Cofair: occupancy_rating_bedrooms
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
P'un a yw'r llety mewn cartref yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu heb fod yn llawn. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar y cartref (y Safon Ystafelloedd Gwely) â nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael.
Pobl a ddylai gael eu hystafell eu hunain yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely:
- cwpl sy’n oedolion
- unrhyw oedolyn sy’n weddill (21 oed neu drosodd)
- dau wryw (rhwng 10 ac 20 oed)
- un gwryw (rhwng 10 ac 20 oed) ac un gwryw (9 oed neu iau), os oes odrif o wrywod rhwng 10 ac 20 oed
- un gwryw rhwng 10 ac 20 oed os nad oes gwrywod rhwng 0 a 9 oed i baru gydag ef
- ailadrodd camau 3 i 5 ar gyfer menywod
- dau blentyn (9 oed neu iau) ni waeth beth fo’u rhyw
- unrhyw blentyn sy’n weddill (9 oed neu iau)
Mae cyfradd deiliadaeth o:
- -1 neu lai yn awgrymu bod llai o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (gorlawn)
- +1 neu fwy yn awgrymu bod mwy o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (heb fod yn llawn)
- 0 yn awgrymu bod y nifer delfrydol o ystafelloedd gwely mewn cartref
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 6
Cod | Enw |
---|---|
1 | Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: +2 neu fwy |
2 | Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: +1 |
3 | Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: 0 |
4 | Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: -1 |
5 | Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: -2 neu lai |
-8 | Ddim yn gymwys |
Gweld pob dosbarthiad gradd defnydd ar gyfer ystafelloedd gwely.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Cymaradwy iawn
Beth yw ystyr cymaradwy iawn?
Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael eto. Dysgwch fwy am ddata cyfrifiad y Deyrnas Unedig.
Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn
Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.
Gallwch chi: