Cofair: alternative_address_indicator
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Cyfeiriad (yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi) y mae rhywun yn aros ynddo am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn nad yw'n breswylfa arferol iddo.

Fel arfer mae ail gyfeiriadau yn cynnwys:

  • canolfannau'r lluoedd arfog
  • cyfeiriadau sy'n cael eu defnyddio gan bobl sy'n gweithio i ffwrdd o’r cartref
  • cyfeiriad cartref myfyriwr
  • cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
  • cyfeiriad partner
  • cartref gwyliau

Os oedd person ag ail gyfeiriad yn aros yno ar noson y cyfrifiad, roedd yn cael ei ddosbarthu'n ymwelydd â'r ail gyfeiriad ond yn cael ei gyfrif fel preswylydd arferol yn ei gyfeiriad cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Dim ail gyfeiriad
2 Ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig
3 Ail gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Ansawdd gwybodaeth

Mae gwir nifer y bobl sy’n nodi ail gyfeiriad fel “cyfeiriad canolfan y lluoedd arfog” yn debygol o fod yn uwch na’r amcangyfrif oherwydd cyfarwyddiadau a roddwyd i bersonél y lluoedd arfog. Byddwch yn ymwybodol o hyn wrth ddefnyddio’r data hyn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?

  • Nac ydw
  • Ydw, nodwch y cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig (y DU) isod NEU ydw, nodwch enw’r wlad

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod yn cyfrif pob eiddo lle mae pobl yn byw. Bydd hefyd yn ein helpu ni i ddeall newidiadau i nifer y bobl sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd.

Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio gwasanaethau a llunio polisïau. Er enghraifft, gall ble mae pobl yn aros yn ystod yr wythnos waith effeithio ar batrymau cymudo.

Mae hefyd yn helpu i esbonio unrhyw wahaniaethau rhwng nifer y cartrefi sy'n cael eu cyfrif yn y cyfrifiad a ffynonellau eraill, fel y gofrestr etholiadol.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2011.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).