Cofair: migrant_ind
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'r dangosydd mudo yn dosbarthu pobl yn ôl y gwahaniaeth rhwng eu cyfeiriad presennol a'u cyfeiriad flwyddyn yn ôl. Mae'n cynnig dangosydd o symudiad pobl o fewn y Deyrnas Unedig ac o'r tu allan iddi, yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
0 Mae'r cyfeiriad flwyddyn yn ôl yr un peth â chyfeiriad y cyfrif
1 Y cyfeiriad flwyddyn yn ôl yw cyfeiriad y myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig
2 Mudwr o'r tu mewn i'r Deyrnas Unedig: Roedd y cyfeiriad flwyddyn yn ôl yn y Deyrnas Unedig
3 Mudwr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig: Roedd y cyfeiriad flwyddyn yn ôl y tu allan i'r Deyrnas Unedig
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant dan 1 oed.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).