1. Trosolwg o'r asesiad o fuddiannau

  • Mae'n bwysig deall a mesur buddiannau data'r cyfrifiad i ddefnyddwyr. Bydd asesiad yn cynnig dealltwriaeth o werth y data, o gymharu â chost darparu'r cyfrifiad.

  • Dim ond pan fydd defnyddwyr yn defnyddio'r canlyniadau i wella'r penderfyniadau a wneir ganddynt y caiff buddiannau'r cyfrifiad eu gwireddu.

  • Asesodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fuddiannau Cyfrifiad 2011, ac mae sefydliadau ystadegol gwladol eraill wedi ymgymryd ag ymarferion tebyg.

  • Yn yr achos busnes ar gyfer Cyfrifiad 2021, rhagfynegwyd y byddai'r buddiannau i ddefnyddwyr yn werth £5.5bn dros y cyfnod arfarnu 10 mlynedd.

  • Cafodd y cyfrifiadau hyn eu llywio gan waith ymgysylltu â chynrychiolwyr o adrannau'r llywodraeth ganolog, pum awdurdod lleol a busnesau perthnasol.

  • Bydd y prosiect asesu buddiannau yn casglu tystiolaeth gan ddefnyddwyr data Cyfrifiad 2021, gan gynnwys defnyddwyr llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a defnyddwyr yn y sector preifat, gan ailymweld â'r rheini y gwnaethom ymgysylltu â nhw i lunio'r rhagolwg o fuddiannau. 

  • Byddwn hefyd yn ceisio ehangu'r sylfaen rhanddeiliaid er mwyn cynnwys sectorau eraill a chael syniad o fuddiannau ychwanegol.

  • Er mwyn gallu cymharu, byddwn yn defnyddio'r un fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y rhagolygon, oni bai fod yr adolygiadau mewnol ac allanol o'n rhagdybiaethau a'n methodoleg fanwl yn nodi bod angen defnyddio dull gwahanol.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae angen i ni ddeall buddiannau

Gallwn ddisgrifio'r ffyrdd y caiff ystadegau eu defnyddio a'u buddiannau rhesymegol ac ansoddol, ond er mwyn i lywodraethau benderfynu ar flaenoriaethau o ran gwariant, mae angen i ni fynd gam ymhellach a mesur y buddiannau hyn. Y cyfrifiad yw'r ymarfer ystadegol mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei lywodraethu yn unol â deddfwriaeth a'i ddefnyddio i lywio penderfyniadau am sut y caiff biliynau o bunnoedd eu gwario ar wasanaethau cyhoeddus fel lleoedd mewn ysgolion, gwasanaethau brys a gwelyau mewn ysbytai. Mae felly'n bwysig darparu tystiolaeth gadarn er mwyn cyfiawnhau'r gost. Yn dilyn Cyfrifiad 2001, argymhellodd Pwyllgor Dethol y Trysorlys Tŷ'r Cyffredin y dylai'r cyfiawnhad hwn fod ar ffurf cost a budd, yn unol ag arferion gorau ar gyfer prosiectau mawr y llywodraeth. 

Mae deall buddiannau Cyfrifiad 2021 hefyd yn ddefnyddiol wrth ystyried argymhellion ar gyfer dyfodol y cyfrifiad ar ôl 2021 a thrawsnewid y ffordd rydym yn llunio ystadegau am y boblogaeth. Mae angen i ni gael dealltwriaeth lawn o'r ffordd y caiff data'r cyfrifiad eu defnyddio a'u gwerthfawrogi er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Asesiadau blaenorol o fuddiannau data'r cyfrifiad

Asesiad o fuddiannau Cyfrifiad 2011

I amcangyfrif y buddiannau, gwnaethom ymgysylltu â defnyddwyr i gasglu amcangyfrifon o werth uniongyrchol, parodrwydd i dalu ac amcangyfrifon o'r costau a arbedwyd. Gwnaethom hefyd ofyn i ddefnyddwyr ystyried i ba raddau y gellid priodoli'r gwerth a nodwyd yn yr ymarfer i ystadegau'r cyfrifiad. Yn seiliedig ar hyn, gwnaethom amcangyfrif y byddai buddiannau mesuradwy Cyfrifiad 2011 i awdurdodau lleol, adrannau'r llywodraeth ganolog a'r sector preifat werth £500 miliwn y flwyddyn.

