Cofair: residence_length
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'r cyfnod preswylio yn y Deyrnas Unedig yn deillio o'r dyddiad y cyrhaeddodd person ddiweddaraf i fyw yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'n cynnwys dychwelyd o wyliau neu arhosiad byr y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Dim ond i breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig y mae cyfnod preswylio yn gymwys. Nid yw'n cynnwys preswylwyr arferol a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig sydd wedi allfudo ac wedi dychwelyd ers hynny - caiff y rhain eu cofnodi yn y categori “ganed yn y Deyrnas Unedig”.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Ganed yn y DU
2 10 mlynedd neu fwy
3 5 mlynedd neu fwy ond llai na 10 mlynedd
4 2 flynedd neu fwy ond llai na 5 mlynedd
5 Llai na 2 flynedd
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn