Poblogaethau bach, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Ystadegau am grwpiau bach o'r boblogaeth, wedi'u diffinio gan grŵp ethnig, crefydd, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith, neu wlad enedigol, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census

Cyswllt:
Email Beth Waddington, Emily Green

Dyddiad y datganiad:
25 September 2023

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

  • Mae setiau data poblogaethau bach yn rhoi data'r cyfrifiad am bobl mewn grwpiau bach penodol o'r boblogaeth, wedi'u diffinio gan grŵp ethnig, crefydd, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith, neu wlad enedigol.

  • Am y tro cyntaf, rydym yn cyhoeddi data i ddangos nifer y bobl ledled Cymru a Lloegr a nododd Eritreaidd fel eu grŵp ethnig (26,100, 0.04% o'r holl breswylwyr arferol), y nifer a nododd Rwmanaidd fel eu grŵp ethnig (366,300, 0.6%), y nifer a nododd Valmiki fel eu grŵp ethnig neu grefydd (1,100, 0.002%) a'r nifer a nododd Alevi fel eu crefydd (25,700, 0.04%).

  • Roedd y grwpiau bach o'r boblogaeth oedd â'r cyfrannau uchaf o breswylwyr 65 oed a throsodd yn cynnwys y rheini a anwyd yn Iwerddon (46.5%), Jamaica (40.2%) a Chyprus (35.8%).

  • Yng Nghaerlŷr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr y gwelwyd y gyfran uchaf o grŵp bach o'r boblogaeth mewn unrhyw awdurdod lleol, a hynny am y rhai a anwyd yn India (16.2%).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Grwpiau bach o'r boblogaeth

Beth yw grwpiau bach o'r boblogaeth?

Caiff poblogaethau bach eu diffinio gan nodweddion fel:

  • grŵp ethnig

  • crefydd

  • hunaniaeth genedlaethol

  • prif iaith

  • gwlad enedigol

  • neu gyfuniad o grefydd a grŵp ethnig

Mae'r mwyafrif o grwpiau bach o'r boblogaeth yn seiliedig ar ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau'r cyfrifiad ar gyfer y nodweddion hyn, lle mae'r ymatebydd wedi dewis rhoi gwybodaeth fanylach am y ffordd y mae'n disgrifio ei hun. I gael rhagor o wybodaeth am strwythur cwestiynau, gweler Adran 9: Mesur y data.

Gan fod maint y boblogaeth yn gymharol fach mewn rhai grwpiau, mae cyfyngiadau cyfrinachedd yn cyfyngu ar ein gallu i ryddhau data am y grwpiau hyn yn allbynnau safonol y cyfrifiad. Yn hytrach, rydym yn creu setiau data arbennig ar gyfer poblogaethau bach y mae gan ddefnyddwyr anghenion penodol mewn perthynas â nhw. Gall hyn fod er mwyn deall yn well y boblogaeth fach honno neu i ddadansoddi anghydraddoldebau posibl rhwng y boblogaeth fach honno a'r boblogaeth ehangach. Darllenwch fwy yn ein herthygl blog am ddatganiad Cyfrifiad 2021 ar boblogaethau bach.

Dim ond ar gyfer ardaloedd daearyddol lle mae'r boblogaeth fach sy'n cael ei chyfrif yn uwch na throthwy poblogaeth gofynnol y caiff y data hyn eu cynhyrchu. Mae hyn yn golygu y caiff ardaloedd gwahanol eu hatal mewn setiau data gwahanol.

Ar gyfer pa grwpiau rydym wedi rhyddhau data?

Mae datganiad Cyfrifiad 2021 ar boblogaethau bach yn cynnwys data am 43 o grwpiau i gyd. Gellir dod o hyd i restr o'r grwpiau, a'r data rydym wedi'u cyhoeddi, ar dudalen Nomis am boblogaethau bach. Gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yw Nomis, ar gyfer ystadegau sy'n ymwneud â'r boblogaeth, cymdeithas a'r farchnad lafur.

Mae'r rhestr o grwpiau bach o'r boblogaeth yn cynnwys:

  • 18 o boblogaethau a gaiff eu diffinio gan grŵp ethnig yn unig

  • 17 o boblogaethau a gaiff eu diffinio gan wlad enedigol yn unig

  • un boblogaeth a gaiff ei diffinio gan hunaniaeth genedlaethol yn unig

  • un boblogaeth a gaiff ei diffinio gan iaith yn unig

  • un boblogaeth a gaiff ei diffinio gan grefydd yn unig

  • pum poblogaeth a gaiff eu diffinio gan grŵp ethnig a chrefydd

Mae setiau data gwahanol wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer poblogaethau bach gwahanol, yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr a chyfyngiadau cyfrinachedd.

Yn gyntaf, rydym yn dadansoddi cyfanswm o 42 o grwpiau yn ôl grŵp oedran pum mlynedd a rhyw. Ceir rhestr lawn o'r grwpiau ar dudalen Nomis am boblogaethau bach. Mae'n cynnwys yr un grwpiau a gynhyrchwyd gennym ar gyfer Cyfrifiad 2011, yn ogystal â saith grŵp newydd yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a nodwyd. 

  • grŵp ethnig Caribïaidd 

  • grŵp ethnig Eritreaidd 

  • grŵp ethnig Rwmanaidd 

  • grŵp ethnig Sbaenig neu Ladin Americanaidd 

  • crefydd Alevi 

  • Iaith Arwyddion Prydain 

  • grŵp ethnig neu grefydd Valmiki

yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a nodwyd.

Rydym hefyd wedi rhyddhau data ar nodweddion penodol, fel anabledd, gofal di-dâl, gweithgarwch economaidd, cyflogaeth, cymwysterau a dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, ar gyfer y grwpiau canlynol:

  • Iaith Arwyddion Prydain, fel prif iaith

  • Caribïaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig

  • Cernywaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio hunaniaeth genedlaethol

  • Jainaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig neu grefydd

  • Kashmiraidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig

  • Nepali a Nepalaidd (gan gynnwys Gyrca), a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig

  • Ravidassia, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig neu grefydd

  • Sicaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig neu grefydd

Yn olaf, ar gyfer y grwpiau bach o'r boblogaeth y gellir eu diffinio fel naill ai grŵp ethnig neu grefydd (gan gynnwys Jainaidd, Iddewig, Ravidassia a Sicaidd), rydym yn rhoi dadansoddiadau ar gyfer nifer y bobl a nododd y grŵp fel eu grŵp ethnig yn unig, fel eu crefydd yn unig, neu fel eu grŵp ethnig a'u crefydd.

Mae'r bwletin hwn yn rhoi ciplun o'r data sydd wedi cael eu rhyddhau, gan ddisgrifio maint y poblogaethau bach gwahanol, eu proffiliau oedran a rhyw, a ble roeddent yn tueddu i fyw yng Nghymru a Lloegr.

Efallai y byddai diddordeb gan ddarllenwyr mewn cymharu'r data â data Cyfrifiad 2011 ar boblogaethau bach, yn ogystal ag â chrynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â grŵp ethnig, iaith, hunaniaeth genedlaethol a chrefydd, a mudo rhyngwladol (ar gyfer gwlad enedigol).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Maint y boblogaeth

Data newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021

Am y tro cyntaf, rydym yn cyhoeddi data ar nifer y bobl ledled Cymru a Lloegr a nododd:

  • Eritreaidd fel grŵp ethnig, sef 26,100 (0.04% o'r holl breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr)

  • Rwmanaidd fel grŵp ethnig, sef 366,300 (0.6%)

  • Valmiki fel grŵp ethnig, crefydd, neu'r ddau, sef 1,100 (0.002%)

  • Alevi fel crefydd, sef 25,700 (0.04%)

Dangosyddion cyfun - crefydd a grŵp ethnig

I rai grwpiau, gwnaeth pobl ddisgrifio eu hunain drwy nodi grŵp ethnig, crefydd, neu'r ddau. Mae ein data ar boblogaethau bach yn dangos dadansoddiad o'r categorïau hyn ar gyfer pedair poblogaeth:

  • Jainaidd

  • Iddewig

  • Ravidassia

  • Sicaidd

Mae data cymaradwy o Gyfrifiad 2011 yn dangos cyfanswm nifer y bobl â'r hunaniaeth honno wedi cael eu cyhoeddi drwy dablau a gomisiynwyd, ar gyfer grŵp ethnig yn ôl crefydd (gan gynnwys hunaniaeth Iddewig), hunaniaeth Sicaidd, hunaniaeth Jainaidd a hunaniaeth Ravidassia.

Jainaidd

Nododd cyfanswm o 25,100 o bobl ledled Cymru a Lloegr (0.04%) eu bod yn Jainaidd, sef cynnydd bach, ond cyfran debyg, o gymharu â 2011, pan nododd 20,400, 0.04%, eu bod yn Jainaidd. Yn 2021:

  • nododd 24,500 (98.0% o'r holl bobl a nododd eu bod yn Jainaidd) Jainiaeth fel eu crefydd yn unig

  • nododd 400 (1.8%) Jainaidd fel eu grŵp ethnig a Jainiaeth fel eu crefydd

  • nododd 64 (0.3%) Jainaidd fel eu grŵp ethnig yn unig

Iddewig

Nododd cyfanswm o 287,400 o bobl ledled Cymru a Lloegr (0.5%) eu bod yn Iddewig, sef cynnydd mewn nifer, ond cyfran debyg, o gymharu â 2011, pan nododd 271,900, 0.5%, eu bod yn Iddewig. Yn 2021:

  • nododd 219,200 (76.3% o'r holl bobl a nododd eu bod yn Iddewig) Iddewiaeth fel eu crefydd yn unig

  • nododd 52,200 (18.2%) Iddewig fel eu grŵp ethnig ac Iddewiaeth fel eu crefydd

  • nododd 16,000 (5.6%) Iddewig fel eu grŵp ethnig yn unig

Ravidassia

Nododd cyfanswm o 9,700 o bobl (0.02%) Ravidassia, sef gostyngiad bach ers 2011, pan nododd 11,200, 0.02%, Ravidassia. Yn 2021:

  • nododd 8,200 (84.5% o'r holl bobl a nododd Ravidassia) Ravidassia fel eu crefydd yn unig

  • nododd 1,400 (14.5%) Ravidassia fel eu grŵp ethnig a'u crefydd

  • nododd 100 (1.0%) Ravidassia fel eu grŵp ethnig yn unig

Sicaidd

Yn olaf, nododd 525,900 o bobl ledled Cymru a Lloegr (0.9% o'r holl breswylwyr arferol) eu bod yn Sicaidd, sef cynnydd o 2011, pan nododd 430,000, 0.8%, eu bod yn Sicaidd. Yn 2021:

  • nododd 426,200 (81.1% o'r holl bobl a nododd eu bod yn Sicaidd) Siciaeth fel eu crefydd yn unig

  • nododd 97,900 (18.6%) Sicaidd fel eu grŵp ethnig a Siciaeth fel eu crefydd

  • nododd 1,700 (0.3%) Sicaidd fel eu grŵp ethnig yn unig

Hunaniaeth genedlaethol

Cernywaidd

Cofnododd cyfanswm o 108,900 o bobl (0.2%) hunaniaeth genedlaethol Gernywaidd, sef cynnydd o 83,500 (0.1%) yn 2011. Yn 2021:

  • nododd 89,100 (81.8% o'r holl bobl a nododd eu bod yn Gernywaidd) Gernywaidd yn unig

  • nododd 10,700 (9.8%) Gernywaidd a Phrydeinig yn unig

  • roedd gan 9,100 (8.4%) hunaniaeth Gernywaidd ac o leiaf un o blith hunaniaethau Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon (gyda hunaniaeth Brydeinig neu hebddi)

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Oedran a rhyw

Mae'r pyramid poblogaeth yn Ffigur 1 yn dangos dadansoddiad oedran a rhyw ar gyfer grwpiau bach gwahanol o'r boblogaeth.

Ffigur 1: Grwpiau bach o'r boblogaeth yn ôl oedran a rhyw

Embed code

Nodiadau:
  1. Ar gyfer y grŵp Iaith Arwyddion Prydain yn unig, y grŵp oedran ieuengaf yw “3 i 4 oed” yn hytrach na “4 oed neu'n iau”. Mae hyn oherwydd mai dim ond ar gyfer y boblogaeth sy'n 3 oed a throsodd y caiff data'r cyfrifiad ar iaith eu cofnodi.
Download the data

.xlsx

Gwlad enedigol

Mae'r data yn dangos bod y rhan fwyaf o boblogaethau bach a ddiffinnir gan wlad enedigol wedi'u rhannu'n gymharol gyfartal rhwng dynion a menywod, sy'n cyd-fynd â'r data ar yr holl breswylwyr arferol ledled Cymru a Lloegr (51.0% o fenywod, 49.0% o ddynion). O blith yr 17 o grwpiau gwlad enedigol yn y datganiad data hwn, y rheini a anwyd yn Ynysoedd Philippines oedd â'r gymhareb uchaf o fenywod (65.5%) i ddynion (34.5%), a'r rheini a anwyd yn Nhwrci oedd â'r gymhareb uchaf o ddynion (53.4%) i fenywod (46.6%).

Mae'r data ar oedran yn dangos mai'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr a anwyd yn Iwerddon oedd â'r ganran uchaf o ymatebwyr 65 oed a throsodd (46.5%) o unrhyw grŵp bach o'r boblogaeth. Mae'r ffigur hwn yn sylweddol uwch na chanran y bobl 65 oed a throsodd ledled Cymru a Lloegr gyfan (18.6%). O blith yr 17 o grwpiau gwlad enedigol yn y datganiad data hwn, y grwpiau uchaf nesaf oedd y rheini a anwyd yn Jamaica (40.2%) a Chyprus (35.8%). Rwmania (1.2%) a Bwlgaria (2.8%) oedd y grwpiau â'r ganran isaf o bobl 65 oed a throsodd.

Y boblogaeth a anwyd yn Ffrainc oedd â'r ganran uchaf o bobl rhwng 0 ac 19 oed (15.6%), sy'n is na chanran y bobl rhwng 0 ac 19 oed ledled Cymru a Lloegr gyfan (23.1%). Dilynwyd hyn gan y rheini a anwyd yn Rwmania (12.3%) a Bwlgaria (12.1%). Jamaica (1.3%) ad Sri Lanka (4.3%) oedd y grwpiau gwlad enedigol â'r ganran isaf o bobl rhwng 0 ac 19 oed.

Grŵp ethnig

O blith y 43 o grwpiau yn y datganiad data hwn, mae 18 ohonynt wedi'u diffinio gan grŵp ethnig yn unig. Mae'r rhain wedi'u rhestru'n llawn ar dudalen Nomis am boblogaethau bach. Eto, mae'r rhan fwyaf o boblogaethau bach a ddiffinnir gan grŵp ethnig wedi'u rhannu'n eithaf cyfartal rhwng dynion a menywod. Yn unol â'r data ar wlad enedigol, Ffilipinaidd oedd y grŵp ethnig â'r gymhareb uchaf o fenywod (61.8%) i ddynion (38.2%). Mewn cymhariaeth, Cwrdaidd oedd y grŵp ethnig â'r gymhareb uchaf o ddynion (57.5%) i fenywod (42.5%).

Ar gyfer oedran, Cypraidd Groegaidd oedd y grŵp ethnig poblogaeth fach oedd â'r ganran uchaf o breswylwyr 65 oed a throsodd (22.4%), ac yna Cypraidd Twrcaidd (17.1%) a Charibïaidd (9.0%). Rwmanaidd (1.0%) a Chwrdaidd (1.9%) oedd y grwpiau ethnig poblogaeth fach â'r canrannau isaf.

Somalïaidd (46.4%) oedd y grŵp ethnig â'r ganran uchaf o bobl rhwng 0 ac 19 oed, ac yna Affganaidd (43.3%) a Chwrdaidd (36.6%). Ar gyfer y grwpiau ethnig Groegaidd Cypraidd (14.2%) a Groegaidd (16.7%) y gwelwyd y canrannau isaf.

