Cofair: occupation_former
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'n dosbarthu pobl 16 oed a throsodd nad oeddent mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ond sydd wedi gweithio yn flaenorol, yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol, sy'n cynrychioli eu galwedigaeth flaenorol.

Caiff galwedigaethau eu codio i'r Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020 sy'n cyfateb orau i'r teitl swydd, neu fanylion gweithgareddau y mae ymatebwyr yn eu cyflawni yn eu swydd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 11

Cod Enw
1 1. Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion
2 2. Galwedigaethau proffesiynol
3 3. Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt
4 4. Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol
5 5. Galwedigaethau masnachau medrus
6 6. Galwedigaethau gofalu a hamdden, a galwedigaethau gwasanaethau eraill
7 7. Galwedigaethau gwerthiannau a gwasanaethau cwsmeriaid
8 8. Gweithredwyr prosesau a pheiriannau
9 9. Galwedigaethau elfennol
10 Erioed wedi gweithio
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl a oedd mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Gwnaethom newid y dosbarthiad ar gyfer Cyfrifiad 2021 a chyfuno'r categorïau a oedd ar gael yn flaenorol yn nata Cyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).