ynghylch cymryd rhan

Ymhle mae cael gafael ar y cod sydd ei angen arnaf i gael mynediad at yr astudiaeth ar-lein?

Mae’r cod mynediad ar gyfer cwblhau’r astudiaeth ar-lein wedi’i argraffu ar y llythyr gwahoddiad y dylech fod wedi’i dderbyn. Os nad ydych wedi’i dderbyn eto, dylech ei dderbyn yn y post cyn bo hir. Mae’n god 12-digid y dylech ei nodi ar y ddolen gwe a ddarperir (www.ons.gov.uk/mystudy) pan ofynnir i chi.

A ydy’n bosib i mi gymryd egwyl rhan o'r ffordd drwy'r holiadur?

Ydy, mae eich cynnydd yn cadw’n awtomatig wrth gwblhau’r astudiaeth. Gallwch gau’r porwr sy’n cynnwys yr astudiaeth pryd bynnag yr hoffech – cedwir eich cynnydd.

Pan fyddwch yn barod i barhau i lenwi’r astudiaeth, ewch yn ôl i dudalen mewngofnodi’r astudiaeth (www.ons.gov.uk/mystudy). Mewngofnodwch gyda’r un cod mynediad a byddwch yn dychwelyd i’r man lle gadawoch.

Erbyn pryd mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?

Dylai eich cartref geisio cwblhau’r astudiaeth erbyn y dyddiad a nodir ar eich llythyr gwahoddiad.

Rwyf wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan ond heb dderbyn cyfarwyddiadau ynghylch sut mae gwneud hynny

Byddwch yn derbyn llythyr cyn bo hir a fydd yn cynnwys dolen gwe a chod mynediad cartref, sy’n unigryw i’ch cartref. Unwaith y bydd y rhain gennych, byddwch yn gallu mynd ar–lein ac ateb y cwestiynau.

Fi ydy'r unig unigolyn sy’n byw yn fy nghartref, a ddylwn i gwblhau'r astudiaeth?

Dylech. Dewisir cartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac ni all cartref arall yn agos atoch gymryd rhan yn eich lle. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan os teimlwch eich bod yn gallu.

Mae mwy nag un unigolyn yn byw yn fy nghartref ond un cod mynediad yn unig sydd gennym

Dylai pawb yn eich cartref gymryd rhan yn yr astudiaeth gan ddefnyddio’r un cod mynediad. Gofynnir rhai cwestiynau i’r unigolyn cyntaf sy’n mewngofnodi am y bobl sy’n byw yn y cartref. Bydd adran wedyn o gwestiynau ar eu cyfer nhw’n unig. Yn dilyn hyn, gall aelodau eraill y cartref sy’n 16 oed neu’n hŷn gael mynediad gan ddefnyddio’r un ddolen gwe a chod mynediad. Byddant wedyn yn dewis eu henw i gwblhau eu hadran.

Nid wyf yn gallu mynd ar y rhyngrwyd ond byddwn yn hoffi cymryd rhan

Os ydych chi’n gallu mynd ar y rhyngrwyd drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu drwy ryw fodd arall (er enghraifft, eich llyfrgell leol neu gaffi rhyngrwyd) byddwch yn gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth. Os nad ydych yn gallu mynd ar y rhyngrwyd, cysylltwch â ni drwy ffonio 0800 085 7376 yn rhad acam ddim i roi gwybod i ni.

Pam nad wyf wedi derbyn gwahoddiad a sut mae derbyn un?

Dewisir cartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac ni all eraill gymryd eu lle. I sicrhau bod yr astudiaeth yn ddilys, y rhai a ddewisir ar hap yn unig all gymryd rhan.

Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Rydym yn gobeithio ein bod wedi egluro pa mor bwysig yw eich ymateb i ni, a gwerth eich gwybodaeth i gynhyrchu ystadegau dibynadwy ar gyfer gwneud penderfyniadau. Os nad ydych wedi darllen y wybodaeth hon, neu fod angen i chi eich atgoffa eich hun am y wybodaeth, gweler ein hadran ar Pam y ddylwn gymryd rhan?

Dyma’ch cyfle i chi leisio'ch barn. Os nad ydych dal yn siŵr, nid oes rhaid i chi gymryd rhan os nad ydych eisiau. Er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Mewn llawer o wledydd eraill mae'n orfodol i unigolion a ddewisiwyd gymryd rhan. Rydym yn rhoi'r dewis i chi wneud gwahaniaeth.

A oes yna ryw ffordd arall i mi gymryd rhan, ar wahân i ar-lein?

Ar hyn o bryd, yr unig ffordd i gymryd rhan yw ar-lein. Os nad ydych wedi cwblhau’r astudiaeth erbyn y dyddiad cau sydd wedi’i nodi ar eich llythyr, mae’n bosib y bydd un o’n cyfwelwyr yn cysylltu â chi i gynnal yr astudiaeth yn bersonol.

A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth yn y Gymraeg?

Ydych, mae’r astudiaeth ar gael yn y Gymraeg. Byddwch yn gallu dewis ei chwblhau yn y Gymraeg ar unrhyw bwynt yn yr astudiaeth.

A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth mewn iaith arall?

Ar hyn o bryd, mae’r astudiaeth ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg yn unig.

Rwyf wedi cwblhau'r astudiaeth ar-lein ond rwyf am newid rhai o’r atebion rwyf wedi’u rhoi, beth ddylwn i wneud?

Os ydych wedi cyflwyno eich ymateb ond hoffech newid eich atebion, ffoniwch 0800 085 7376 yn rhad ac am ddim neu e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk i roi gwybod ni.

A ydw i’n gallu cwblhau’r astudiaeth ar ran rhywun yn fy nghartref?

Lle y bo’n bosibl, dylai pob aelod o’r cartref gwblhau eu hadran eu hun o’r astudiaeth. Y rheswm am hyn yw bod rhai cwestiynau manwl am eu hamgylchiadau.

Os ydynt i ffwrdd neu y byddent yn hoffi i chi gwblhau eu hadran ar eu rhan, gallwch wneud hynny. Felly, mae’n bwysig bod pawb yn eich cartref yn gweld y llythyrau a’r taflenni y byddwn yn eu hanfon atoch.

Cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig. Os yw unrhyw aelod o’r cartref yn 15 mlwydd oed neu’n iau, dylai oedolyn gwblhau’r astudiaeth ar eu rhan.

A ydw i’n gallu helpu unrhyw un i lenwi eu hastudiaeth?

Mae’n iawn helpu rhywun yn eich cartref i ateb eu cwestiynau, ond cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig.

Rwyf wedi colli fy manylion mewngofnodi sydd eu hangen i gwblhau'r astudiaeth ar-lein. A allaf gael y rhain eto?

Anfonir llythyron atgoffa yn y post at bawb sydd heb gwblhau'r astudiaeth eto. Bydd y llythyr yn cynnwys cod mynediad i'r cartref, y gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad i'r astudiaeth.

Sut alla i ddweud a ydy fy atebion wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus?

Mynnwch fynediad i’r astudiaeth eto gan ddefnyddio’r cod mynediad cartref y cyflwynoch eich atebion ag ef. Os yw pawb yn eich cartref wedi cyflwyno’u cwestiynau’n llwyddiannus byddwch yn gweld tudalen sy’n dweud bod yr astudiaeth yn gyflawn.

Os yw’r astudiaeth yn anghyflawn byddwch yn gweld tudalen gydag enwau pawb yn eich cartref. Byddwch yn gallu gweld pwy sydd wedi cwblhau’u cwestiynau, a phwy sydd angen gorffen. Mae botwm cyflwyno ar y diwedd y mae angen ei ddewis unwaith y cwblheir y cwestiynau i gyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyfrinachedd a diogelu data

Sut rydym wedi’ch dewis

Cafwyd eich cyfeiriad o ffynhonnell fasnachol sydd ar gael a elwir AddressBase, sydd yn cael ei chynnal gan yr Arolwg Ordnans. Mae’n cynnwys manylion ar gyfer 40 miliwn o gyfeiriadau preswyl a busnes yn y DU. Dewiswyd eich cyfeiriad ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Gellir cael manylion llawn ynghylch ffynhonnell eich manylion cyswllt drwy ffonio 0800 085 7376 yn rhad ac am ddim, neu drwy e-bostio surveyfeedback@ons.gov.uk.

Os dewisir eich cartref, ni allwn ofyn i gartref arall gymryd eich lle gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor nodweddiadol yw ein hastudiaeth.

A fydd hi’n bosib fy adnabod i o'r canlyniadau?

Na fydd, trinnir y wybodaeth rydych yn ei chyflwyno fel un gyfrinachol yn ôl cyfarwyddyd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ni fydd unrhyw ystadegau neu ganlyniadau a gynhyrchir yn eich adnabod chi neu unrhyw un yn eich cartref.