Dangosyddion cyfun - crefydd a grŵp ethnig

O blith y 43 o'r grwpiau bach o'r boblogaeth, cafodd pump ohonynt eu diffinio gan hunaniaethau grŵp ethnig a chrefydd. Mae dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw ar gael ar gyfer pedwar o'r rhain. Roedd canran uwch o fenywod (52.3%) ymhlith y rheini a nododd eu bod yn Jainaidd. Roedd canran y dynion yn uwch ymhlith y rheini a nododd Ravidassia (51.8%), Valmiki (51.6%) a Sicaidd (50.1%).

Roedd gan y grŵp Jainaidd ganran uwch o bobl 65 oed a throsodd hefyd (22.7%), a chanran is o bobl rhwng 0 ac 19 oed (16.6%) na'r grwpiau eraill. I'r gwrthwyneb, y grŵp Sicaidd oedd â'r ganran isaf o bobl 65 oed a throsodd (12.2%), a'r ganran uchaf o bobl rhwng 0 ac 19 oed (25.1%).

Hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd

Yn olaf, darperir data oedan a rhyw ar gyfer un grŵp hunaniaeth genedlaethol, un grŵp iaith ac un grŵp crefyddol yn y data am boblogaethau bach.

Ymhlith y rheini â hunaniaeth Gernywaidd, roedd 50.8% yn ddynion a 49.2% yn fenywod. Roedd cyfanswm o 25.6% yn 65 oed a throsodd, tra bo 18.4% rhwng 0 ac 19 oed.

Ymhlith y rheini a nododd Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif iaith, roedd 52.9% yn ddynion a 47.1% yn fenywod; roedd 15.3% yn 65 oed a throsodd, ac 19.8% rhwng 3 ac 19 oed.

Yn olaf, ymhlith y rheini a nododd grefydd Alevi, roedd 50.2% yn ddynion a 49.8% yn fenywod; roedd 4.2% o'r grŵp hwn yn 65 oed a throsodd, tra bo 28.4% rhwng 0 ac 19 oed.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Dosbarthiad daearyddol

Mae'r map rhyngweithiol yn Ffigur 2 yn dangos dosbarthiad daearyddol pob grŵp bach o'r boblogaeth. Dim ond ar gyfer ardaloedd â 200 neu fwy o breswylwyr arferol (ar gyfer awdurdodau lleol) neu 100 neu fwy o breswylwyr arferol (ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol) o'r grŵp bach o'r boblogaeth a ddewiswyd y caiff cyfrifon poblogaeth eu darparu.

Ffigur 2: Poblogaethau bach, 2021, awdurdodau lleol ac ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Download the data

.xlsx

Roedd llawer o boblogaethau bach yn tueddu i fod wedi'u clystyru yn Llundain. Er enghraifft, ardaloedd yn ne Llundain oedd rhai o'r awdurdodau lleol â'r ganran uchaf o unrhyw grŵp bach o'r boblogaeth, a hynny ar gyfer y grŵp ethnig Caribïaidd. Yn Lewisham y gwelwyd y cyfrannau uchaf, lle nododd 13.8% o'r boblogaeth breswyl arferol y grŵp ethnig Caribïaidd, ac yna Croydon (12.3%) a Lambeth (12.1%).

Roedd canrannau cymharol uchel o breswylwyr a anwyd yn India mewn ardaloedd i'r gorllewin o ganol Llundain hefyd, fel Hounslow (13.2%), Slough (10.8%) a Brent (10.4%). Fodd bynnag, yng Nghaerlŷr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr y gwelwyd y ganran uchaf (16.2%). Hon oedd y ganran uchaf o grŵp bach o'r boblogaeth mewn unrhyw awdurdod lleol.

Roedd enghreifftiau eraill o awdurdodau lleol yn Llundain â chyfrannau arbennig o uchel o grŵp bach o'r boblogaeth yn cynnwys preswylwyr Tower Hamlets a anwyd ym Mangladesh (14.0%) a phreswylwyr Harrow a anwyd yn Rwmania (8.1%).

Roedd sawl awdurdod lleol ledled Lloegr oedd â chanran gymharol uchel o bobl a anwyd ym Mhacistan hefyd. Er enghraifft, yn ardal Pendle yng Ngogledd-orllewin Lloegr y gwelwyd y gyfran uchaf (9.9%), ac yna Slough (9.1%) yn Ne-ddwyrain Lloegr, Bradford (8.3%) yn Swydd Efrog a Humber, ac yna Luton (7.6%) yn Nwyrain Lloegr.

Canfyddiad nodedig arall yw bod cyfran y bobl a nododd Nepalaidd (gan gynnwys Gyrca) fel grŵp ethnig yn sylweddol uwch yn Rushmoor (10.6%) yn Ne-ddwyrain Lloegr, nac mewn unrhyw awdurdod lleol arall. Yn Ashford a Reading, sydd hefyd yn Ne-ddwyrain Lloegr, y gwelwyd y cyfrannau uchaf nesaf, sef 3.1% yn y ddau. Mae'n debygol bod hyn oherwydd hanes Garsiwn Aldershot gyda phersonél Gyrca, a Dyfarniad yr Uchel Lys yn 2008, a roddodd yr hawl i Gyrcas a wnaeth ymddeol cyn 1997, a'u teuluoedd dibynnol, ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig.

Yn olaf, yng Nghymru, yn Wrecsam y gwelwyd y gyfran uchaf o bobl a nododd unrhyw un o'r 43 o'r grwpiau bach o'r boblogaeth yn y datganiad hwn, a hynny ar gyfer preswylwyr a anwyd yng Ngwlad Pwyl (2.6%). Roedd gan Ferthyr Tudful gyfran gymharol uchel o'r boblogaeth a anwyd yng Ngwlad Pwyl (2.0%) ac a nododd y grŵp ethnig Pwylaidd (1.9%). Yn ogystal, er eu bod yn gymharol isel o gymharu â Lloegr, gwelwyd cyfrannau uchel o bobl a nododd y grŵp ethnig Caribïaidd yng Nghaerdydd (1.6%) a Chasnewydd (1.3%) hefyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Byddwn yn cyhoeddi erthyglau dadansoddi Cyfrifiad 2021 am boblogaethau Somalïaidd, poblogaethau Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig a phoblogaethau Roma yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2023. Bydd erthyglau dadansoddi ar gyfer poblogaethau Cernywaidd, Iddewig a Sicaidd yn dilyn hefyd. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch grŵp ethnig, cenedligrwydd, iaith a chrefydd yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Grwpiau bach o'r boblogaeth, Cymru a Lloegr: data

Grwpiau bach o'r boblogaeth
Setiau data | Diweddarwyd 25 Medi 2023
Tudalen we ar wefan Nomis yn rhestru setiau data poblogaethau bach Cyfrifiad 2021. Mae'r data yn rhoi gwybodaeth am bobl mewn grwpiau bach penodol o'r boblogaeth, wedi'u diffinio gan grŵp ethnig, crefydd, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith, neu wlad enedigol. Oherwydd maint bach cyfanswm poblogaeth y grwpiau hyn, mae cyfyngiadau cyfrinachedd yn cyfyngu ar ein gallu i ryddhau ystadegau safonol manylach. Dim ond ar gyfer ardaloedd daearyddol lle mae'r boblogaeth fach sy'n cael ei chyfrif yn uwch na throthwy penodol y caiff y data hyn ar boblogaethau bach eu cynhyrchu. Mae hyn yn golygu nad yw pob set ddata yn cynnwys yr un ardaloedd daearyddol, oherwydd bydd y rheini sydd uwchlaw'r trothwy yn amrywio yn dibynnu ar y boblogaeth fach sy'n cael ei chyfrif.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Geirfa

Grŵp ethnig

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.

Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.

Prif iaith

Iaith gyntaf neu ddewis iaith person.

Hunaniaeth genedlaethol

Hunaniaeth genedlaethol unigolyn yw'r ffordd y mae'r unigolyn hwnnw yn asesu ei hunaniaeth ei hun; gallai olygu'r wlad neu'r gwledydd lle maent yn teimlo eu bod yn perthyn, neu sy'n teimlo fel cartref iddynt. Nid yw'n dibynnu ar grŵp ethnig na dinasyddiaeth.

Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un hunaniaeth genedlaethol.

Crefydd

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn, gan gynnwys 'Dim crefydd', ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Mae'r newidyn hwn yn dosbarthu pobl i'r wyth opsiwn ymateb â blwch ticio. Caiff ymatebion ysgrifenedig eu dosbarthu yn ôl eu hymlyniad crefyddol "gwreiddiol", gan gynnwys "Dim crefydd", pan fo'n gymwys.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Poblogaethau bach

Grwpiau a ddiffinnir gan eu nodweddion penodol yw poblogaethau bach, fel:

  • grŵp ethnig

  • gwlad enedigol

  • crefydd

  • hunaniaeth genedlaethol

  • prif iaith

Er mwyn diogelu manylion unigolion yn y meintiau poblogaeth bach hyn, nid ydym yn rhyddhau gwybodaeth fanwl am y grwpiau hyn yn yr allbynnau safonol.

Yn hytrach, rydym wedi rhyddhau setiau data arbennig ar gyfer poblogaethau bach penodol, ar bob lefel ddaearyddol lle mae nifer y bobl yn y boblogaeth honno yn uwch na throthwy penodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn adran 4 o'n herthygl Measures showing the quality of Census 2021 estimates.

Cwestiynau yn ffurflen y cyfrifiad

I weld y cwestiynau am grŵp ethnig, crefydd, gwlad enedigol, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yn holiadur y cartref neu'r holiadur i unigolion, ewch i'n tudalen am holiaduron papur Cyfrifiad 2021.

Mae'r mwyafrif o boblogaethau bach yn seiliedig ar ymatebion ysgrifenedig, lle disgrifiodd yr ymatebydd ei hun mewn ffordd nad oedd wedi'i chynrychioli yn y prif opsiynau ymateb â blwch ticio. Yng Nghyfrifiad 2021, roedd cyfleuster chwilio wrth deipio i gefnogi hyn i'r rhai a oedd yn ymateb ar lein, a oedd yn golygu bod rhestr o ymatebion posibl yn codi wrth i'r ymatebydd deipio ei ateb. Roedd hyn yn cyflymu'r broses ymateb ac yn helpu gyda sillafu, gan helpu i gysoni'r ffordd roedd hunaniaethau gwahanol yn cael eu cofnodi.

Ar gyfer poblogaethau bach a ddiffinnir gan grŵp ethnig yn benodol, mae'n werth nodi y gallai pobl gael eu neilltuo i'r un grŵp bach o'r boblogaeth hyd yn oed os gwnaethant ddewis opsiwn blwch ticio lefel uwch gwahanol. Er enghraifft, os dewisodd un person "Unrhyw gefndir Gwyn arall" ac yna ysgrifennu "Groegaidd", a dewisodd person arall "Unrhyw grŵp ethnig arall" ac yna ysgrifennu "Groegaidd", yna byddai'r ddau berson yn cael eu cynnwys yn yr un set ddata poblogaeth fach ar gyfer grŵp ethnig "Groegaidd".

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein hadroddiad Maximising the quality of Census 2021 population estimates.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Census 2021 - Shining a light on the population
Blog | Rhyddhawyd ar 25 Medi 2023
Erthygl blog yn disgrifio'r hyn rydym yn ei olygu wrth sôn am grwpiau bach o'r boblogaeth, a pha ddata rydym wedi'u cyhoeddi fel rhan o'r datganiad am grwpiau bach o'r boblogaeth.

Small Population - 2011 Census
Tudalen we | Rhyddhawyd ar 21 Chwefror 2015
Ystadegau am boblogaethau bach o Gyfrifiad 2011, gan roi nodweddion pobl mewn grwpiau bach penodol o'r boblogaeth, fel grwpiau ethnig unigol neu'r rhai â gwlad enedigol benodol - ar gyfer awdurdodau lleol sydd uwchlaw trothwy rheoli datgelu.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 25 Medi 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Poblogaethau bach, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Beth Waddington, Emily Green
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972