Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal yr astudiaeth ar-lein hon, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwaith, ymddeoliad, addysg uwch, diweithdra a gofalu am y teulu neu'r cartref.

Mae'n bwysig i'r SYG bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu cwblhau'r astudiaeth hon, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hawdd â phosib i'w deall.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau'r canlynol bod:

  • y cynnwys wedi'i ysgrifennu a'i strwythuro gan ddefnyddio iaith hawdd ei deall

  • yr holiadur ar-lein wedi'i lunio mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl addasu cyferbynnedd lliw a chynyddu maint ffont

  • modd llenwi'r holiadur ar-lein ar gyfrifiaduron, llechi neu ffonau-clyfar

  • yr holiadur ar-lein yn cael ei ddarparu'n Gymraeg a Saesneg

  • yr holiadur ar-lein yn cydweddu â rhaglenni darllen sgrin

Mae ein gwefan a'n dogfennau wedi'u hasesu gan sefydliad annibynnol i sicrhau eu bod mor hawdd â phosib i'w defnyddio.

Mae tudalen we y BBC My Web My Way yn cynnwys cyngor defnyddiol sy'n esbonio sut gallwch chi newid gosodiadau eich porwr gwe er mwyn ei wneud yn haws ei ddefnyddio.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch hygyrchedd yr holiadur ar-lein anfonwch e-bost at surveyfeedback@ons.gov.uk neu ffoniwch SYG yn rhad ac am ddim ar 0800 085 7376.