Cofair: passports_all
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae pob pasbort yn dosbarthu person yn ôl y pasbort neu'r pasbortau a oedd ganddo ar adeg y cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys pasbortau neu ddogfennau teithio a oedd wedi dod i ben ond yr oedd hawl gan bobl i'w hadnewyddu. Os cofnododd person fod ganddo fwy nag un pasbort, dim ond unwaith y cafodd ei gyfrif, wedi'i gategoreiddio yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol: 1. Pasbort y Deyrnas Unedig, 2. Pasbort Iwerddon, 3. Pasbort arall.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 52

Cod Enw
1 Ewrop: Y Deyrnas Unedig
2 Ewrop: Iwerddon
3 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Ffrainc
4 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Yr Almaen
5 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Yr Eidal
6 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Portiwgal
7 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Sbaen
8 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Lithwania
9 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Gwlad Pwyl
10 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Rwmania
11 Ewrop: Ewrop Arall: Aelod-wladwriaethau'r UE: Gwledydd eraill yr UE
12 Ewrop: Ewrop Arall: Gweddill Ewrop: Twrci
13 Ewrop: Ewrop Arall: Gweddill Ewrop: Ewrop Arall
14 Affrica: Gogledd Affrica
15 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Ghana
16 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Nigeria
17 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Canol a Gorllewin Affrica Arall
18 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Kenya
19 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Somalia
20 Affrica: De a Dwyrain Affrica: De Affrica
21 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Zimbabwe
22 Affrica: De a Dwyrain Affrica: De a Dwyrain Affrica Arall
23 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Iran
24 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Irac
25 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Y Dwyrain Canol Arall
26 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Tsieina
27 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Hong Kong (Rhanbarth Weinyddol Arbennig Tsieina)
28 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Japan
29 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Dwyrain Asia Arall
30 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Affganistan
31 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Bangladesh
32 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: India
33 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Pacistan
34 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Sri Lanka
35 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: De Asia Arall
36 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Malaysia
37 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Ynysoedd Philippines
38 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Singapore
39 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: De-ddwyrain Asia Arall
40 Y Dwyrain Canol ac Asia: Canol Asia
41 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Gogledd America: Canada
42 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Gogledd America: Yr Unol Daleithiau
43 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Canolbarth America
44 Cyfandiroedd America a'r Caribî: De America
45 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Y Caribî: Jamaica
46 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Y Caribî: Caribî Arall
47 Antarctica ac Oceania: Awstralasia: Awstralia
48 Antarctica ac Oceania: Awstralasia: Seland Newydd
49 Antarctica ac Oceania: Antarctica ac Oceania Arall
50 Tiriogaethau Tramor Prydain
51 Dim pasbort
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad pasbortau.

Ansawdd gwybodaeth

Os cofnododd person fod ganddo fwy nag un pasbort, dim ond unwaith y cafodd ei gyfrif, wedi'i gategoreiddio yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol: 1. Pasbort y Deyrnas Unedig, 2. Pasbort Iwerddon, 3. Pasbort arall. Dim ond y wlad gyntaf a ysgrifennwyd yn “Pasbort arall” a nodwyd.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am ddemograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi newid rhai categorïau i'w gwneud yn fwy cyson â dosbarthiadau gwlad a ddefnyddir mewn ystadegau gwladol eraill.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn