Cofair: year_arrival_uk
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Y flwyddyn y gwnaeth rhywun na chafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig gyrraedd y Deyrnas Unedig ddiwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys dychwelyd o ymweliadau byr i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 13

Cod Enw
1 Ganed yn y DU
2 Wedi cyrraedd cyn 1951
3 Wedi cyrraedd rhwng 1951 a 1960
4 Wedi cyrraedd rhwng 1961 a 1970
5 Wedi cyrraedd rhwng 1971 a 1980
6 Wedi cyrraedd rhwng 1981 a 1990
7 Wedi cyrraedd rhwng 1991 a 2000
8 Wedi cyrraedd rhwng 2001 a 2010
9 Wedi cyrraedd rhwng 2011 a 2013
10 Wedi cyrraedd rhwng 2014 a 2016
11 Wedi cyrraedd rhwng 2017 a 2019
12 Wedi cyrraedd rhwng 2020 a 2021
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad blwyddyn cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidynnau a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn defnyddio categorïau ychydig yn wahanol.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn