Cofair: number_bedrooms
Cymhwysedd: Cartref
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Nifer yr ystafelloedd gwely mewn cartref.

Nid yw'r nifer hwn ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 1 ystafell wely
2 2 ystafell wely
3 3 ystafell wely
4 4 neu fwy o ystafelloedd gwely
-9 Ddim yn gymwys

Gweld pob dosbarthiad nifer yr ystafelloedd gwely.

Cwestiwn a ofynnwyd

Sawl ystafell wely sydd at ddefnydd aelodau o’r cartref hwn yn unig?

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd y cwestiwn yn gyfuniad o'r cwestiwn â dwy ran a ofynnwyd yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi awdurdodau lleol i ddeall prinder tai neu gartrefi gorlawn yn eu hardal, a mynd i'r afael â hyn.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2011.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi dileu'r categori “0 ystafell wely”.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn