Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn math o ail gyfeiriad tri o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad math o ail gyfeiriad

Cofair: second_address_type_priority

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Cyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog
2 Cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref
3 Tŷ gwyliau
4 Cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor
5 Cyfeiriad cartref myfyriwr
6 Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
7 Cyfeiriad partner
8 Arall
9 Heb nodi'r math o ail gyfeiriad
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phobl nad oes ganddynt ail gyfeiriad.

Dosbarthiad 4a math o ail gyfeiriad

Cofair: second_address_type_priority_4a

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Ail gyfeiriad: Arall
2 Ail gyfeiriad: Gwaith
3 Ail gyfeiriad: Gwyliau
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phobl nad oes ganddynt ail gyfeiriad.

Dosbarthiad 3a math o ail gyfeiriad

Cofair: second_address_type_priority_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Ail gyfeiriad: Arall
2 Ail gyfeiriad: Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phobl nad oes ganddynt ail gyfeiriad.