Cofair: multi_passports
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Yn dosbarthu person yn ôl y pasbort neu'r pasbortau a oedd ganddo ar adeg y cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys pasbortau neu ddogfennau teithio a oedd wedi dod i ben ond yr oedd hawl gan bobl i'w hadnewyddu.
Gofynnwyd i bobl nodi p'un a oedd ganddynt ddim pasbort, pasbort y Deyrnas Unedig, pasbort Iwerddon, neu basbort o wlad arall, ac i nodi enw'r wlad arall os yn berthnasol. Os oedd mwy nag un o'r opsiynau yn berthnasol, gofynnwyd i bobl nodi pob opsiwn a oedd yn berthnasol. Mewn canlyniadau sy'n dosbarthu pobl yn ôl y pasbortau sydd ganddynt, bydd y rheini â phasbort y Deyrnas Unedig neu Iwerddon, ac unrhyw fath arall o basbort, yn ymddangos ym mhob categori perthnasol.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 24
Cod | Enw |
---|---|
1 | Pasbort y DU yn unig |
2 | Pasbort Iwerddon yn unig |
3 | Pasbort arall yn unig: Ewrop, Undeb Ewropeaidd |
4 | Pasbort arall yn unig: Ewrop, Ewrop Arall |
5 | Pasbort arall yn unig: Affrica |
6 | Pasbort arall yn unig: Y Dwyrain Canol ac Asia |
7 | Pasbort arall yn unig: Cyfandiroedd America a'r Caribî |
8 | Pasbort arall yn unig: Antarctica ac Oceania (gan gynnwys Awstralia) |
9 | Â dau basbort: Pasbort y DU ac Iwerddon |
10 | Pasbort y DU ac Arall: Ewrop, Undeb Ewropeaidd |
11 | Pasbort y DU ac Arall: Ewrop, Ewrop Arall |
12 | Pasbort y DU ac Arall: Affrica |
13 | Pasbort y DU ac Arall: Y Dwyrain Canol ac Asia |
14 | Pasbort y DU ac Arall: Cyfandiroedd America a'r Caribî |
15 | Pasbort y DU ac Arall: Antarctica ac Oceania (gan gynnwys Awstralia) |
16 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Ewrop, Undeb Ewropeaidd |
17 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Ewrop, Ewrop Arall |
18 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Affrica |
19 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Y Dwyrain Canol ac Asia |
20 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Cyfandiroedd America a'r Caribî |
21 | Pasbort Iwerddon ac Arall: Antarctica ac Oceania (gan gynnwys Awstralia) |
22 | Pasbort y DU, Iwerddon ac Arall |
23 | Dim pasbort |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.
Gweld pob dosbarthiad â sawl pasbort.
Ansawdd gwybodaeth
Gwnaethom hysbysu defnyddwyr bod deiliaid pasbort Croatia wedi'u codio'n anghywir i'r grŵp “Pasbort arall: Ewrop, Ewrop Arall” yn lle “Pasbort arall: Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd”. Cywirwyd y rhain ar 28 Tachwedd 2023.
Pan gofnododd person fod ganddo fwy nag un pasbort yn y maes “Pasbort arall”, dim ond y wlad gyntaf a gafodd ei hysgrifennu a nodwyd.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Ddim yn gymaradwy
Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).