Cofair: has_ever_worked
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Yn dosbarthu pobl nad oeddent mewn cyflogaeth ar Ddiwrnod y Cyfrifiad i:

  • Ddim mewn cyflogaeth: Wedi gweithio yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Ddim mewn cyflogaeth: Heb weithio yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Ddim mewn cyflogaeth: Erioed wedi gweithio

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Ddim mewn cyflogaeth: Wedi gweithio yn ystod y 12 mis diwethaf
2 Ddim mewn cyflogaeth: Heb weithio yn ystod y 12 mis diwethaf
3 Ddim mewn cyflogaeth: Erioed wedi gweithio
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl?

  • Ydw, yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Ydw, ond nid yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Nac ydw, erioed wedi gweithio

Yng Nghyfrifiad 2021, cafodd y cwestiwn ei ddiwygio er mwyn gofyn am statws cyflogaeth rhywun. Diweddarwyd yr opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt er mwyn adlewyrchu'r newid hwn.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r atebion yn helpu cymunedau lleol drwy alluogi elusennau, sefydliadau ac awdurdodau lleol i nodi ble mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â chyfraddau cyflogaeth isel yn eu hardal.

Mae'r ateb hefyd yn helpu awdurdodau lleol i wneud cynlluniau sy'n cefnogi symiau mawr o wariant cyhoeddus, er enghraifft, creu swyddi, cyfleoedd addysgol a gwasanaethau iechyd.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn cwestiynau am gyflogaeth yn 1851.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Newidiodd y cwestiwn ar hanes cyflogaeth rhwng cyfrifiad 2011 a 2021.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Nid yw'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr a'r Alban yn rhoi gwybodaeth am nifer y bobl sydd mewn gwaith, sy'n wahanol i'r newidyn a gynhyrchwyd gan Ogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn