Cofair: sexual_orientation
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Yn dosbarthu pobl yn ôl yr ymatebion i'r cwestiwn cyfeiriadedd rhywiol. Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol a dim ond i bobl 16 oed a throsodd y gwnaethom ei ofyn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Heterorywiol/Strêt
2 Hoyw neu Lesbiaidd
3 Deurywiol/Bi
4 Panrywiol
5 Anrhywiol
6 Cwiar
7 Pob cyfeiriadedd rhywiol arall
8 Heb ateb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad cyfeiriadedd rhywiol.

Ansawdd gwybodaeth

Mae nifer o agweddau cysylltiedig ag ansawdd ar ddata'r cyfrifiad ar gyfeiriadedd rhywiol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio amcangyfrifon ar y pwnc hwn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?

  • Heterorywiol/Strêt
  • Hoyw neu Lesbiaidd
  • Deurywiol/Bi
  • Cyfeiriadedd rhywiol arall, nodwch

Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol.

Roedd y cwestiwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac nid oes modd cymharu â Chyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau lleol drwy alluogi elusennau, cyrff cyhoeddus a llywodraeth leol a chanolog i ddeall pa wasanaethau y gallai fod eu hangen ar bobl.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro cydraddoldeb rhwng grwpiau o bobl o gyfeiriadedd rhywiol gwahanol. Bydd eich ateb yn helpu cyrff cyhoeddus i nodi achosion o wahaniaethu neu allgáu cymdeithasol ar sail cyfeiriadedd rhywiol a gweithio i'w hatal rhag digwydd.

Dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ofyn y cwestiwn hwn.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn