Cofair: hh_persons_per_room
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Caiff nifer yr aelodau yn y cartref ei rannu â nifer yr ystafelloedd yn y cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Hyd at ac yn cynnwys 0.5 o bobl fesul ystafell
2 Dros 0.5 a hyd at 1.0 o bobl fesul ystafell
3 Dros 1.0 a hyd at 1.5 o bobl fesul ystafell
4 Dros 1.5 o bobl fesul ystafell
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Ansawdd gwybodaeth

Nid yw'n briodol mesur newid yn nifer y bobl fesul ystafell rhwng 2011 a 2021, gan fod Cyfrifiad 2021 wedi defnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer newidyn nifer yr ystafelloedd. Yn hytrach, defnyddiwch amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer nifer y bobl fesul ystafell wely at ddibenion cymharu dros amser.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Ni ellir cymharu'r newidyn hwn â'r newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Y rheswm dros hyn yw bod y data yng Nghyfrifiad 2021 yn cael eu casglu gan ddefnyddio data gweinyddol yn lle data o Gyfrifiad 2021.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn