Cofair: position_in_ce
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Mae preswylydd arferol mewn sefydliad cymunedol naill ai'n rhywun sy'n:

  • byw yno
  • gweithio ac yn byw yno
  • aelod o deulu staff sy'n gweithio ac yn byw yno

Mae'r newidyn deilliedig hwn yn dangos y mathau gwahanol o breswylwyr sefydliadau cymunedol ac yn eu categoreiddio yn seiliedig ar sut y gwnaethant ateb y cwestiwn cyflogaeth.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Preswylydd
2 Aelod o staff neu berchennog
3 Perthynas neu bartner i'r perchennog neu i aelod o'r staff
4 Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Cwestiwn a ofynnwyd

Pa un o'r rhain sy'n eich disgrifio orau yn y sefydliad hwn?

  • Preswylydd (er enghraifft, myfyriwr, aelod o’r lluoedd arfog, claf, carcharor)
  • Aelod o staff neu berchennog y sefydliad
  • Perthynas neu bartner i’r perchennog neu i aelod o’r staff
  • Aros dros dro (dim cyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

nan

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu un categori newydd, sef “Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)” ar gyfer Cyfrifiad 2021. Os ydych yn cymharu data Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011, gallwch adio'r ddau gategori “Preswylydd” ac “Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)” at ei gilydd.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).