Beth ydy'r astudiaeth hon?
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal yr astudiaeth ar-lein hon, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith, ymddeoliad, diweithdra a gofalu am y teulu neu'r cartref.
Casglu data o gynifer o gartrefi â phosibl yw’r unig ffordd y gallwn gael llun cyflawn o statws cyflogaeth y genedl ac amgylchiadau eraill.
Wrth gymryd rhan, rydych yn sicrhau y cynhwysir eich profiadau a’ch amgylchiadau. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn helpu i ddangos y darlun mawr o fywyd yn y DU heddiw. Mae hefyd yn helpu i ffurfio polisïau, sy’n effeithio ar bawb. Mae angen eich help i sicrhau bod yr astudiaeth hon yn un llwyddiannus.
Pwy ydy’r SYG?
Y SYG yw cynhyrchydd annibynnol mwyaf y DU o ystadegau swyddogol, ac fe’i cydnabyddir fel sefydliad ystadegau cenedlaethol y DU. Prif gyfrifoldebau’r SYG yw casglu, dadansoddi a chyhoeddi ystadegau am economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU.
Pwy sy’n cynnal yr astudiaeth?
Mae'r SYG wedi comisiynu trydydd parti, Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), i gyflawni'r agweddau o gasglu data ynghylch yr astudiaeth ar-lein hon ledled y DU, fodd bynnag, bydd yr ONS yn derbyn yr holl ddata a gesglir ac yn parhau i reoli'r holl ymatebion a roddir gan holl gyfranogwyr yr astudiaeth.
Pwy gynlluniodd yr astudiaeth?
Cynlluniwyd yr holiadur gan y SYG.
Pwy ydy NISRA?
Mae NISRA yn asiantaeth o'r Adran Gyllid yng Ngogledd Iwerddon. NISRA yw prif ffynhonnell yr ystadegau swyddogol ac ymchwil gymdeithasol ynghylch Gogledd Iwerddon. Mae'r ystadegau a'r ymchwil hyn yn sail i bolisi cyhoeddus a dadl gysylltiedig yn y gymdeithas ehangach.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch NISRA ar gael ar wefan NISRA: https://www.nisra.gov.uk/
Cymryd rhan yn yr astudiaeth
I gynrychioli ein cymdeithas gyfan, mae angen i ni siarad â phob math o bobl.
Yn lle gofyn i bawb gymryd rhan yn ein hastudiaethau, rydym yn gwahodd sampl o unigolion neu gartrefi i gynrychioli grwpiau gwahanol o bobl.Pwy bynnag yr ydych chi, beth bynnag a wnewch, yr ydym am glywed gennych.
A ydy’n bosib i mi gymryd egwyl rhan o'r ffordd drwy'r holiadur?
Ydy, mae eich cynnydd yn cadw’n awtomatig wrth gwblhau’r astudiaeth. Gallwch gau’r porwr sy’n cynnwys yr astudiaeth pryd bynnag yr hoffech – cedwir eich cynnydd.
Pan fyddwch yn barod i barhau i lenwi’r astudiaeth, ewch yn ôl i dudalen mewngofnodi’r astudiaeth (www.ons.gov.uk/mystudy). Mewngofnodwch gyda’r un cod mynediad a byddwch yn dychwelyd i’r man lle gadawoch. Os byddwch yn mewngofnodi gan ddefnyddio cod gwahanol, bydd angen i chi ddechrau eto.
Erbyn pryd mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?
Dylai eich cartref geisio cwblhau’r astudiaeth erbyn y dyddiad a nodir ar eich llythyr gwahoddiad.
A fydd yr astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth ynghylch neu gan blant?
Mae’r astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am bob aelod o’ch cartref. Cynhwyswch bawb sy’n byw yn eich cartref. Bydd llai o gwestiynau ar gyfer y rhai hynny sy’n 15 oed neu’n iau. Dylai oedolyn gwblhau’r cwestiynau ar ran unrhyw un sy’n 15 oed neu iau.
A oes rhaid i mi ateb pob cwestiwn?
Dylai cwblhau’r holl gwestiynau gymryd tua 15 munud. Mae pob cwestiwn am ffeithiau, nid barn. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch i sicrhau y cynhwysir eich profiadau a’ch amgylchiadau.Mae ateb y cwestiynau’n wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno ateb rhai neu unrhyw rai o’r cwestiynau, nid oes rhaid i chi.
Fi ydy'r unig unigolyn sy’n byw yn fy nghartref, a ddylwn i gwblhau'r astudiaeth?
Dylech. Dewisir cartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac ni all cartref arall yn agos atoch gymryd rhan yn eich lle. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan os teimlwch eich bod yn gallu.
Mae mwy nag un unigolyn yn byw yn fy nghartref ond un cod mynediad yn unig sydd gennym
Dylai pawb yn eich cartref gymryd rhan yn yr astudiaeth gan ddefnyddio’r un cod mynediad. Gofynnir rhai cwestiynau i’r unigolyn sy’n mewngofnodi’n gyntaf am y bobl sy’n byw yn y cartref. Bydd adran wedyn o gwestiynau ar eu cyfer nhw’n unig. Yn dilyn hyn, gall aelodau eraill y cartref sy’n 16 oed neu’n hŷn gael mynediad gan ddefnyddio’r un ddolen gwe a chod mynediad. Byddant wedyn yn dewis eu henw i gwblhau eu hadran.
A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth yn y Gymraeg?
Ydych, mae’r astudiaeth ar gael yn y Gymraeg. Byddwch yn gallu dewis ei chwblhau yn y Gymraeg ar unrhyw bwynt yn yr astudiaeth.
A ydw i’n gallu cwblhau'r astudiaeth mewn iaith arall?
Ar hyn o bryd, mae’r astudiaeth ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg yn unig.
A ydw i’n gallu cwblhau’r astudiaeth ar ran rhywun yn fy nghartref?
Lle y bo’n bosibl, dylai pob aelod o’r cartref gwblhau eu hadran eu hun o’r astudiaeth. Y rheswm am hyn yw bod rhai cwestiynau manwl am eu hamgylchiadau.
Os ydynt i ffwrdd neu y byddent yn hoffi i chi gwblhau eu hadran ar eu rhan, gallwch wneud hynny. Felly, mae’n bwysig bod pawb yn eich cartref yn gweld y llythyrau a’r taflenni byddwn yn eu hanfon atoch.
Cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig. Os yw unrhyw aelod o’r cartref yn 15 mlwydd oed neu’n iau, dylai oedolyn gwblhau’r astudiaeth ar eu rhan.
A ydw i’n gallu helpu unrhyw un i lenwi eu hastudiaeth?
Mae’n iawn helpu rhywun yn eich cartref i ateb eu cwestiynau, ond cofiwch y dylai’r atebion fod amdanyn nhw’n unig.
Sut alla i ddweud a ydy fy atebion wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus?
Mynnwch fynediad i’r astudiaeth eto gan ddefnyddio’r cod mynediad cartref y cyflwynoch eich atebion ag ef. Os yw pawb yn eich cartref wedi cyflwyno’u cwestiynau’n llwyddiannus byddwch yn gweld tudalen sy’n dweud bod yr astudiaeth yn gyflawn.
Os yw’r astudiaeth yn anghyflawn byddwch yn gweld tudalen gydag enwau pawb yn eich cartref. Byddwch yn gallu gweld pwy sydd wedi cwblhau’u cwestiynau, a phwy sydd angen gorffen. Mae botwm cyflwyno ar y diwedd y mae angen ei ddewis unwaith y cwblheir y cwestiynau i gyd.
Fel arall, gallwch ffonio 0800 085 7376 yn rhad ac am ddim i wirio statws eich astudiaeth.