Cofair: ce_position_age
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae preswylydd arferol mewn sefydliad cymunedol naill ai yn:

  • rhywun sy'n byw yno
  • rhywun sy'n gweithio ac yn byw yno
  • rhywun sy'n aelod o deulu staff sy'n gweithio ac yn byw yno

Mae'r newidyn deilliedig hwn yn dangos y mathau gwahanol o breswylwyr sefydliadau cymunedol ac yn eu categoreiddio yn ôl oedran (mewn bandiau oedran 10 mlynedd).

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 11

Cod Enw
1 Preswylydd: Yn 0 i 15 oed
2 Preswylydd: Yn 16 i 24 oed
3 Preswylydd: Yn 25 i 34 oed
4 Preswylydd: Yn 35 i 49 oed
5 Preswylydd: Yn 50 i 64 oed
6 Preswylydd: Yn 65 i 74 oed
7 Preswylydd: Yn 75 i 84 oed
8 Preswylydd: Yn 85 oed a throsodd
9 Aelod o staff neu berchennog
10 Perthynas neu bartner i'r perchennog neu i aelod o'r staff
11 Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).