Cofair: occupancy_rating_rooms
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

P'un a yw'r llety mewn cartref yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu heb fod yn llawn. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen ar y cartref â nifer yr ystafelloedd sydd ar gael.

Mae nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen ar gartref yn defnyddio fformiwla sy'n nodi:

  • bod angen tair ystafell ar gartrefi ag un person, sy'n cynnwys dwy ystafell gyffredin ac un ystafell wely
  • bod angen o leiaf ddwy ystafell gyffredin ac ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol mewn cartrefi sydd â dau berson neu fwy:
  1. pâr priod neu gwpwl sy'n cyd-fyw
  2. rhiant sengl
  3. person 16 oed neu drosodd
  4. pâr o bobl o'r un rhyw rhwng 10 a 15 oed
  5. person rhwng 10 a 15 oed gyda phlentyn dan 10 oed o'r un rhyw
  6. pâr o blant dan 10 oed, ni waeth beth fo'u rhyw
  7. person dan 16 oed na all rannu ystafell wely â rhywun yn 4, 5 neu 6 uchod

Mae cyfradd deiliadaeth o:

  • -1 neu lai yn awgrymu bod llai o ystafelloedd mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (gorlawn)
  • +1 neu fwy yn awgrymu bod mwy o ystafelloedd mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (heb fod yn llawn)
  • 0 yn awgrymu bod y nifer delfrydol o ystafelloedd mewn cartref

Caiff cyfran nifer yr ystafelloedd ei gymryd o ddata gweinyddol Asiantaeth y Swyddfa Brisio am y tro cyntaf yn 2021. Caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif ar lefel cyfeiriad, tra cofnododd Cyfrifiad 2011 nifer yr ystafelloedd ar lefel cartref. Mae hyn yn golygu, ar gyfer cartrefi sy’n byw mewn annedd sy’n cael ei rhannu annedd, y caiff nifer yr ystafelloedd sydd ar gael yn cael eu cyfrif ar gyfer yr annedd gyfan gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac nid y cartref unigol.

Nid yw diffiniad yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnwys ystafelloedd ymolchi, toiledau, cynteddau neu landin, ceginau, ystafelloedd gwydr neu ystafelloedd amlbwrpas. Mae pob ystafell arall, er enghraifft ystafelloedd byw, stydi, ystafelloedd gwely, ystafelloedd bwyta ar wahân ac ystafelloedd y gellir ond eu cynnwys fel storfa, wedi’u cynnwys. Sylwch fod cwestiwn Cyfrifiad 2011 yn cynnwys ceginau, ystafelloedd gwydr ac ystafelloedd amlbwrpas ac eithrio ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar gyfer storio yn unig. I addasu ar gyfer y gwahaniaeth diffiniadol, mae nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen yn cael ei dynnu o’r nifer wirioneddol o ystafelloedd sydd ar gael, ac yna ychwanegir 1.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd: +2 neu fwy
2 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd: +1
3 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd: 0
4 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd: -1 neu lai
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad cyfradd defnyddio ystafell.

Ansawdd gwybodaeth

Mae'n amhriodol mesur newid yn nifer yr ystafelloedd rhwng 2011 a 2021, gan fod Cyfrifiad 2021 wedi defnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer y newidyn hwn. Yn hytrach, defnyddiwch amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer nifer yr ystafelloedd gwely at ddibenion cymharu dros amser.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Ni ellir cymharu'r newidyn hwn â'r newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Y rheswm dros hyn yw bod y data yng Nghyfrifiad 2021 yn cael eu casglu gan ddefnyddio data gweinyddol yn lle data o Gyfrifiad 2021.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn