Cofair: hh_persons_per_bedroom
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Caiff nifer yr aelodau yn y cartref ei rannu â nifer yr ystafelloedd gwely yn y cartref.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Hyd at ac yn cynnwys 0.5 o bobl fesul ystafell wely
2 Dros 0.5 a hyd at ac yn cynnwys 1.0 o bobl fesul ystafell wely
3 Dros 1.0 a hyd at ac yn cynnwys 1.5 o bobl fesul ystafell wely
4 Dros 1.5 o bobl fesul ystafell wely
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).