A fydd unrhyw un arall yn gweld fy atebion?

Mae’r codau mynediad cartref yn unigryw i’ch cartref, a’r bobl hynny’n unig sydd â’r cod hwnnw fydd yn gallu gweld unrhyw atebion. Cadwch eich cod mynediad yn ddiogel, a’i rannu’n unig gyda phobl yn eich cartref. Unwaith i chi gyflwyno astudiaeth cartref wedi’i chwblhau, ni ellir cael mynediad i’r atebion wedi hyn gan ddefnyddio eich cod mynediad.

Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei darparu?

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol. Cyfunir y manylion y byddwch yn eu darparu yn eich cyfweliad â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan fel y gallwn gynhyrchu ystadegau. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn fyth yn eich nodi chi na'ch cartref.

Nid ydym yn gwerthu eich data ymlaen ac ni fyddwch yn derbyn post sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan yn un o'n hastudiaethau.

Os hoffech wybod mwy, gweler yr adran ynghylch ein hymrwymiad i ddiogelu eich data

Am ba hyd y byddwch yn cadw’r wybodaeth rydw i'n ei darparu?

Ni fydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn gallu adnabod chi nac unrhyw un yn eich cartref a bydd yn cael ei dileu ar ôl cwblhau'r prosiect yn 2024.

Pa ragofalon a gymerwyd o ran cyfrinachedd a diogelu data?

Mae NISRA yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Deddf Diogelu Data 2018 ac yn prosesu pob rhan o wybodaeth bersonol â pharch, gan ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Caiff unrhyw ddata personol a gesglir ei brosesu mewn systemau sydd wedi'u hachredu gan Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, a gynlluniwyd i gynnal diogelwch y data ac sy'n amodol i asesiad rheolaidd. Unwaith y bydd yr astudiaeth wedi'i chwblhau, bydd NISRA yn dinistrio'r holl ddata personol yn ddiogel.

Sut rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel?

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Felly, rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw eich gwybodaeth yn cael ei cholli, ei dwyn na’i chamddefnyddio. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, rheoli mynediad at systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau rhyngrwyd diogel wedi’u hamgryptio wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Cwcis

Mae rhai astudiaethau ar-lein yn casglu gwybodaeth drwy ddefnyddio “cwcis”. Ffeiliau bach sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur yw’r rhain. Rydym yn defnyddio cyn lleied â phosib o'r ffeiliau hyn ac rydym yn eu defnyddio’n unig ar gyfer rheoli ansawdd, dilysu ac, yn anad dim, i’n rhwystro rhag anfon negeseuon atoch i'ch atgoffa o astudiaeth ar-lein rydych eisoes wedi’i chwblhau. Gallwch ddileu'r “cwcis” hyn neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy newid gosodiadau eich porwr ar eich cyfrifiadur.

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth yn awtomatig am eich system weithredu, eich gosodiadau arddangos a'r math o borwr sydd gennych i sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n addas ar gyfer y feddalwedd y mae eich cyfrifiadur yn ei defnyddio. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth arall o'ch cyfrifiadur.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Beth yw cyfrifoldeb yr SYG i’r cyhoedd

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau y mae SYG yn eu gwneud i'r rhai hynny sy'n cymryd rhan yn ei harolygon, yn ein siarter ymatebwyr i arolygon y SYG ynghylch cartrefi ac unigolion.

Os oes gennych gwestiwn ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol neu'n dymuno dysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Weithiau byddwn yn casglu gwybodaeth ar ran sefydliad arall. I gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei drin dan yr amgylchiadau hyn, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg y dewiswyd chi amdano.

Yn y SYG, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i'r cyhoedd o ddifrif. Ein polisi ni yw y byddwn yn dweud wrth yr awdurdod priodol os credwn fod perygl difrifol i ddiogelwch rhywun.

Byddwn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella unrhyw un o'n hastudiaethau. Byddai hefyd yn wych clywed gennych os ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn.

Gallwch ein h-ebostio ar surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cymorth pellach

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg ar +44 (0) 0800 298 5313.

Dylai defnyddwyr Minicom ddeialu 18001 cyn y rhif hwn.

Yr amseroedd agor yw:
Ddydd Llun i ddydd Gwener 8yb i 7yp
Dydd Sadwrn 8yb i 1yp

Dolenni defnyddiol

SYG

NISRA

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Nôl i'r tabl cynnwys