Cofair: voa_number_of_rooms
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Gall ystafell fod yn unrhyw ystafell mewn annedd heblaw am ystafelloedd gwely, toiledau, cynteddau neu landins, ceginau, ystafelloedd gwydr neu ystafelloedd amlbwrpas. Mae pob ystafell arall, er enghraifft ystafelloedd byw, stydis, ystafelloedd gwely, ystafelloedd bwyta ar wahân ac ystafelloedd y gellir ond eu cynnwys fel storfa, wedi'u cynnwys. Os yw dwy ystafell wedi'u trosi'n un, cânt eu cyfrif fel un ystafell.

Caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif fesul cyfeiriad. Mae hyn yn golygu, ar gyfer cartrefi sy'n byw mewn annedd sy'n cael ei rhannu, y caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif ar gyfer yr annedd gyfan ac nid y cartref unigol.

Mae'r diffiniad hwn yn seiliedig ar ddiffiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 1 ystafell
2 2 ystafell
3 3 ystafell
4 4 ystafell
5 5 ystafell
6 6 ystafell
7 7 ystafell
8 8 ystafell
9 9 neu fwy o ystafelloedd

Gweld pob dosbarthiad nifer yr ystafelloedd (Asiantaeth y Swyddfa Brisio).

Ansawdd gwybodaeth

Mae'n amhriodol mesur newid yn nifer yr ystafelloedd rhwng 2011 a 2021, gan fod Cyfrifiad 2021 wedi defnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer y newidyn hwn. Yn hytrach, defnyddiwch amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer nifer yr ystafelloedd gwely at ddibenion cymharu dros amser.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Ni ellir cymharu'r newidyn hwn â'r newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Y rheswm dros hyn yw bod y data yng Nghyfrifiad 2021 yn cael eu casglu gan ddefnyddio data gweinyddol yn lle data o Gyfrifiad 2021.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn