Cofair: industry_current
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'n dosbarthu pobl 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy'n cynrychioli eu diwydiant neu eu busnes presennol.

Caiff cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ei neilltuo yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir am brif weithgarwch cwmni neu sefydliad.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 88

Cod Enw
1 01 Cynhyrchu cnydau ac anifeiliaid, hela a gweithgareddau gwasanaethau cysylltiedig
2 02 Coedwigaeth a thorri coed
3 03 Pysgota a dyframaethu
4 05 Cloddio am lo a choedlo
5 06 Cloddio am betrolewm crai a nwy naturiol
6 07 Cloddio am fwynau metel
7 08 Mwyngloddio a chwarela arall
8 09 Gweithgareddau gwasanaethau cymorth cloddio
9 10 Gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd
10 11 Gweithgynhyrchu diodydd
11 12 Gweithgynhyrchu cynhyrchion tybaco
12 13 Gweithgynhyrchu tecstilau
13 14 Gweithgynhyrchu dillad
14 15 Gweithgynhyrchu lledr a chynhyrchion cysylltiedig
15 16 Gweithgynhyrchu pren a chynhyrchion pren a chorc, ac eithrio dodrefn; gweithgynhyrchu eitemau gwellt a deunyddiau plethu
16 17 Gweithgynhyrchu papur a chynhyrchion papur
17 18 Argraffu ac atgynhyrchu cyfryngau wedi'u recordio
18 19 Gweithgynhyrchu golosg a chynhyrchion petrolewm puredig
19 20 Gweithgynhyrchu cemegion a chynhyrchion cemegol
20 21 Gweithgynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol a pharatoadau fferyllol
21 22 Gweithgynhyrchu cynhyrchion rwber a phlastig
22 23 Gweithgynhyrchu cynhyrchion mwynol eraill nad ydynt yn fetel
23 24 Gweithgynhyrchu metel sylfaenol
24 25 Gweithgynhyrchu cynhyrchion metel lluniedig, ac eithrio peiriannau a chyfarpar
25 26 Gweithgynhyrchu cynhyrchion cyfrifiadurol, trydanol ac optegol
26 27 Gweithgynhyrchu cyfarpar trydanol
27 28 Gweithgynhyrchu peiriannau a chyfarpar heb ei nodi fel arall
28 29 Gweithgynhyrchu cerbydau modur, trelars a threlars heb echel flaen
29 30 Gweithgynhyrchu cyfarpar cludo arall
30 31 Gweithgynhyrchu dodrefn
31 32 Gweithgynhyrchu arall
32 33 Atgyweirio a gosod peiriannau a chyfarpar
33 35 Cyflenwi trydan, nwy, stêm a systemau aerdymheru
34 36 Casglu, trin a chyflenwi dŵr
35 37 Carthffosiaeth
36 38 Gweithgareddau casglu, trin a gwaredu gwastraff; adfer deunyddiau
37 39 Gweithgareddau adfer a gwasanaethau rheoli gwastraff eraill
38 41 Codi adeiladau; 42 Peirianneg sifil; 43 Gweithgareddau adeiladu arbenigol
39 45 Masnach cyfanwerthu a manwerthu ac atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
40 46 Masnach cyfanwerthu, ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur
41 47 Masnach manwerthu, ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur
42 48 Cyfanwerthu a manwerthu heb ei nodi fel arall
43 49 Cludo tir a chludo drwy biblinellau
44 50 Cludo dŵr
45 51 Cludo awyr
46 52 Warysau a gweithgareddau cymorth ar gyfer cludo
47 53 Gweithgareddau postio a dosbarthu
48 55 Llety
49 56 Gweithgareddau gwasanaethau bwyd a diodydd
50 58 Gweithgareddau cyhoeddi
51 59 Gweithgareddau ffilm, fideo a chynhyrchu rhaglenni teledu, recordio sain a chyhoeddi cerddoriaeth
52 60 Gweithgareddau rhaglennu a darlledu
53 61 Telathrebu
54 62 Rhaglennu cyfrifiadurol, ymgynghori a gweithgareddau cysylltiedig
55 63 Gweithgareddau gwasanaethau gwybodaeth
56 64 Gweithgareddau gwasanaethau ariannol, ac eithrio yswiriant a phensiynau
57 65 Yswiriant, ailyswiriant a phensiynau, ac eithrio nawdd cymdeithasol gorfodol
58 66 Gweithgareddau sy'n ategu gwasanaethau ariannol a gweithgareddau yswiriant
59 68 Gweithgareddau eiddo tirol
60 69 Gweithgareddau cyfreithiol a chyfrifyddu
61 70 Gweithgareddau prif swyddfeydd; gweithgareddau ymgynghoriaeth reoli
62 71 Gweithgareddau pensaernïol a pheirianneg; profi a dadansoddi technegol
63 72 Ymchwil a datblygu gwyddonol
64 73 Hysbysebu ac ymchwil i'r farchnad
65 74 Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol eraill
66 75 Gweithgareddau milfeddygol
67 77 Gweithgareddau rhentu a phrydlesu
68 78 Gweithgareddau cyflogi
69 79 Asiantaethau teithio, gweithredwyr teithiau a gwasanaethau cadw a gweithgareddau cysylltiedig eraill
70 80 Gweithgareddau diogelu ac ymchwilio
71 81 Gweithgareddau gwasanaethau i adeiladau a thirlunio
72 82 Gweithgareddau gweinyddol swyddfa, cymorth swyddfa a chymorth busnes arall
73 84 Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
74 85 Addysg
75 86 Gweithgareddau iechyd pobl
76 87 Gweithgareddau gofal preswyl
77 88 Gweithgareddau gwaith cymdeithasol di-breswyl
78 90 Gweithgareddau creadigol, y celfyddydau ac adloniant
79 91 Llyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd a gweithgareddau diwylliannol eraill
80 92 Gweithgareddau gamblo a betio
81 93 Gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau difyrion a hamdden
82 94 Gweithgareddau sefydliadau aelodaeth
83 95 Atgyweirio cyfrifiaduron a nwyddau personol a'r cartref
84 96 Gweithgareddau gwasanaethau personol eraill
85 97 Gweithgareddau cartrefi fel cyflogwyr personél domestig
86 98 Gweithgareddau diwahaniaeth sy'n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cartrefi preifat at eu defnydd eu hunain
87 99 Gweithgareddau sefydliadau a chyrff alldiriogaethol
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad diwydiant (cyfredol).

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rhoi mwy o fanylion am ddiwydiant presennol rhywun na'r Alban.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn