1. Prif bwyntiau
Rhyddhawyd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ar 28 Mehefin 2022. Roedd y bwletin yn archwilio newid dros amser, amrywiadau rhanbarthol a chyfansoddiad y boblogaeth yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.
Mae'r diweddariad hwn yn rhoi amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu, yn ôl rhyw ac un flwyddyn o oedran. Mae'r data ategol wedi'u cyflwyno ar gyfer ardaloedd daearyddol manylach fyth, i lawr i Ardaloedd Cynnyrch (yn Saesneg) lle y bo modd.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr oedd 59,597,542 (3,107,494 yng Nghymru a 56,490,048 yn Lloegr); dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.
Cynyddodd poblogaeth Cymru a Lloegr fwy na 3.5 miliwn (6.3%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 56,075,912.
Cynyddodd y boblogaeth ym mhob un o'r naw rhanbarth yn Lloegr, a chynyddodd yng Nghymru hefyd; y rhanbarth lle cynyddodd y boblogaeth fwyaf oedd Dwyrain Lloegr, i fyny 8.3% o 2011 (cynnydd o oddeutu 488,000 o breswylwyr).
Roedd 30,420,202 o fenywod (51.0% o'r boblogaeth) a 29,177,340 o ddynion (49.0%) yng Nghymru a Lloegr.
Roedd 24,783,199 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; cynyddodd nifer y cartrefi fwy nag 1.4 miliwn ers 2011 (6.1%), pan oedd 23,366,044 o gartrefi. Yr oedran canolrifol yng Nghymru a Lloegr oedd 40 oed (42 oed yng Nghymru, 40 oed yn Lloegr); mae hyn yn uwch na'r oedran canolrifol ledled Cymru a Lloegr yn 2011, sef 39 oed.
Y rhanbarth o Loegr â'r oedran canolrifol uchaf oedd De-orllewin Lloegr (44 oed) a'r rhanbarth o Loegr â'r oedran canolrifol isaf oedd Llundain (35 oed).
Ledled Cymru a Lloegr, yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol uchaf oedd Gogledd Norfolk (54 oed), Rother (53 oed) a Dwyrain Lindsey (52 oed).
Yr awdurdod lleol â'r oedran canolrifol isaf oedd Tower Hamlets (30 oed), yna Nottingham, Caergrawnt, Rhydychen a Manceinion (pob un yn 31 oed).
Dewiswch ardal i weld sut mae oedran canolrifol yn amrywio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.
Ffigur 1: Roedd awdurdodau lleol â mwy o fyfyrwyr prifysgol yn tueddu i gael oedran canolrifol is
Strwythur oedran y boblogaeth, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau
- Yr oedran canolrifol yw oedran y person yng nghanol y grŵp, fel bod un hanner o'r grŵp yn iau na'r person hwnnw a'r hanner arall yn hŷn.
- Mae oedran yn cyfeirio at oedran person ar ei ben-blwydd diwethaf yn hytrach na'r union oedran.
- Caiff canrannau eu talgrynnu i un lle degol.
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys2. Amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: data
Rhyw (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl rhyw. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Oedran yn ôl un flwyddyn (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl un flwyddyn o oed. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Rhyw yn ôl un flwyddyn o oed (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl rhyw ac un flwyddyn o oedran. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Nifer y cartrefi (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar nifer y cartrefi yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Dwysedd poblogaeth (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl dwysedd poblogaeth. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
3. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Ansawdd
Oherwydd effaith y broses o ddileu talgrynnu a rhoi prosesau ystadegol eraill ar waith, gall fod gwahaniaethau bach iawn ar gyfer rhai awdurdodau lleol rhwng yr amcangyfrifon wedi'u talgrynnu a heb eu talgrynnu o'r boblogaeth a chartrefi.
Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol a'r modd y cafodd y data eu creu ar gael yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein hadroddiad am Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).
Nôl i'r tabl cynnwys4. Dolenni cysylltiedig
Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth wedi'u talgrynnu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.
Lleisiau ein poblogaeth sy'n heneiddio: Byw bywydau hirach (yn Saesneg)
Erthygl ryngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Pam mae heneiddio poblogaeth yn bwysig a beth mae data Cyfrifiad 2021 yn ei ddweud wrthym? Lluniwyd yr erthygl hon mewn partneriaeth ag Age UK, y Centre for Ageing Better a'r International Longevity Centre UK.
Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.
Geiriadur Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Diffiniadau o newidynnau, dosbarthiadau allbwn, rhestr termau a metadata daearyddiaeth.
Cymharu amcangyfrifon oedran-rhyw o Gyfrifiad 2021 ag ardaloedd yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 28 Mehefin 2022, diweddarwyd â data heb eu talgrynnu ar 2 Tachwedd 2022
Adnodd rhyngweithiol i gymharu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio amcangyfrifon oedran-rhyw a gwybodaeth sicrhau ansawdd.
Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar ddemograffeg a mudo yng Nghymru.
5. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021, data heb eu talgrynnu.