Cofair: gender_identity
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu pobl yn ôl yr ymatebion i'r cwestiwn hunaniaeth o ran rhywedd. Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol a dim ond i bobl 16 oed a throsodd y gwnaethom ei ofyn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan y'i ganwyd
2 Hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan y'i ganwyd ond heb nodi hunaniaeth benodol
3 Menyw draws
4 Dyn traws
5 Anneuaidd
6 Pob hunaniaeth rhyw arall
7 Heb ateb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad hunaniaeth o ran rhywedd.

Ansawdd gwybodaeth

Rhaid bod yn arbennig o ofalus wrth ddehongli canlyniadau'r cyfrifiad ar hunaniaeth o ran rhywedd. Darllenwch y wybodaeth am ansawdd data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 cyn defnyddio'r data hyn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn