Gallwch weld beth rydym wedi'i gyhoeddi ar y calendr datganiadau.

Crynodebau pwnc

Set o ddata a gwybodaeth ategol, a drefnir yn ôl thema debyg, yw crynodeb pwnc. Mae'r mwyafrif o'r setiau data rydym wedi'u rhyddhau fel rhan o bob crynodeb pwnc yn cynnwys data ar un newidyn yn unig. 

Y crynodebau pwnc o ran trefn cyhoeddi yw:

Mae pob un o'r setiau data hyn yn cynnwys gwybodaeth am boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr. Nid yw'r setiau data hyn yn cynnwys cyfansymiau nac is-gyfansymiau. 

Mae setiau data'r crynodebau pwnc ar gael hyd at lefel Ardal Gynnyrch lle bo mesurau rheoli datgelu ystadegol yn caniatáu hynny. Lle y bo modd, mae setiau data ar gael ar gyfer ardaloedd daearyddol eraill, gan ddefnyddio dull ffit orau Ardaloedd Cynnyrch. Ardaloedd Cynnyrch yw'r ardaloedd daearyddol lleiaf y bydd allbynnau safonol ar gael ar eu cyfer. Fel rheol mae'r rhain yn cynnwys tua 100 o gartrefi.

Proffiliau ardal

Mae proffiliau ardal yn galluogi defnyddwyr i weld ystadegau o bynciau gwahanol ar gyfer ardal benodol. Mae'r rhain hefyd yn galluogi defnyddwyr i gymharu ystadegau lleol ar gyfer ardal ag ystadegau cenedlaethol.

Rydym wedi creu'r proffiliau ardal dynamig hyn gan ddefnyddio data o'r crynodebau pwnc.

Mae proffiliau ardal ar gael ar gyfer amrywiaeth o fathau o ardaloedd dros amser. Gallwch weld proffiliau ardal ar wefan Nomis.

Y newidynnau a'r dosbarthiadau sydd i'w cynnwys

Rydym wedi nodi'r newidynnau a'r dosbarthiadau sydd wedi'u cynnwys yn y crynodebau pwnc yn nhabiau cyfatebol y daenlen manylebau ar gyfer crynodebau pwnc (261.8kB, xlsx).

Ble i ddod o hyd i'r data

Rydym wedi cyhoeddi setiau data'r crynodebau pwnc ar wefan SYG. Mae setiau data crynodebau pwnc ar gael ar wefan Nomis hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein cynlluniau ar gyfer crynodebau pwnc a phroffiliau ardal Cyfrifiad 2021, cysylltwch â ni yn census.outputs@ons.gov.uk.

Lawrlwythiadau cysylltiedig

Related downloads