Cofair: second_address_type_priority
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn nodi p'un a oes gan berson gyfeiriad arall (rhywle lle mae'n aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn) a'r math o ail gyfeiriad yw hwn.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Cyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog
2 Cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref
3 Tŷ gwyliau
4 Cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor
5 Cyfeiriad cartref myfyriwr
6 Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
7 Cyfeiriad partner
8 Arall
9 Heb nodi'r math o ail gyfeiriad
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phobl nad oes ganddynt ail gyfeiriad.

Gweld pob dosbarthiad math o ail gyfeiriad.

Ansawdd gwybodaeth

Mae gwir nifer y bobl sy’n nodi ail gyfeiriad fel “cyfeiriad canolfan y lluoedd arfog” yn debygol o fod yn uwch na’r amcangyfrif oherwydd cyfarwyddiadau a roddwyd i bersonél y lluoedd arfog. Byddwch yn ymwybodol o hyn wrth ddefnyddio’r data hyn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu dau gategori, sef “Cyfeiriad partner” ac “Heb nodi'r math o ail gyfeiriad”.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn