Cofair: hh_adults_employment
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Nifer y bobl sydd mewn gwaith mewn cartref.

Mae oedolyn yn cyfeirio at berson nad yw'n blentyn dibynnol. Diffinnir bod person 16 oed a throsodd mewn gwaith os oedd wedi cyflawni o leiaf awr o waith am dâl yn ystod yr wythnos cyn y cyfrifiad, naill ai fel gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Mae hyn hefyd yn cynnwys: * unrhyw fath arall o waith am dâl * i ffwrdd o'r gwaith yn sâl * ar gyfnod mamolaeth * ar wyliau * wedi’ch cadw o’ch gwaith dros dro am na all eich cyflogwr gynnig gwaith ar hyn o bryd

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
0 Dim oedolion mewn gwaith yn y cartref
1 1 oedolyn mewn gwaith yn y cartref
2 2 oedolyn mewn gwaith yn y cartref
3 3 neu fwy o oedolion mewn gwaith yn y cartref
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).