Statws gweithgarwch economaidd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Pobl mewn gwaith a heb fod mewn gwaith, gan gwmpasu cyflogaeth, diweithdra, oriau gwaith ac erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census

Cyswllt:
Email Sarah Garlick

Dyddiad y datganiad:
8 December 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg; bydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol, y canllawiau cysylltiedig a'r mesurau ffyrlo wedi effeithio ar bwnc y farchnad lafur.

  • Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion polisi a chynllunio.

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd 29.4 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn weithgar yn economaidd (60.6%), tra bo 19.1 miliwn (39.4%) yn anweithgar yn economaidd.

  • O blith preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, roedd bron hanner yn weithwyr cyflogedig (47.6%, 23.1 miliwn), roedd bron 1 o bob 10 yn hunangyflogedig (9.6%, 4.7 miliwn) ac roedd 3.4% (1.7 miliwn) arall yn ddi-waith ond yn chwilio am waith.

  • Roedd dros un rhan o bump o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod wedi ymddeol (21.6%, 10.5 miliwn).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Statws gweithgarwch economaidd

Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaethom ofyn i bawb a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad a oedd yn 16 oed a throsodd ateb y cwestiynau am eu statws gweithgarwch economaidd. Gofynnodd y cwestiynau a oedd unigolyn yn gweithio neu'n chwilio am waith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.

Mae tri phrif fath o statws gweithgarwch economaidd:

  • yn weithgar yn economaidd: mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)

  • yn weithgar yn economaidd: pobl ddi-waith (y rhai a oedd yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn)

  • yn anweithgar yn economaidd (y rhai nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos)

Yng Nghymru a Lloegr, o blith y 48.6 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd, roedd tua 27.8 miliwn mewn gwaith (57.2%), roedd 1.7 miliwn yn ddi-waith (3.4%) ac roedd 19.1 miliwn yn anweithgar yn economaidd (39.4%). Mae'r boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd yn cynnwys pobl a gafodd eu rhoi ar ffyrlo pan oedd Cyfrifiad 2021 yn cael ei gynnal, yr ystyriwyd eu bod i ffwrdd o'r gwaith dros dro. Yng Nghymru a Lloegr, mae ystadegau Cyllid a Thollau EF yn nodi bod 3.8 miliwn o weithwyr wedi'u cofrestru ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (yn Saesneg) a gwnaeth 1.8 miliwn o bobl hunangyflogedig gais am bedwerydd grant y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Yn weithgar yn economaidd: mewn gwaith

Yng Nghymru a Lloegr, cofnodwyd bod 27.8 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd ac mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021, sef 57.2% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd. Roedd y ganran a oedd mewn gwaith yn uwch yn Lloegr (57.4%) o gymharu â Chymru (53.5%).

Ledled rhanbarthau Lloegr, roedd y ganran a oedd mewn gwaith yn amrywio o 52.2% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 61.4% yn Llundain.

Ledled awdurdodau lleol Lloegr, roedd y ganran a oedd mewn gwaith yn amrywio o 45.8% yn Nwyrain Lindsey yn Nwyrain Canolbarth Lloegr i 69.6% ym mwrdeistref Wandsworth yn Llundain. Ledled awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd y canrannau yn amrywio o 49.1% yng Ngheredigion i 57.9% yn Sir y Fflint.

Mae'n debygol bod canran y bobl mewn ardal a oedd yn weithgar yn economaidd ac mewn gwaith yn gysylltiedig â phroffil oedran y boblogaeth breswyl arferol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am strwythur oedran y boblogaeth yn amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi.

Ffigur 1: Roedd canran y bobl a oedd mewn gwaith yn amrywio rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithgar yn economaidd ac mewn gwaith, 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Roedd yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn cyflogaeth yn gallu nodi pa un o'r canlynol oedd yn eu disgrifio yn eu prif swydd:

  • gweithiwr cyflogedig (y rhai a oedd yn gwneud gwaith am dâl i sefydliad, busnes neu unigolyn preifat)
  • hunangyflogedig neu'n gweithio ar eu liwt eu hunain (y rhai a oedd yn gweithredu ac yn berchen ar eu busnes eu hunain, practis proffesiynol, neu fenter debyg)

Gofynnwyd i bobl a oedd yn hunangyflogedig neu'n gweithio ar eu liwt eu hunain fanylu a oeddent yn:

  • hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill
  • hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill

Yng Nghymru a Lloegr, roedd 23.1 miliwn yn weithwyr cyflogedig (47.6% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Roedd cyfran y gweithwyr cyflogedig yn uwch yn Lloegr (47.7%) nag yng Nghymru (45.2%).

Roedd 4.7 miliwn o bobl hunangyflogedig yng Nghymru a Lloegr (9.6% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Roedd cyfanswm o 748,000 (1.5%) yn hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill ac roedd 3.9 miliwn (8.1%) yn hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill. Roedd cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith a oedd yn hunangyflogedig (ac yn cyflogi gweithwyr eraill neu heb gyflogi gweithwyr eraill) yn uwch yn Lloegr (9.7%) nag yng Nghymru (8.3%).

Ledled rhanbarthau Lloegr, roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithwyr cyflogedig yn amrywio o 45.6% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 48.9% yn Llundain. Yn gyfatebol, roedd y ganran a oedd yn hunangyflogedig yn amrywio o 6.6% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 12.5% yn Llundain.

Ledled awdurdodau lleol Lloegr, roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithwyr cyflogedig yn amrywio o 35.2% yng Ngogledd Norfolk i 57.5% ym Mwrdeistref Wandsworth yn Llundain. Ledled awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd y canrannau yn amrywio o 35.8% yng Ngheredigion i 50.5% yng Nghasnewydd.

Roedd y ganran a oedd yn hunangyflogedig (ac yn cyflogi gweithwyr eraill neu heb gyflogi gweithwyr eraill) yn awdurdodau lleol Lloegr yn amrywio o 5.6% yn Barrow-in-Furness i 20.9% yn Ynysoedd Scilly, ac yn awdurdodau lleol Cymru roedd y canrannau yn amrywio o 5.5% ym Mlaenau Gwent i 15.0% ym Mhowys.

Ffigur 2: Roedd hunangyflogaeth yn amrywio ar y lefel ranbarthol yn 2021

Gweithwyr cyflogedig a phobl hunangyflogedig: preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 2021, Cymru, Lloegr, a rhanbarthau Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Yn weithgar yn economaidd: yn ddi-waith

Ar adeg Cyfrifiad 2021, roedd 1.7 miliwn o breswylwyr arferol a oedd yn weithgar yn economaidd ac yn ddi-waith (3.4% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn.

Roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithgar yn economaidd ac yn ddi-waith yn uwch yn Lloegr (3.5%) nag yng Nghymru (3.1%). Yn rhanbarthau Lloegr, roedd y canrannau yn amrywio o 2.6% yn Ne-orllewin Lloegr i 4.8% yn Llundain.

Yn awdurdodau lleol Lloegr, bwrdeistrefi Newham (6.3% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd) a Tower Hamlets (6.0%) yn Llundain oedd â'r canrannau uchaf o bobl a oedd yn ddi-waith. Yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â'r ganran uchaf o bobl a oedd yn ddi-waith (4.1% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd).

Ffigur 3: Roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn ddi-waith yn amrywio ledled awdurdodau lleol yn 2021

Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithgar yn economaidd ac yn ddi-waith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Yn anweithgar yn economaidd

Roedd pobl 16 oed a throsodd yn anweithgar yn economaidd os nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021 a:

  • nid oeddent yn chwilio am waith
  • roeddent yn chwilio am waith ond nid oeddent ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf

Cofnodwyd y rheswm eu bod yn anweithgar fel un o'r canlynol:

  • wedi ymddeol (gan dderbyn pensiwn neu beidio)
  • astudio - gofalu am y cartref neu am y teulu
  • anabl neu yn sâl am gyfnod hir
  • rheswm arall

Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar farchnad lafur y Deyrnas Unedig, mae'n bosibl y bydd nifer amcangyfrifedig y bobl a oedd yn anweithgar yn economaidd yn uwch na'r disgwyl mewn rhai ardaloedd. Mae'n bosibl y bydd rhai pobl a oedd ar ffyrlo wedi nodi eu bod yn anweithgar yn economaidd, yn hytrach nag i ffwrdd o'r gwaith dros dro.

Roedd cyfanswm o 19.1 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn anweithgar yn economaidd yn 2021 (39.4%). Roedd canran uwch yn anweithgar yn economaidd yng Nghymru (43.5%, 1.1 miliwn) o gymharu â Lloegr (39.1%, 18.0 miliwn).

Yng Nghymru a Lloegr, y rhesymau mwyaf cyffredin dros fod yn anweithgar yn economaidd oedd:

  • wedi ymddeol (21.6% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 10.5 miliwn)
  • astudio (5.6%, 2.7 miliwn)

At hynny, roedd:

  • 2.3 miliwn o bobl (4.8%) yn gofalu am y cartref neu am y teulu
  • 2.0 miliwn (4.2%) yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir
  • 1.5 miliwn (3.1%) yn anweithgar yn economaidd am reswm arall

Ffigur 4: Pobl a oedd wedi ymddeol oedd yn cyfrif am y ganran fwyaf o'r boblogaeth anweithgar yn economaidd yn 2021

Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn anweithgar yn economaidd, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yng Nghymru, roedd canrannau mwy o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod wedi ymddeol (24.7%), yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir (5.9%) neu'n astudio (5.7%) nag yn Lloegr (21.5%, 4.1% a 5.6% yn y drefn honno).

Yn Lloegr, roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod wedi ymddeol yn amrywio o 12.9% yn Llundain i 25.6% yn Ne-orllewin Lloegr. O gymharu â rhanbarthau eraill yn Lloegr, roedd canran fwy o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn Llundain yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod yn astudio (7.2%) neu'n gofalu am y cartref neu am y teulu (6.0%). Roedd canran fwy yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (5.7%) a Gogledd-orllewin Lloegr (5.3%) o gymharu â rhanbarthau eraill yn Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Oriau gwaith

Gofynnwyd i'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith (27.8 miliwn o bobl) sawl awr yr wythnos roeddent yn gweithio fel arfer, gan gynnwys oriau ychwanegol am dâl neu heb dâl.

Mae'n bosibl y bydd y cynllun ffyrlo, a'r ffaith bod busnesau ar agor am lai o oriau yng Nghymru a Lloegr pan gynhaliwyd Cyfrifiad 2021, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), wedi peri i bobl gofnodi mwy, neu lai, o oriau gwaith na chyn y coronafeirws.

Yng Nghymru a Lloegr, roedd 19.5 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith (70.2%) yn gweithio'n llawn amser (31 awr neu fwy yr wythnos). Roedd y ganran a oedd yn gweithio'n llawn amser yn debyg yng Nghymru (70.1%) ac yn Lloegr (70.2%).

O blith y bobl yng Nghymru a Lloegr a oedd yn gweithio'n llawn amser, roedd 16.4 miliwn o bobl yn gweithio rhwng 31 a 48 awr yr wythnos (59.1%) a 3.1 miliwn yn gweithio 49 awr neu fwy yr wythnos (11.0%). Roedd cyfran y bobl a oedd yn gweithio 49 awr neu fwy yr wythnos yn uwch yn Lloegr (11.1%) nag yng Nghymru (10.2%).

Roedd yr 8.3 miliwn (29.8%) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yng Nghymru a Lloegr sy'n weddill yn gweithio'n rhan-amser (hyd at 30 awr yr wythnos). O blith y rhai a oedd yn gweithio'n rhan-amser, roedd 2.9 miliwn (10.3%) yn gweithio 15 awr neu lai yr wythnos a 5.4 miliwn (19.5%) yn gweithio rhwng 16 a 30 awr yr wythnos. Roedd cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn gweithio 15 awr neu lai yn fwy yn Lloegr (10.3%) nag yng Nghymru (9.0%).

Ffigur 5: Roedd dros chwarter y preswylwyr arferol mewn gwaith yn gweithio'n rhan-amser

Oriau gwaith fesul wythnos, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ledled rhanbarthau Lloegr, roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn gweithio'n llawn amser (31 awr neu fwy) yn amrywio o 67.7% yn Ne-orllewin Lloegr i 72.0% yn Llundain.

Ledled awdurdodau lleol yn Lloegr, roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn gweithio'n llawn amser yn amrywio o 62.2% yn South Hams yn Ne-orllewin Lloegr i 83.5% yn Ninas Llundain. Ledled awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd y canrannau a oedd yn gweithio'n llawn amser yn amrywio o 65.3% yng Ngheredigion i 73.7% ym Mlaenau Gwent.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Hanes cyflogaeth

Gofynnwyd i'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn weithgar yn economaidd ac yn ddi-waith, neu'n anweithgar yn economaidd (20.8 miliwn o bobl), a oeddent erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl. Roedd hyn yn golygu y gallai pobl yng Nghymru a Lloegr nad oeddent mewn gwaith yn ystod Cyfrifiad 2021 gael eu rhannu'n dri chategori:

  • wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf yn ystod y 12 mis diwethaf (13.1% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd nad oeddent mewn gwaith, 2.7 miliwn)
  • wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf dros 12 mis yn ôl (61.4%, 12.8 miliwn)
  • erioed wedi gweithio (25.5%, 5.3 miliwn)

Yn Lloegr, roedd canran fwy o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd heb fod mewn gwaith erioed wedi gweithio (25.6%) nag yng Nghymru (23.1%). Roedd canran y boblogaeth a oedd wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf dros 12 mis yn ôl yn fwy yng Nghymru (65.4%) nag yn Lloegr (61.1%).

Yn Lloegr, Llundain oedd y rhanbarth â'r ganran fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd heb fod mewn gwaith nad oeddent erioed wedi gweithio (35.2%) a'r ganran leiaf a oedd wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf dros 12 mis yn ôl (48.7%).

Newham (48.7%) oedd yr awdurdod lleol yn Lloegr â'r ganran fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd heb fod mewn gwaith nad oeddent erioed wedi gweithio, ac yna Tower Hamlets (47.4%). Roedd gan yr un awdurdodau lleol y canrannau lleiaf o breswylwyr oedd wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf dros 12 mis yn ôl (34.4% a 34.6% yn y drefn honno).

Yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â'r ganran fwyaf o breswylwyr nad oeddent erioed wedi gweithio (28.6%) a'r ganran leiaf a oedd wedi gwneud gwaith am dâl ddiwethaf dros 12 mis yn ôl (53.4%).

Ffigur 6: Roedd cyfnod heb waith yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Cyfnod heb waith, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd nad oeddent mewn gwaith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Data statws gweithgarwch economaidd

Statws gweithgarwch economaidd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl statws gweithgarwch economaidd. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Oriau gwaith (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer eu horiau gwaith bob wythnos. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Hanes cyflogaeth (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr nad oeddent mewn cyflogaeth ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, yn ôl p'un a oeddent mewn gwaith a phryd y cawsant eu cyflogi ddiwethaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Rhestr termau

Gweithgarwch economaidd

Mae pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:

  • mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos
  • yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn

Mae'n mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.

Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.

Gweithiwr cyflogedig

Person 16 oed a throsodd mewn gwaith sy'n gweithio am dâl i unigolyn neu sefydliad yw gweithiwr cyflogedig.

Mae hyn yn ymwneud â phrif swydd pobl neu, os nad oeddent yn gweithio ar adeg y cyfrifiad, eu prif swydd ddiwethaf.

Hunangyflogedig

Pobl hunangyflogedig 16 oed a throsodd sy'n gweithredu ac yn berchen ar eu busnes eu hunain, practis proffesiynol neu fenter debyg, gan gynnwys y rhai a weithredir gyda phartner.

Mae hyn yn ymwneud â phrif swydd pobl neu, os nad oeddent yn gweithio ar adeg y cyfrifiad, eu prif swydd ddiwethaf. Gall hyn gynnwys pobl sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, sy'n golygu rhywun sy'n hunangyflogedig ac sy'n gweithio (neu wedi gweithio) i gwmnïau gwahanol ar ddarnau penodol o waith.

Gall pobl hunangyflogedig nad ydynt yn gweithio ar eu liwt eu hunain gyflogi gweithwyr eraill.

Oriau gwaith

Mae nifer yr oriau gwaith fesul wythnos cyn y cyfrifiad yn cynnwys oriau ychwanegol am dâl neu heb dâl. Mae hyn yn cwmpasu prif swydd unrhyw un sy'n 16 oed a throsodd.

Hanes cyflogaeth

Yn dosbarthu pobl nad oeddent mewn cyflogaeth ar Ddiwrnod y Cyfrifiad i:

  • ddim mewn cyflogaeth: wedi gweithio yn ystod y 12 mis diwethaf
  • ddim mewn cyflogaeth: heb weithio yn y 12 mis diwethaf
  • ddim mewn cyflogaeth: erioed wedi gweithio

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Mae data'r farchnad lafur yn cyfeirio'n bennaf at weithgarwch ymatebwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae hyn yn cyfeirio at 15 i 21 Mawrth 2021. Yn y grwpiau di-waith ac yn anweithgar yn economaidd, y pedair wythnos y mae person wedi bod yn chwilio am swydd ynddynt yw rhwng 21 Chwefror a 21 Mawrth 2021, a rhaid iddo allu dechrau swydd yn ystod y pythefnos nesaf, 21 Mawrth i 4 Ebrill 2021.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb sy'n benodol i gwestiynau ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cryfderau a chyfyngiadau

Gwybodaeth am ansawdd y data am y farchnad lafur

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod cyfnod o newid cyflym. Gwnaethom roi canllawiau ychwanegol i helpu pobl a oedd ar ffyrlo i ateb cwestiynau'r cyfrifiad am waith. Fodd bynnag, ni allwn gadarnhau sut y dilynodd pobl a oedd ar ffyrlo y canllawiau. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion cynllunio. Darllenwch fwy am ein hystyriaethau ansawdd penodol yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Diffiniadau'r Farchnad Lafur

Gan fod y cyfrifiad yn defnyddio diffiniadau gwahanol o'r farchnad lafur i'r rhai a ddefnyddir gan yr Arolwg o'r Llafurlu, mae'r amcangyfrifon yn amrywio rhwng y ddwy ffynhonnell hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein herthygl sy'n cymharu amcangyfrifon y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2021 (yn Saesneg).

Cyffredinol

Gallwch ddarllen am gryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Sicrhau ansawdd

Ceir manylion am y prosesau sicrhau ansawdd y gwnaethom eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn ein methodoleg am sut y gwnaethom sicrhau ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Gallwch hefyd ddarllen am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein methodoleg am sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 8 Rhagfyr 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am y Farchnad Lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau'r farchnad lafur Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am y farchnad lafur

Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Statws gweithgarwch economaidd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Sarah Garlick
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972