Cofair: uk_armed_forces
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol
Diffiniad
Yn nodi pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod yn lluoedd arfog, naill ai'r lluoedd arfog rheolaidd, wrth gefn neu Fasnachlongwyr, sydd wedi bod ar ddyletswydd ar ymgyrchoedd milwrol a ddiffiniwyd yn gyfreithiol.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 5
Cod | Enw |
---|---|
1 | Wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Deyrnas Unedig yn y gorffennol |
2 | Wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog wrth gefn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol |
3 | Wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol |
4 | Heb wasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol |
-8 | Ddim yn gymwys |
Ansawdd gwybodaeth
Cymerwch ofal wrth gymharu nodweddion cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig a’r rhai nad ydynt yn gyn-filwyr, gan fod cyn-filwyr yn ddynion ac yn hŷn yn bennaf. Gall peidio ag addasu ar gyfer y ffaith hon arwain at gamddehongli, gan fod newidynnau fel iechyd yn ymwneud yn gryf ag oedran a rhyw.
Cwestiwn a ofynnwyd
Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (e.e. y fyddin)?
- Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Rheolaidd yn y gorffennol
- Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Wrth Gefn yn y gorffennol
- Neu nac ydw
Roedd y cwestiwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac nid oes modd cymharu â Chyfrifiad 2011.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn
Mae’r ateb yn helpu cymunedau drwy roi’r wybodaeth a fydd yn helpu i gefnogi'n well y rhai sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ond sydd bellach wedi gadael. Bydd llywodraeth leol a chanolog, busnesau a sefydliadau elusennol yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyflawni eu hymrwymiadau o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog. Addewid gan y genedl yw hwn, sy'n gwneud yn siŵr nad yw’r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, na'u teuluoedd, o dan anfantais.
Dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ofyn y cwestiwn hwn.
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael eto. Dysgwch fwy am ddata cyfrifiad y Deyrnas Unedig.
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch chi:
- gael y set ddata dangosydd cyn-filwr yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (yn Saesneg)
- weld data dangosydd cyn-filwr yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ar fap (yn Saesneg)
Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).