Asesiadau rhyngwladol

Mae Ystadegau Seland Newydd (Stats NZ) a Chanolfan Ystadegau Awstralia (ABS) wedi cyhoeddi asesiadau o'r buddiannau a wireddwyd gan eu cyfrifiadau. Defnyddiodd y ddau sefydliad ddulliau eithaf tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd gennym yn 2011. Cafodd buddiannau eu hasesu gan dybio, os nad oedd data cyfrifiad newydd ar gael, y byddai'r data gorau nesaf a oedd ar gael ar y pryd yn cael eu defnyddio.

Nododd Stats NZ fudd cyffredinol yn 2013 o bum doler am bob doler a wariwyd, gan leihau i bedair doler yn dilyn ymarfer adnewyddu yn 2021. Ar gyfer ABS, y buddiannau a gyhoeddwyd yn 2019 oedd chwe doler am bob doler a gostiwyd. Roedd hyn yn cynnwys amcangyfrif o'r "gynffon hir" o fân fuddiannau mesuradwy, sef 25% o werth y prif fuddiannau a gyfrifwyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Rhagolwg o fuddiannau Cyfrifiad 2021

Buddiannau disgwyliedig

Ym mhapur gwyn Cyfrifiad 2021, gwnaethom nodi ein bod yn disgwyl gwireddu tua £5 o fudd yn yr economi ehangach am bob £1 a wariwyd ar Gyfrifiad 2021. Roedd disgwyl y byddai cyfanswm y buddiannau i ddefnyddwyr llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a defnyddwyr yn y sector preifat yn werth £5.5bn dros y cyfnod arfarnu 10 mlynedd (er mwyn gallu cymharu â ffigurau 2011 yn haws, byddai hyn oddeutu £550m y flwyddyn ar gyfartaledd, heb gyfrif am y dirywiad mewn gwerth dros amser). Roedd hyn yn seiliedig ar dystiolaeth o asesiad o fuddiannau Cyfrifiad 2011, a gafodd ei adolygu a'i adnewyddu rhwng 2017 a 2018.

Categorïau o fuddiannau a ragwelwyd a sut y cawsant eu hamcangyfrif

Cafodd y dulliau ar gyfer mesur y buddiannau a ragwelwyd eu cymeradwyo gan Drysorlys EM yn 2017.

Llywodraeth ganolog

Dyrannu cyllid

Defnyddiodd adrannau'r llywodraeth eu gwaith modelu i asesu'r achosion o gam-ddyrannu a fyddai'n deillio o ddefnyddio'r data gorau nesaf sydd ar gael i lywio'r gwaith o ddyrannu cyllid. Gwnaethom ddefnyddio hyn i gyfrifo'r golled net i les h.y. beth fyddai'r golled i les pe bai punt yn cael ei gwario lle nad oes ei hangen, o gymharu a ble mae ei hangen.

Ymchwil polisi

Gwnaethom ystyried bod gwerth ymchwil yn gyfystyr â'r swm a wariwyd arni o leiaf.

Buddsoddiadau seiliedig ar dystiolaeth

Gwnaethom asesu'r oedi disgwyliedig i brosiectau fel cynlluniau trafnidiaeth mawr pe na byddai data'r cyfrifiad ar gael ac amcangyfrifwyd y costau a fyddai'n gysylltiedig â'r oedi.

Llywodraeth leol

Llywio penderfyniadau o ran gwariant

Gofynnwyd i bum awdurdod lleol nodi meysydd gwariant lle roedd data'r cyfrifiad yn berthnasol. Yna gwnaethant drefnu'r meysydd gwariant hyn yn ôl faint roeddent yn dibynnu ar y data hyn. Gwnaethom gyfrifo amcangyfrif cychwynnol ar gyfer pob maes gwariant. Roedd hyn yn ystyried gwerth data mawr i wariant llywodraeth leol, cyfanswm y gwariant ar bob maes, a dibyniaeth ar ddata'r cyfrifiad.

Y sector preifat

Llywio penderfyniadau busnes, marchnata a hysbysebu

Gwnaethom ymgysylltu ag un cynrychiolydd o bob diwydiant (Yswiriant, Hamdden, Hysbysebu, Eiddo Tirol, Cyfleustodau, Ailwerthwyr geo-ddemograffig, Marchnata uniongyrchol, Bancio, Ymgynghoriaeth reoli, Manwerthu ac Ymchwil i'r farchnad) a ddewiswyd o sefydliad aelodaeth o ddefnyddwyr masnachol setiau data demograffig y llywodraeth. Nododd pob cynrychiolydd werth canrannol data mewn perthynas â phob penderfyniad neu weithgaredd perthnasol. Yna gwnaethant nodi'r gyfran o'r data y gellid ei phriodoli i systemau segmentu geo-ddemograffig/y cyfrifiad. Gwnaethom ddefnyddio hyn i gyfrifo amcangyfrif cychwynnol o'r budd i'r sefydliad cynrychioliadol a chwyddo'r ffigur hwn yn gymesur ar gyfer y sector perthnasol, gan ystyried pa mor unffurf yw'r sector.

Mewnbwn canolraddol i ailwerthwyr geo-ddemograffig 

Gwnaethom dybio, yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan y sector, y gellir priodoli 20% o unrhyw fudd a geir o ddefnyddio meddalwedd fasnachol i ddata'r cyfrifiad.

Cymeradwywyd yr amcangyfrifon hyn gan sefydliad aelodaeth o ddefnyddwyr masnachol.

Sut gall y buddiannau a ragwelwyd fod wedi newid

Mae pawb yn cael budd o amcangyfrifon y cyfrifiad (am y boblogaeth a chartrefi) oherwydd eu bod yn helpu cynghorau, elusennau a busnesau i gynllunio ac ariannu'r gwasanaethau lleol a chenedlaethol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt yn ein hardal leol (ble bynnag rydym yn byw) ledled Cymru a Lloegr. Defnyddiodd y rhagolygon a ddatblygwyd rhwng 2017 a 2018 dystiolaeth gan yr unigolion hyn sy'n gwneud penderfyniadau am sut roeddent yn defnyddio data'r cyfrifiad er mwyn mesur cyfanswm y buddiannau. Rydym yn ymwybodol bod yr amgylchedd ymchwil a data yn wahanol heddiw i 2018 ac y gall y ffyrdd y caiff data'r cyfrifiad eu defnyddio, a'u buddiannau, fod wedi newid hefyd. Mae'r cynnydd mewn lleoliaeth wrth wneud penderfyniadau a datblygiad yr economi werdd yn ddwy enghraifft yn unig lle gall gwerth data'r cyfrifiad fod wedi cynyddu. Wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, byddwn yn gwirio'r rhagdybiaethau sy'n sail i gyfrifiadau'r buddiannau a ragwelwyd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol o hyd. Byddwn yn ymgysylltu â'r defnyddwyr a gyfrannodd at yr ymarfer rhagweld buddiannau ac yn ehangu ein sylfaen rhanddeiliaid hefyd. Bydd hyn yn ein helpu ni i grynhoi'r defnyddiau a ragwelir, unrhyw newidiadau, a buddiannau na chawsant eu mesur yn flaenorol.

Rydym yn ymwybodol bod digwyddiadau byd-eang fel y coronafeirws, Brexit ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi cael effaith ar yr amgylchedd cyllidol. Gall toriadau i gyllidebau olygu bod llai o wariant ac na fydd rhai prosiectau a oedd yn disgwyl defnyddio data Cyfrifiad 2021 yn mynd rhagddynt o bosibl. Mae'n bosibl hefyd y byddant yn effeithio ar allu rhanddeiliaid i ymgysylltu â ni a darparu data. Er mwyn lleihau effaith hyn, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi rhwystrau ac yn cynllunio ein proses casglu data fel ei bod mor effeithlon â phosibl. Drwy ehangu ein sylfaen rhanddeiliaid, byddwn hefyd yn lleihau'r risg na chaiff digon o ddata eu casglu i lywio ein hasesiad o fuddiannau.

Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun gorau posibl i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Gan ein bod yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i ddarparu ystadegau amlach, mwy perthnasol a mwy amserol, mae'n bosibl y bydd y graddau y caiff gwerth ei briodoli i ddata'r cyfrifiad yn unig wedi newid ers llunio'r rhagolygon. Bydd ein sgyrsiau â defnyddwyr yn ein helpu ni i ddeall ac adlewyrchu hyn.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cwmpas prosiect asesu buddiannau Cyfrifiad 2021

O fewn y cwmpas

Bydd y prosiect asesu buddiannau yn casglu tystiolaeth (yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol) gan ddefnyddwyr data Cyfrifiad 2021, er mwyn deall gwerth a buddiannau'r cyfrifiad iddynt. Byddwn yn ailymweld â'r rhanddeiliaid llywodraeth ganolog, llywodraeth leol ac o'r sector preifat y gwnaethom ymgysylltu â nhw i lunio'r rhagolwg o fuddiannau. Byddwn hefyd yn ceisio ehangu'r sylfaen rhanddeiliaid er mwyn cynnwys defnyddwyr a sectorau eraill a chael syniad o fuddiannau ychwanegol.

Prif ffocws y prosiect asesu buddiannau fydd rhoi amcangyfrif o gyfanswm y buddiannau (mewn termau ariannol) a fydd yn deillio o ddata Cyfrifiad 2021. Bydd hyn yn dilysu'r buddiannau a ragwelwyd. Gwyddom o ymgyngoriadau'r cyfrifiad a'n gwaith ymgysylltu â defnyddwyr y gellir defnyddio data'r cyfrifiad mewn llawer o ffyrdd amrywiol. Bydd llawer o'r rhain yn cynhyrchu buddiannau pwysig nad yw'n hawdd priodoli gwerth ariannol iddynt. Lle bydd ein gwaith ymgysylltu yn ein galluogi i nodi'r buddiannau hyn, byddwn yn ceisio tynnu sylw atynt a'u disgrifio.

Y tu allan i'r cwmpas

Mae llawer o fuddiannau yn gysylltiedig â Chyfrifiad 2021 mewn perthynas â swyddogaethau y gellir eu hailddefnyddio, o brosesau casglu i ddulliau dosbarthu'r cyfrifiad. Bydd prosiect buddiannau'r cyfrifiad yn ystyried buddiannau allbynnau Cyfrifiad 2021 i ddefnyddwyr yn benodol. Rydym yn disgwyl ymgymryd ag ymarferion y tu allan i'r prosiect hwn er mwyn deall sut y cafodd defnyddwyr afael ar y data ac a wnaeth ddiwallu eu hanghenion.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Casglu data

Byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr er mwyn casglu tystiolaeth yn y ffyrdd canlynol: 

  • cyfarfodydd wyneb yn wyneb

  • grwpiau ffocws

  • arolygon

  • negeseuon e-bost/sianeli gohebiaeth

  • ymchwil ddesg

Byddwn yn penderfynu ar y sianeli a'r dulliau ymgysylltu terfynol fel rhan o'r broses o ddylunio dulliau casglu data i asesu buddiannau'r cyfrifiad. Caiff y dulliau eu teilwra yn unol â'r math o randdeiliad neu'r grŵp rhanddeiliaid.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Amserlen ar gyfer ymgysylltu a chasglu tystiolaeth

Byddwn yn dechrau codi ymwybyddiaeth o brosiect asesu buddiannau'r cyfrifiad yn gyffredinol yn 2022. Rydym yn disgwyl dechrau gwaith ymgysylltu cychwynnol â'n prif randdeiliaid (y rhai a ymgysylltodd ag ymarfer rhagweld buddiannau 2017-2018) yn ystod hydref/gaeaf 2022. Diben hyn fydd cyflwyno'r prosiect a rhannu'r dull rydym wedi'i gynllunio, er mwyn paratoi ar gyfer cam cyntaf y broses casglu tystiolaeth. Rydym yn bwriadu casglu tystiolaeth gan ddefnyddwyr mewn tri phrif gam:

Cam 1 (gwanwyn i haf 2023)

Proses gychwynnol i gasglu data gan ddefnyddwyr a ddarparodd dystiolaeth a lywiodd rhagolwg o fuddiannau 2017-2018. Rydym yn bwriadu llunio adroddiad ar ein canfyddiadau cychwynnol o'r cam hwn mewn cyhoeddiad cyn i ni ddechrau camau diweddarach y broses casglu tystiolaeth.

Cam 2 (hydref i aeaf 2023)

Casglu tystiolaeth gan sylfaen ehangach o ddefnyddwyr. Prif ffocws y cam hwn fydd crynhoi buddiannau mesuradwy o hyd.

Cam 3 (dechrau 2024)

Fel rhan o'r cam hwn, rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol â defnyddwyr a ddarparodd dystiolaeth yng ngham 2, lle bo angen archwilio'r buddiannau yn fanylach. Rydym hefyd yn disgwyl casglu tystiolaeth am fuddiannau data Cyfrifiad 2021 na allwn eu mesur.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad terfynol ar ein canfyddiadau ar ôl cwblhau Cam 3.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Dulliau o gyfrifo buddiannau

Rydym yn bwriadu defnyddio'r un dulliau â'r rhai a ddefnyddiwyd yn ymarfer rhagweld buddiannau 2017-2018, oni bai fod tystiolaeth sy'n awgrymu nad ydynt yn briodol mwyach. Bydd hyn yn ein helpu i gymharu'r buddiannau a wireddwyd â'r rhai a ragwelwyd. Cafodd y dulliau hyn eu cymeradwyo gan Drysorlys EM yn 2017. 

Byddwn yn dilysu'r holl ragdybiaethau gyda'r rhanddeiliaid ac yn eu haddasu yn ôl yr angen. Yn unol â'r ymarfer blaenorol, rydym yn bwriadu ymgysylltu â sefydliadau cynrychioliadol er mwyn datblygu trefn maint bras, y byddwn yn ei chwyddo'n gymesur wedyn.

Lle cafwyd gwerthoedd o adroddiadau a chyhoeddiadau allanol, byddwn yn chwilio am werthoedd wedi'u diweddaru o fersiynau diweddarach. Caiff ein rhagdybiaethau a'n dulliau manwl eu hadolygu'n fewnol ac yn allanol.

Prif ffocws y prosiect yw mesur buddiannau. Fodd bynnag, tra byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr, mae'n debygol y byddwn hefyd yn nodi buddiannau nad oes modd eu mesur. Rydym yn awyddus i nodi a chrynhoi'r buddiannau hyn.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Gweithio gyda gweinyddiaethau datganoledig

Bydd y prosiect yn ystyried buddiannau Cyfrifiad 2021 i Gymru a Lloegr. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â'r holl randdeiliaid perthnasol ac yn nodi'r holl ffyrdd y caiff data'r cyfrifiad eu defnyddio yng Nghymru. Caiff ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru eu cynnwys yn ein prosesau adolygu a llywodraethu hefyd.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'n cyrff cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn rhannu ein dull gweithredu a deall a chefnogi unrhyw waith tebyg a wneir ganddynt.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Datblygiadau yn y dyfodol

Rydym yn datblygu ein cynlluniau manwl ar gyfer casglu tystiolaeth a chyfrifo buddiannau. Byddwn yn cyhoeddi'r rhain unwaith y byddant wedi cael eu hadolygu'n fewnol ac yn allanol. Byddwn yn cyhoeddi pob adroddiad ar ein gwefan ac yn hyrwyddo'r adroddiadau hyn drwy ein grwpiau rhanddeiliaid, cylchlythyrau, ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel y bo'n briodol. Os hoffech gael diweddariadau a gwybodaeth yn y dyfodol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y prosiect, cysylltwch â census.benefits@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Ynglŷn â'r cyfrifiad
Erthygl | Rhyddhawyd 19 Gorffennaf 2022
Beth yw'r cyfrifiad a pham mae'n bwysig i ni

Cynlluniau datganiadau
Erthygl | Rhyddhawyd 19 Gorffennaf 2022
Ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau data a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021, gan gynnwys canlyniadau cyntaf, crynodebau pwnc, data amlamrywedd a data arbenigol.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Rhyddhawyd 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at yr erthygl hon

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd 28 Medi 2022, gwefan SYG, erthygl, Asesu buddiannau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Erthygl

Kerry Earnshaw
pop.info@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444661